Nutella cartref

9 Rhagfyr 2015

Gan Meleri Bowen

Beth am roi cynnig ar y nutella cartref yma? Mae’n cynnwys melysydd naturiol a blasus, ac yn guilty pleasure perffaith! Dyma’r cynhwysion:

2 cwpaned o Hazelnuts

½ cwpaned o medjool dates

½ cwpaned o maple syrup

½ cwpaned o laeth almwn

3 llwy bwdin o bowdwr cacao

Dull 30 munud.

Rhostiwch yr hazelnuts am 10 munud ar dymheredd o 150⁰C. Gadewch iddynt oeri cyn eu rhoi mewn peiriant prosesydd bwyd. Cymysgwch tan yn fân iawn. Ychwanegwch y medjool dates a’u cymysgu. Yna ychwanegwch y maple syrup, llaeth almwn a phowdwr cacao.

Mae Meleri wedi gwneud  fideo o’r broses. Yummmmmm!

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma