Mae croeso cynnes i bawb ymuno i ddathlu lansiad ‘Dal i Fynd’, nofel newydd Sioned Wiliam, yn Chapter am 6 o’r gloch nos Sadwrn, Medi 28ain.
Mae’r nofel yn dilyn tair menyw yn ystod blwyddyn eu bywydau llawn antur a hiwmor. Mae trobwynt ar ei ffordd i’r dair, ac erbyn i gylch blwyddyn fynd heibion bydd golwg go wahanol ar eu bywydau – er gwell ac er gwaeth.
Yng ngeiriau Bethan Gwanas: Tonic o nofel! Wedi chwerthin yn uchel ond yn agos at ddagrau weithiau hefyd.’
Mi fydd gwin a diodydd ysgafn ar gael.
RSVP branwen@ylolfa.com
sylw ar yr adroddiad yma