Michael D Jones: arwr yntau gwallgofddyn, gofynna Huw?

30 Medi 2015

Mae  ein colofnydd dadleuol Huw Onllwyn yn teimlo’n anesmwyth gyda dathlu Patagonia 150.

“Ers yn fachgen bach, rwyf i wedi bod braidd yn ‘underwhelmed’ gan Patagonia. Wedi’r cyfan:

  • ‘does dim llawer o siaradwyr Cymraeg yno, a dweud y gwir;
  • ‘da chi ddim yn clywed am lawer o bethau cyffrous yn digwydd ym Mhatagonia;
  • mae Patagonia yn bell i ffwrdd (7,548 milltir o Radur).

Mae’r Seychelles hefyd yn bell i ffwrdd (5,178 milltir o Radur).

 

Pa le fysech chi’n hoffi mynd ar eich gwyliau? Y Seychelles neu Trelew?

Seychelles

Seychelles

Trelew yn nhalaith Chubut

Trelew yn nhalaith Chubut

 

 

 

 

 

 

Ar hyn o bryd, wrth gwrs, rydym yn dathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa. Mae ‘na luvvies ymhobman yn dathlu: yn actio, yn sgwennu llyfrau a barddoniaeth ac yn canu. Mae nhw ar S4C a Radio Cymru. ‘Roedden nhw yn yr Eisteddfod. Mae nhw yng nghylchgrawn soporific Golwg ac yn Barn. Mae nhw ymhobman!

Ond rwy’n dal i fod yn ‘underwhelmed’!

Fel gallwch ddychmygu, mae teimlo fel hyn yn gwneud i Gymro Cymraeg cydwybodol, fel fi, deimlo braidd yn euog.

Beth, felly, yw fy mhroblem gyda’n cyfeillion annwyl o Batagonia?

Y peth cyntaf i’w gofio yw bod Michael D Jones (rhyw ficer o’r Bala) a’i griw o expats wedi penderfynu gadael Cymru gan eu bod yn poeni bod gormod o Saeson yn symud i fyw yma. Boddwyd y Bala gan y Saeson ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wrth gwrs – ac erbyn heddiw, nid oes neb o gwbl yn siarad Cymraeg yno. [Shum mishtake shurely? Ed]. Wel, diolch yn fawr Michael. Diolch am fynd i ffwrdd a gadael i’r gweddill ohonom ddal ein tir yn erbyn yr haid o Saeson.

Wedi’r cyfan, pa fath o ddyn sy’n mynd ati i ddarbwyllo teuluoedd i adael eu gwlad a’u cartrefi saff, i hwylio’n bell – ac i gychwyn o ddim ar dir anial, ar ochr arall y byd? Ai arwr cenedlaethol neu wallgofddyn? Mae’n f’atgoffa o Jim Jones a’i ‘Peoples Temple Agricultural Project’ yn Guyana – ond heb y cyanide.

Yn ail, fe wahoddwyd Michael D Jones i Batagonia gan lywodraeth hyfryd yr Ariannin, a oedd yn awyddus i goloneiddio’r ardal. (‘Patagonia was chosen for its isolation and the Argentines’ offer of 100 square miles of land along the Chubut River in exchange for settling the still-unconquered land of Patagonia for Argentina’yn ol Wicipedia

A felly, dyma Michael a’i gwlt yn cyrraedd Chubut ar 28 Gorffennaf 1865, ar wahoddiad llywodraeth yr Ariannin, er mwyn cyfrannu at y broses o goloneiddio Patagonia.

Wele dyfyniad o Wicipedia:

Argentine troops killed more than a thousand Indians and displaced over 15,000 more from their traditional lands. Ethnic European settlers developed the lands for agriculture, turning it into a breadbasket that made Argentina an agricultural superpower in the early 20th century.

The Conquest is highly controversial. Apologists have described the Conquest as bringing civilization, while revisionists have labeled it a genocide.”

Ni wn amdanoch chi, ond mae hyn yn creu rhyw deimlad anesmwyth ynof innau.   Wedi’r cyfan, dyma Michael a’i ddisgyblion druan, yn bartneriaid yn y broses o goloneiddio, gyda llywodraeth a aeth ati i ladd y bobl gynhenid.

Beth, tybed, fyddai’n hagwedd, pe byddai rhywun wedi arwain criw o toffs o Knightsbridge i goloneiddio Patagonia – a’u bod, hyd heddiw, yn mynnu chwifio Jac yr Undeb wedi iddynt ddwyn y wlad oddi ar y bobl cynhenid. Ai rhywbeth i’w ganmol fyddai hynny?

A pheth trist, hefyd, fu hanes bobl cynhenid Patagonia trwy’r ugeinfed ganrif – a hyd at heddiw.

Mae’n werth i chi ddarllen yr erthygl yma, gan Matthew Parris, am hanes Indiaid de America . Mae’n stori ddiddorol.

Dyma ychydig or erthygl:

I do not exaggerate when I say that for all the efforts of apartheid in southern Africa, the whites in Africa never kept the blacks down with the quietly successful efficiency with which South Americans of largely European descent have repressed the Indian population.

Mae ‘na sôn, wrth gwrs, fod Michael a’i gwlt wedi profi cyfnod cychwynnol o drais rhyngddynt a’r Tehuelche – ddim ond i’r Tehuelche helpu’r Cymry, maes o law (i oresgyn diffyg bwyd ayb. ‘Doedd dim siop Lidl o fewn 500 milltir, mae’n debyg).

Ond, eto fyth, dyma fu eu hanes yn ôl un ffynhonell.

”The advent of Patagonian sheep farming in 1876 was to have a detrimental impact upon the Tehuelche people………….

Their way of life, forged over thousands of years, sadly proved to be incompatible with the dominant Western culture and, though some Patagonian communities still claim Tehuelche heritage today, Western diseases, exposure to alcohol, and the calamitous loss of native lands, all contributed to the ultimate extinction of the Tehuelche tribes. The last Gününa’küna (northern Tehuelche) speaker died in 1960, and there only exist a handful of Aónik’enk (southern Tehuelche) speakers today in Patagonia.”

A dyna pam, go debyg, rwy’n ‘underwhelmed’ gan Patagonia.

Galwaf, felly, ar Carwyn Jones, ein Prif Weinidog, i ymddiheuro i’r hyn sy’n weddill o’r Tehuelche – a chynnig iawndal iddynt wedi i Michael a’i ddisgyblion ddwyn gymaint o’u tir, difetha eu diwylliant a chwarae rhan yn y broses o lanhau ethnig sydd wedi digwydd ym Mhatagonia a De-America.

Yn y cyfamser, ble mae fy mhasbort?

‘Rwyf am fynd i’r Seychelles…”

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma