Mam yn protestio yn erbyn dedfryd ‘creulon ac anghyfiawn’ ei mab

5 Hydref 2013

gan Efa Thomas

Dydd Mawrth diwethaf bu protest tu allan i’r Senedd yn erbyn y dyfarniad IPP (Indeterminate Sentence for Public Protection, neu Dedfryd Amhenodol er Diogelu’r Cyhoedd). Trefnwyd y brotest gan Shirley Lloyd o Adamsdown, sydd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn IPP ers dros ddwy flynedd bellach. Mae ei mab, Shaun Lloyd, wedi bod ar ddedfryd IPP am ladrad ers 2005, dedfryd byddai fel arfer yn cario cosb o garchar o rhwng 18 i 36 mis. Mae Shaun wedi treulio y rhan orau o’i fywyd fel oedolyn o dan glo, ond pan gafodd ei ddedfrydu i dariff o bum mlynedd, ni sylweddolodd Shaun na’i deulu beth fyddai hynny’n ei olygu.

“Gan ei fod yn ddedfryd newydd ar y pryd, doedden ni ddim yn gwybod beth oedd ef yn ei wynebu,” meddai Shirley. “Nid wyf yn credu fod hyd yn oed y barnwr yn deall oblygiadau’r ddedfryd pan roddon nhw. Mae’n ddedfryd creulon ac anghyfiawn.” meddai Shirley.

Er mai dim ond ychydig o bobol oedd yn protestio tu allan i’r Senedd, mae angerdd y fam hon yn amlwg ac dim ond cam bach arall yn ei ymgyrch hi ydyw. Mae hi wedi cael miloedd o bobl i arwyddo deisebau, wedi mynd a llythyr i’r Prif Wenidog Prydain yn Stryd Downing ac wedi cynnal nifer o brotestiadau mewn ymgais i dynnu sylw at yr anghyfiawnder mae ei mab yn dioddef.

Beirniadaeth

Mae’r Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai wedi disgrifo’r ddedfryd IPP fel, “Un o’r darnau deddfwrol gyda’r lleiaf o gynllunio yn hanes dedfrydu Prydain” ac yn 2012 cafwyd gwared o’r ddyfarniad IPP. Y broblem bellach ydy fod y carcharorion gafodd eu rhoi ar y ddedfryd, dal i fod yn y carchar ac yn cael ei dal am drosedd y gallent gyflawni, yn lle y drosedd maent wedi ei gyflawni. Daeth IPP i rym yn 2005, a’r nod oedd creu dedfryd a fyddai’n carcharu troseddwyr am gyfnod amhenodol – carcharorion oedd yn cael eu ystyried yn beryglus ond nid oedd ei dedfryd yn cael ei ysytyried yn ddigon difirfol iddyn nhw wynebu carchar am oes. Gyda IPP, roedd troseddwyr yn derbyn isafswm cyfnod o gosb, neu thariff, i’w dreulio yn y ddalfa. Ar ôl hyn gallant gael eu rhyddhau, ond dim ond ar ôl perswadio y bwrdd parôl nad oeddent bellach yn risg difrifol i’r cyhoedd. Y broblem yw, nid yw’r bwrdd parôl yn hoff o gymryd risgiau a felly nid yw’r carcharorion yn cael euShaun Lloyd gadael allan.

“Pan rwy’n rhoi fy hun yn ei esgidiau, mae’n fy mrifo i’r byw. Gallaf ei ddychmygu yn eistedd yn ei gell, yn meddwl pa bryd y galla i anadlu awyr iach eto? Pryd alla i weld ei deulu eto? Pryd y cai fy fywyd yn ol?” Mae Shirley yn treulio ei ddiwrnodau yn poeni am Shaun, ac yn dioddef o salwch corfforol a meddyliol yn sgil y straen difrifol a achoswyd gan yr ansicrwydd sy’n gysylltiedig â dedfryd ei mab.

Carchardai’n orlawn

O’r 6550 o garcharorion IPP, mae dros hanner wedi mynd heibio eu dyddiad tariff, ond dal yn y carchar. Wrth ystyried bod carchardai Prydain yn orlawn, ac bod pob carcharor yn costio dros £40,000 y flwyddyn i’r trethdalwr mae’n rhaid gofyn pam nad oes mwy o sylw yn cael ei rhoi i’r carcharorion IPP. Mae’r we yn frith o blogiau, sylwadau ac ymgyrchoedd gan gannoedd o famau a gwragedd tebyg i Shirley sy’n awyddus iawn i wybod pa bryd fydd eu dynion yn dychwelyd adref. Mae Shirley wedi defnyddio’r we i greu cysylltiadau, ac fel hyn mae’r ymgyrch wedi tyfu.

Creda mam Shaun petase ef wedi cyflawni’r un trosedd yn y presennol, byddai wedi derbyn dedfryd o bum mlynedd gyda dyddiad ar y diwedd. Meddai, “Nid wyf yn esgusodi beth wnaeth Shaun; roedd e’n haeddu mynd i’r carchar am bum mlynedd. Ond pe byddai’r system yn well i Shaun, pe byddai wedi cael ei adael allan ar ôl pum mlynedd, byddai ef yn araf yn aildsefydlu yn ôl i fywyd normal ac yn dangos y gall weithio ar y tu allan yn ogystal ag ar y tu mewn.”

Cyrsiau

Tra yn y carchar mae Shaun wedi cwblhau nifer o gyrsiau, gan gynnwys iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf, mathemateg, llythrennedd, rheoli dicter a NVQ Lefel 2. Mae’n ymddangos yn anheg, wrth gymryd i ystyriaeth y ffaith fod y rhai sydd ar ddedfrydau carchar cyffredin yn gallu leihau eu dedfrydau i 50% os ydynt yn dangos ymddygiad da. Pan edrychwn ar ddynion ifanc fel Shaun, mae blynyddoedd allweddol o’i ieuenctid wedi eu cymryd oddi wrthynt oherwydd nad oes unrhyw un y mae yn sicr beth sy’n mynd ymlaen gyda dedfryd IPP.

Mae Shirley yn esbonio: “Maent yn cael cyrsiau wedi eu taflu atynt, ond nid ydynt yn cael gwrandawiad parôl yn brydlon, am nad oes digon o fyrddau parôl i fynd o gwmpas, ac mae yn hunllef. Mae’n anodd i nhw brofi eu bod yn ddiogel i’w adael allan i’r gymuned unwaith eto. Mae’n un frwydr mawr caled.”

Mae’r straeon o anghyfiawnder yn lledaenu’n gyflym drwy grwpiau o garcharorion, eu teuluoedd a’i cymunedau.  Mae gan Shirley a’i mab lawer o ffordd i fynd cyn fydd yr hunllef drosodd. “Dwi’n gweld dim golau ar ddiwedd y twnnel” meddai.

Mis Mawrth diwethaf dihanogodd Shaun o HMP Pencoed, sy’n garchar agored (Categori D). Yn ôl Shirley, roedd ei mab wedi cael digon o’r IPP a bywyd heb unrhyw sôn am ddyddiadu rhyddhau. Roedd Shaun wedi bod yn gweithio ym mwyty’r Clink yng ngharchar Caerdydd ers rhai wythnosau ac yn casáu gorfod dychwelyd i Bencoed pob nos. Ar ôl mis ar  ffo fe benderfynodd ildio i’r awdurdod ac nawr mae wedi ei drosglwyddo i garchar yn Lloegr.

Change.org Free Shaun Lloyd

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma