Made in Roath 2013: celf yn y ddinas (ac yn yr ardd!)

25 Hydref 2013

Mae Mari Gordon yn bwrw golwg dros ŵyl y Rhâth sy’n mynd o nerth i nerth.

Pob mis Hydref, am y pum mlynedd ddiwethaf, mae ardal y Rhâth wedi dathlu creadigrwydd ei thrigolion. Y flwyddyn hon, ‘roedd yr ŵyl gymunedol hon yn fwy nag erioed.

SAMSUNGMae’r rhaglen eang yn cynnwys profiadau digon confensiynol: cawn grwydro o gwmpas ystafelloedd yn edrych ar weithiau celf – peintiadau, darluniau, ffotograffiaeth ac yn y blaen – ar y waliau. Er, mae’n debyg mai waliau’r lolfa neu’r ystafell fwyta yn nhy rhywun ydynt, yn hytrach na waliau ffurfiol oriel gelf. Fel rhan o’r cynllun ‘tai agored’, mae pawb yn cael cynnig eu cartref i artistiaid arddangos eu gwaith ynddi. Ond mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys gweithdai, ymyriadau a theithiau, a phob math o bethau newydd a diddorol ‘does ‘run beirniad celf wedi baddu enw iddynt eto.

Mae’n anheg i bwysleisio’r celf weledol yn ormodol; mae’r ŵyl yn cynnwys llenyddiaeth hefyd, ac eto’n cynnig ffurfiau gwahanol i brofi geiriau, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig. Roedd perchnogion un tŷ, ar un o’r strydoedd sydd yn arwain oddi ar Ffordd Albany, yn ein gwahodd ni i ysgrifennu darn o farddoniaeth wedi ei ysbrydoli gan y Rhâth ac wedyn ei bostio drwy eu blwch post nhw. Bob bore, roedden nhw’n darllen y cynigion diweddaraf, yn dewis y gorau o’u plith a’u ‘cyhoeddi’ nhw yn eu ffenest.

Es i i’r dafarn ar y p’nawn dydd Sul, gan edrych ymlaen yn fawr at y sesiwn adrodd straeon, oedd yn gaddo cyfle i rhannu stori neu i gyfaddef cyfrinach, yn ddi-enw os oedd angen (‘dydi’r Rhâth ddim yn ardal mor fawr a hynny cofiwch). Roedd yn amlwg yn syth fod ddim ffasiwn digwyddiad yno, ac eglurodd rheolwr y dafarn, wrth weld fy ngolwg ddryslyd, fod yr artist wedi gadael mewn stranc oherwydd anghytundeb artistig! Fe gytunom ni fod ‘run ŵyl yn gyflawn heb diva.SAMSUNG

Yn y gorffennol oriel Milkwood sydd wedi bod wrth galon Made in Roath, a’r perchennog yw un o sylfaenwyr yr ŵyl. Erbyn hyn mae Milkwood wedi gweddnewid, a mae ar fin ailagor fel caffi, siop yn gwerthu bwyd a gynhyrchwyd yn lleol ond hefyd oriel gelf ar gyfer celf fforddiadwy. Roedd yn siomedig felly nad oedd i gyd yn barod ar gyfer yr ŵyl, ond fe roedd rhai arddangosiadau bach i’w gweld. Yr un hoffais i oedd ‘Palimpsest’ gan Elizabeth Tomos. Roedd yr artist wedi creu casgliad o ffotograffau o’r ardal, ac yna ein gwahodd ni i gymeryd ein ffefryn. Ond, am pob llun gymerwyd, rhaid oedd gadael gwrthrych yn ei le. Ffurfiwyd, felly, portread unigryw o’r Rhâth, a cawsom ninnau gyfle nid yn unig i ŵylio ond hefyd i greu’r gwaith.

Ar un o’r strydoedd hyfryd sy’n arwain yn syth at y parc, roedd tŷ oedd wedi bod yn fwyaf hael, ‘falle. Fel un o’r tai agored, roedd waliau dwy ‘stafell yn llawn o weithiau celf gan artistiaid gwahanol. Y rhai mwyaf cofiadawy yw peintiadau haniaethol bach, lliwgar yn llawn egni gan Kevin Pearce, oedd yn atgoffa rhywun o waith Albert Irvin, a chymysgiad o arddull a thechnegau gan Geoff Reynolds. Roedd ei ddarluniau pensil ef o ffigyrau ar y traeth ac ar eu gwyliau yn chwareus, a braf oedd gweld gymaint efo sticer yn dangos bod rhywun wedi prynnu nhw.

SAMSUNGOnd wrth grwydro’r drwy’r tŷ (heibio rhywun yn paratoi cinio) ac allan i’r ardd gefn, dyma ni’n dod ar draws uchafbwynt yr ŵyl, sef sied. Ond nid sied mohono bellach, ond amgueddfa, ‘the Actual Museum of Roath’. Yng nghwmni Dr Glen Roy a Syr Alfred Street, dyma ni’n darganfod gwrthrychau hynafol oedd yn adrodd hanes hir yr ardal, gan gynnwys bricsen o’r cyfnod 25,000CC sy’n dangos olion barbeciw, llyfr bach coch Chairman Moy a tystiolaeth fod bwystfil llyn Parc y Rhâth yn bodoli. Chi’n cofio’r hen fapiau o gyfnod yr Ymerodraeth Brydeinig, oedd yn dangos Prydain yn fwy na mae o go iawn? Wel, fe welais i’r map mwyaf cywir, yn dangos fod y Rhâth, yn wir, yn fwy nag Affrica.

Ond peidiwch da chi a meddwl mai gŵyl gwbwl amatur yw Made in Roath. Daeth artistiaid proffesiynol o Ewrop i Gaerdydd i gymryd rhan yn Empty Walls, gŵyl graffiti gyntaf Cymru. Mae ffrwyth eu gwaith dal i’w weld ar ochrau adeiladau ar draws yr ardal.SAMSUNG

Mewn gwirionedd, nid yw’r Rhâth yn brin o gyfleoedd confensiynol i weld celf drwy gydol y flwyddyn. Fe sefydlwyd Made in Roath er mwyn dathlu’r creadigrwydd fydde ni heb weld fel arall. Yn sicr, mae’r ŵyl wedi cyrraedd ei nod. Sut arall fydde ni wedi cael y cyfle i ffeirio ffotograff am blanhigyn, neu i ddysgu am garreg cyn-hanesol gydag olion Clark’s Pie?

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma