Lle Mae Arwyr Caerdydd?

27 Tachwedd 2013

gan Siôn Jobbins

Victoria Park, Despenser Gardens, Wellington, Kitchener – jyst rhai o’r llefydd yng Nghymru sydd wedi eu henwi ar ôl pobl sy’n euog o hil-laddiad a choloneiddio.

Ond lle mae strydoedd a’r gerddi a’r cofgolofnau i arwyr Cymru?

Yn enw Queen Victoria y creuwyd y Welsh Not; dyn a laddodd Llywelyn Bren ac a drechodd gwrthryfel y Cymry oedd Despenser; Wellington – arwr i’r Saeson efallai ond i’r Cymry? Lord Kitchener, dyn oedd yn gyfrifol am gadw’r ‘bobl isradd’ dan draed yn Swdan ac yna a hwrjodd y Cymry fel defaid i ymladd dros Brydain yn y Rhyfel Fawr – rhyfel waedlyd i amddiffyn Ymerodraeth waedlyd.

Pam ydym ni’n ardel yr enwau sarhaus yma?

Yn ei golofn ddiweddaraf mae’r gohebydd Vaughan Roderick yn holi pam nad oes cydnabyddiaeth i Llywelyn Bren? Roedd Llywelyn yn or-wyr i Ifor Bach ac wedi llwyddiant yr Albanwyr ym mrwydr Bannockburn yn 1316 fe arweiniodd wrth-ryfel dros hawliau’r Cymry ac i ad-enill ei dir. Curwyd ef gan Despenser a’i ddienyddio.

Gyda 700 mlwyddiant gwrthryfel Llywelyn Bren yn 2016 beth am i ni ddechrau ymgyrch i godi cofeb iddo?

A pham aros efo Llywelyn yn unig?

Beth am Ieuan Gwynedd, newyddiadurwr radical a wnaeth lawer i esbionio i’r Cymry uniaith beth oedd wedi ei hysgrifenu amdannynt yn Brad y Llyfrau Gleision. Ef hefyd oedd golygydd y cylchgrawn cyntaf i ferched yn y Gymraeg, Y Cymraes. Bu farw’n 31 oed yng Nghaerdydd.

Beth am Edward Thomas, ‘Cochfarf’, a rhedai tafarn goffi yn Custom House St ac a bu wedyn yn Faer Caerdydd. Roedd yn gefnogwr cryf i’r Gymraeg – byddai’n esiampl i rhai o aelodau presenol Cyngor Caerdydd sy’n credu mai dinas Saesneg bu Caerdydd erioed! Sefydlwyd Cymdeithas Cymmrodorion Caerdydd yn ei dafarn goffi ac roedd hefyd yn aelod o Gymdeithas Cadwraeth yr Iaith Gymraeg.

Oes plac unrhyw le i nodi lle agorwyd Ysgol Feithrin Gymraeg cyntaf Cymru? Wedi’r cyfan, os rwy’n iawn, yng Nghaerdydd oedd hwnnw hefyd!

Dewch ymlaen bobl Caerdydd. Dathlwn ein dinas, ein hanes a’n hiaith. Cymraeg yw iaith y Ddinas!

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

jane yn dweud:

Hoffwn mwy o wybodaeth am edward thomas cochfarf…mae n rhan o m teulu…mae gen i lyfr wed arwyddo ganddo i fy mam

Dylan Foster Evans yn dweud:

Byddwn yn hapus iawn i drafod Cochfarf ymhellach gyda chi Jane. Mae fy manylion cyswllt yma: http://www.cardiff.ac.uk/cy/people/view/91427-evans-dylan

Alwyn Evans yn dweud:

Yr Ysgol feithrin gyntaf oedd yr Ysgol Fore Sadwrn yn Nhŷ’r Cymry yn y 40au. Ymhlith y plant yno roedd Rhodri a Prys Morgan, Gareth Evans, prifathro Ysgol Bro Myrddin wedyn, Ethni Daniel (gwraig Michael Jones ac un a fy yr un mor ddylanwadol ag yntau yn yr ymgyrch dros addysg Gymraeg), Janie Guy ac Eryl Llywellyn Williams. Does dim cofeb fel y cyfryw i’r ysgol feithrin honno, ond ohoni y tyfodd Ysgol Gymraeg Caerdydd. Sefydlwyd hon mewn dwy ystafell yn Ysgol Ninian Park yn 1949, ac mae cofeb i’r Ysgol Gymraeg ar y mur yn yr ysgol honno – drwy lywydd y Cymmrodorion y gwnaed apêl i godi’r gofeb wrth ddathlu canmlwyddiant y Cymmrodorion yng Nghaerdydd. Wedi dwy flynedd y symudiad yr ysgol Gymraeg i Fryntâf, safle’r Ysgol Pencae presennol, ac mae murlun yn y buarth fan honno’n dathlu hanner can mlynedd addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Felly mae ambell gofeb yn bod – ond mae angen chwilio amdanynt!