Lansiad atgofion llais pêl-droed Cymru

29 Hydref 2013

gan Carl Owen

Mae’r dyn y tu ôl i un o leisiau mwyaf adnabyddus Cymru yn ail-fyw hudoliaeth rhai o’r cyfnodau mwyaf cymhellol a chyffrous mewn pêl-droed yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Mae Gareth Blainey wedi bod yn llais pêl-droed ar BBC Radio Cymru ers yn gynnar yn yr 1990au, ac mae ei gofiant newydd yn cofio rhai o’r gemau mwyaf cofiadwy y mae wedi sylwebu arnynt.

“Rwyf wedi cael y fraint o weithio ar rai gemau gwirioneddol gofiadwy.” meddai Gareth, “gan gynnwys buddugoliaeth 2-1 Cymru yn erbyn yr Eidal yn 2004, gêm gogynderfynol Wrecsam yng Nghwpan yr FA yn 1997, a gêm gyfartal Caerdydd yn erbyn Charlton yn gynharach eleni sicrhaodd fod Yr Adar Gleision yn codi i’r Uwchgynghrair.”GarethBlaineyclawr

Mae O Wembley i Wembley: Straeon Sylwebydd yn dilyn ei daith trwy rai o gemau pêl-droed mwyaf cofiadwy Cymru, gan gynnwys dyrchafiad cofiadwy Abertawe trwy’r cynghreiriau isaf i’r Uwchgynghrair.

Dywedodd Gareth, sy’n 50 oed, ac a aned dair milltir o Stadiwm Wembley cyn symud i Lanfairfechan pan oedd yn saith oed: “Rwyf wedi bod yn dyst i’w taith ryfeddol trwy’r adrannau. Roeddwn yn sylwebu ar eu gêm yn erbyn Hull yn 2003, sef gêm yr oedd yn rhaid iddyn nhw ei hennill i aros yng nghynghrair pêl-droed Lloegr, yr holl ffordd i’w gêm yn Wembley yn erbyn Reading yn 2011, pan gawsant ddyrchafiad i’r Uwchgynghrair.”

Bydd llyfr Gareth Blainey, O Wembley i Wembley, yn cael ei lansio yn Y Mochyn Du, Caerdydd, ddydd Mercher 30 Hydref am 7pm.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma