Penblwydd 40 Hapus i’r Dinesydd!

28 Hydref 2013

gan Beti George

Mae’r Cymry yn rhy barod i ymdrybaeddu yn y gorffennol yw’r cyhuddiad sy’n cael ei neud mor aml. F’ateb i yw – heb y gorffennol does na ddim presennol a fydd na ddim dyfodol – a  does na ddim byd o’i le mewn dathlu nostalgia bob hyn a hyn.  A dyna fyddwn ni’n neud nos Wener Calan Gaea’ yng Nghlwb y Diwc, ac mae na groeso i’r ysbrydion – ond nid y Sombis – sy’n dal ar ddihun i ymuno a ni i ddathlu penblwydd y Dinesydd yn 40 oed.

Ifanc yw o hyd. Fe alla i ddathlu 55 mlynedd ers i mi ddod i’r brifddinas newydd am y tro cynta.  Prifddinas, i rywun fel fi o Sir Aberteifi, a allai fod -ac yn wir fe fuse lawer o’i thrigolion yr adeg honno yn credu ei bod yn perthyn fwy i Loegr nag i Gymru. Doedd dim oll Cymreig yn perthyn iddi.

Ond chware teg i’r Dinesydd, mae ei gyfraniad i fywyd Cymraeg Caerdydd wedi bod yn dipyn mwy na fy nghyfraniad i, sy’n dal i feddwl am Sir Aberteifi fel fy nghartre! Pethe od yw gwreiddiau.

Gweledigaeth yr athrylithgar athronydd Merêd Evans oedd y Dinesydd –  mewnfudwr i Geredigion ers hynny!

A buan y cafodd sêl bendith athrylith arall – neb llai na Saunders Lewis  – oedd yn ei weld fel “organ i uno’r Cymry Cymraeg yn y brifddinas a’i chyffiniau.”

Ond rhyw dair blynedd wedyn, hollti’r Cymry Cymraeg a wnaeth. Ac athrylith arall a greodd yr hollt sef yr anfarwol Ddyn Dwad – Dafydd Huws. Bob mis yn y Dinesydd  fe fuse ei golofn yn adrodd ei hanes fel newydd ddyfodiad i’r brifddinas yn cael croeso awchus ag eithrio gan rai o gapelwyr y ddinas. “Dwyn gwarth ar ei gymdeithas” a wnai yn ôl gweinidog Capel Ebenezer oedd, medde fe, yn lleisio anfodlonrwydd ar ran swyddogion ac aelodau’r capel. Credai mai “leiff y dyn dwad oedd symud o dafarn i gasino ac i ddiotle.”

Wel – fe ddaeth y Dyn Dwad yn arwr i Gymru gyfan pan gafodd y dyddiaduron eu trosglwyddo i radio a theledu. A synnwn i ddim bod y dyhead wedyn ymhlith pobl ifainc o bob cwr o Gymru i ddod i Gaerdydd i fyw yn deillio o brofiadau cyffrous y Dyn Dwad!

Ugain mlynedd a mwy wedi hynny fe gafodd y Dinesydd ei alw gan olygydd y cylchgrawn Barn ar y pryd, Simon Brooks, fel “y papur gwaethaf yn y wlad”!  Gallwch ddychmygu’r ymateb i hynny!

Fe glywn ni fwy am hynny ac am y Dinesydd ei hun nos Wener. Ac fe fydd na ddathlu credwch chi fi a hwnnw’n adlewyrchu amrywiol ddoniau’r  brifddinas. Pan ddois i i Gaerdydd am y tro cynta – roeddwn i’n gallu byw mywyd i raddau helaeth yn iaith y nefoedd gan fy mod i a’m ffrindiau yn astudio Cymraeg yng Ngholeg y Brifysgol. Ac unwaith yr wythnos bu’swn yn cael chwistrelliad o grefydd yn yr iaith yng Nghapel y Crwys – cyn iddo droi yn fosg!  Er dw i’n cofio yn y fan honno cael sioc fy mywyd wrth sylweddoli bod y saint, unwaith y bydden nhw tu fas, yn siarad Saesneg a’i gilydd!

Diolch i’r drefn bod ‘na chwyldro wedi digwydd ers hynny. Ac fe allwn ddathlu yng Nghlwb y Diwc heb ofni cyfarthiad ambell i sant, a hynny yng nghwmni rhai o’r doniau disglair sy wedi gneud cymaint ar hyd y blynyddoedd i sicrhau ein bod bellach yn gallu ymhyfrydu yn y ffaith bod Caerdydd yn haeddu’r teitl o fod yn brifddinas Gymreig Cymru.

Bydd Beti yn cyflwyno noson o gerdd a chân a chwerthin i ddathlu penblwydd papur bro hynaf Cymru, yng nghwmni:

Heather Jones, Rhys Iorwerth, Catsgam, Dafydd Emyr, Lowri Cooke a Côrdydd.

Pryd: Nos Wener Tachwedd 1af am 8yh.

Lle: Clwb y Diwc, Clive Road, Treganna.

Tocynnau: £7 ar werth yn Caban a Siop y Felin

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma