Hwyl yn yr Ŵyl wrth i Tafwyl Dyfu

11 Gorffennaf 2016

Gan Hannah Pearce

Eleni, ymwelodd 36,500 o bobl â gŵyl Tafwyl yng Nghastell Caerdydd sy’n dwf aruthrol o’r 34,000 a ymwelodd â’r ŵyl llynedd. Cynhaliwyd yr ŵyl am yr eilwaith dros y penwythnos cyfan, gyda mwy o bobl nag erioed, 15,500, yn mynychu ddydd Sul.

Wrth i’r haul lifo dros furiau’r castell, llifodd y torfeydd o bobl trwy’r gatiau i ymlacio yn y tywydd braf wrth wrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn atseinio trwy dir y castell. Mae’r ŵyl, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed, yn mynd o nerth i nerth a gyda chymaint o bethau di-ri yn cael eu cynnig ar gyfer pawb o bob oedran, mae’n amlwg pam ei bod hi’n tyfu o flwyddyn i flwyddyn.

Tafwyl blodau

Fel rhywun a oedd yn gweithio yn Tafwyl i Brifysgol Caerdydd, un o’r pethau hyfryd a welais oedd y cymaint o bobl a ddaeth i’r ŵyl nad oedd o reidrwydd yn medru siarad Cymraeg. Yn union fel y llynedd, roedd nifer o bobl o gefndiroedd di-Gymraeg wedi mynychu’r ŵyl a braf oedd eu gweld nhw’n mwynhau diwylliant Cymraeg ac yn dod yn rhan ohono. Dyna fy hoff beth am Tafwyl; y teimlad cynnes o gymuned sy’n cryfhau bob blwyddyn a’r agwedd gadarnhaol sy’n cael ei dangos tuag at yr iaith Gymraeg. Gan fod cymaint o bethau gwael wedi, ac o hyd yn, cael eu dweud am yr iaith, mae cael gwyliau fel Tafwyl mor bwysig i bwysleisio ac atgyfnerthu pwysigrwydd yr iaith a’i bod yn gryfder, ac nid gwendid, i’n gwlad ni. Hyfryd oedd clywed yr iaith yn cael ei siarad fel iaith fwyafrifol tu fewn i waliau’r castell yn ogystal â chlywed pobl yn ymddiddori yn yr iaith ac yn ceisio siarad ychydig ohoni am y tro cyntaf. Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr Menter Caerdydd, “Roedd hi’n benwythnos arbennig unwaith eto eleni ac roedd hi’n braf gallu croesawu cymaint o ymwelwyr i ddathlu diwylliant Cymraeg gyda ni”.

Syndod hefyd yw faint o weithgareddau a digwyddiadau sy’n medru ffitio ar un darn o dir. Dros y penwythnos, cafwyd sesiynau coginio, sesiynau am yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth a pherfformiadau gan ysgolion heb sôn am y rhesi o stondinau yn gwerthu bob math o bethau! Un o’r prif atyniadau wrth gwrs oedd y prif lwyfan a ddaeth yn gartref i nifer o fandiau Cymraeg dros y deuddydd megis Candelas ac Eden. Roedd hi’n braf clywed cerddoriaeth yn cael ei chwarae trwy gydol y dydd ac yn bell i’r nos; ni waeth faint o’r gloch oedd hi, roedd cymaint o bobl o hyd yn mwynhau’r ŵyl.

Bydd Tafwyl yn dychwelyd flwyddyn nesaf ond mewn lleoliad newydd am flwyddyn cyn iddi ddychwelyd i’r castell yn 2018. Cyn hynny wrth gwrs, y digwyddiad mawr nesaf yw Eisteddfod 2016 a fydd yn ymgartrefu’n agos i Gaerdydd, yn Y Fenni, ymhen ychydig wythnosau.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma