Hwyl a sbri yn y sioe cerddoriaeth gomedi ‘9 to 5’ – Adolygiad

23 Gorffennaf 2013

Neithiwr (22ain Gorffennaf) oedd noson agoriadol sioe ‘9 to 5’ yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Aeth Emma Meese i weld beth oedd yn mynd ymlaen yno

I fo’n onest dwi ddim yn ‘die hard’ fan o Dolly Parton ond dwi yn hoffi’r gân 9 to 5. Felly pan weles i hysbys ar ochr bws yn dweud bo 9 to 5 y Miwsical gan Dolly ei hun yn dod i Gaerdydd wnes i lenwi a brwdfrydedd.
Felly dyna fi ar y noson agoriadol yn dishgwl mlân am ddwy awr o hwyl, a wnaeth y sioe ddim siomi – roedd yn wych! photo 1

Yn ôl ei hamcangyfrif ei hunan, mae Brenhines Nashville wedi ysgrifennu dros 3000 o ganeuon, gan gynnwys y gerddoriaeth a’r geiriau i’r sioe yma hefyd.

Yn ogystal â chwarae prif ran yn y ffilm sgrin wreiddiol yn yr 80au cynnar mae Dolly ei hun yn chwarae rhan yn y sioe gomedi – yn yr agoriad, wedi’r egwyl a’r diweddglo.
Er nad yw wedi teithio i Gymru i fod ar y llwyfan mae’n cymryd rhan ar sgrin fawr sydd yng nghanol y llwyfan, ac yn ei ffilm mae’n rhoi neges bersonol i gynulleidfa Caerdydd sydd, yn fy marn i, yn ychwanegiad hyfryd.

Mae’r cast a chriw yn anhygoel o dalentog, safon y canu’n wych a’r stori’n ddoniol. Mae’r sioe’n hynod o gamp ac mae’r prif actorion yn siwtio’u rhannau i’r dim.
Er iddo gael ei greu a seilio yn yr 80au mae stori 9 to 5 yr un mor berthnasol heddiw.

Ben new (cropped)Mae’r actor Ben Richards yn ardderchog fel y cymeriad Frank Hart sydd yn rheolwr rhywiaethol, celwyddog, rhagrithiol a rhagfarnllyd. Ac mae yn hynod o sbeitlyd i’r menywod sy’n gweithio iddo er iddynt fod yn fenywod cryf a thalentog.

Mae Jackie Clune, Natalie Casey, Amy Lennox a Bonnie Langford yn wych fel y cymeriadau Violet Newstead, Judy Bernley, Doralee Rhodes a Roz Keith. Daeth bob un a’r cymeriadau yn fyw ar y llwyfan ac mi roedd eu dawnsio a’r canu o’r safon uchaf.
Erbyn y diwedd roedd pawb yn y gynulleidfa ar eu traed yn canu a chlapio’u dwylo, diweddglo hwylus i sioe ddigri. 9252-287 photo 2

Gadawais i Ganolfan y Mileniwm yn ysgafn fy nghalon a throed wedi llwyr fwynhau’r sioe yma.

Am fanylion neu docynnau i weld 9 to 5 ewch at wefan Ganolfan Y Mileniwm ble mae’r sioe yn rhedeg hyd 27ain Gorffennaf.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma