Holi Gwenno Saunders

25 Ebrill 2014

(Diolch am ganiatad Noel Darcy i ddefnyddio’r llun)

Dweud wrtho ni am dy raglen radio Gwenno..

Sioe sy’n chwarae a thrafod cerddoriaeth amgen ac avant-garde o Gymru ac o weddill y byd yw ‘Cam O’r Tywyllwch’ https://soundcloud.com/cam-or-tywyllwch(mae’r enw yn dod o’r feinyl cyntaf aml-gyfrannog amgen Cymraeg a ddaeth mas ar Recordiau Anrhefn yn yr 80au) . Ni’n darlledu bob dydd Mercher, rhwng 12-1 (tan Fai’r 21ain) ac ar Radio Cardiff bob nos Iau, rhwng 9-10. Mae’n rhoi cyfle i ni ddarganfod artistiaid hen a newydd sydd wedi arloesi  ac mae’n rhoi cyfle i ni gyflwyno cerddoriaeth a syniadau cyffrous i gynulleidfa yng Nghymru, Llundain ac ar draws y byd ar y we.
Ble’r wyt ti arni gyda dy gerddoriaeth a dy gyfansoddi?…
Mi fyddai’n rhyddhau albwm newydd yn ystod yr Eisteddfod o’r enw ‘Y Dydd Olaf’. Albwm ‘pop’ yw hi mewn gwirionedd sy’n archwilio hunaniaeth, iaith, ffeministiaeth, technoleg a gwleidyddiaeth. Rwyf wedi eisiau recordio albwm Gymraeg erioed ond heb gael yr hyder i wneud cyn i mi ddod nôl i fyw yng Nghaerdydd tua dwy flynedd yn ôl. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth musique concrète a cherddoriaeth electroneg cynnar, mae yna nifer o fenywod wedi bod yn allweddol i ddatblygiadau’r sîns yma, fel Daphne Oram, Delia Derbyshire, Suzanne Ciani – mae hi’n rhestr faith! Fi erioed wedi uniaethu llawer gyda cherddoriaeth roc, er bod yna rhai artistiaid rwy’n hoffi’n fawr yn y genre yma, ond mae cerddoriaeth electroneg wedi bod o ddiddordeb i fi erioed ac mae’n braf gwybod fod yna nifer fawr iawn o fenywod wedi arloesi yn y byd yma ymhell o fy mlaen i.

Alli di rannu mwy gyda ni am dy gefndir Cernyweg a sut mae dy gerddoriaeth yn chwarae rhan yn hyn i gyd i ti…

Fe ges i fy magu yng Nglan-yr-afon yn siarad y Gernyweg gyda fy Nhad a’r Gymraeg gyda fy chwaer Ani a fy Mam ond roeddem ni gyd yn siarad y Gernyweg gyda’n gilydd ar yr aelwyd. Er nad oeddem yn byw yng Nghernyw, fe fyddem ni’n cyfansoddi caneuon yn y Gernyweg ac mae fy Nhad yn fardd yn y Gernyweg felly fe fyddem ni’n cael cerddi a straeon yn yr iaith ac yn gwrando ar lawer iawn o gerddoriaeth Cernyweg ar feinyls ac ar ddramau llawn dychan ar gasets. Fe gafodd fy Nhad ei fagu yn St Tudy felly fe oedd y cysylltiad gyda’r wlad ond mae’n rhaid i fi ddweud fod y we wedi bod yn gymaint o help i fi gysylltu gyda phobl eraill sy’n siarad yr iaith ar draws y byd. Mae fe wedi neud i fi deimlo’n rhan o gymuned, sy’n hynod bwysig pan wyt ti’n siarad iaith leiafrifol. Mae tua 300-500 o bobl yn siarad y Gernyweg yn rhugl a dros 2,000 yn deall yn dda ac mae’r we wedi rhoi cyfle euraidd i bobl ddefnyddio eu Cernyweg yn amlach. Mae cerddoriaeth o Gernyw yn ddiddorol iawn, ar yr un llaw fe gei di artistiaid hynod draddodiadol fel BUCCA a Brenda Wootton ac ar y llaw arall arloeswyr y byd electroneg fel Aphex Twin a Luke Vibert, mae yna debygrwydd i’r ddeoliaeth sydd yma yng Nghymru – y frwydr gyson rhwng y ‘traddodiadol’ â’r newydd.

Beth sydd gen ti ar y gweill?…

Mi fyddai’n chwarae yng Nghanolfan Y Mileniwm ar Fai’r 4ydd, ac yna’n mynd ar daith i hyrwyddo fy albwm. Gwyliwch y gofod am fwy o fanylion! www.peski.co.uk@gwennosaunders @peskirecords @camortywyllwch

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma