Hirddydd hâf- neu Alban Hefin

31 Mai 2016

Gan Eiry Palfrey

Dyma’r hen enw ar ddiwrnod hira’r flwyddyn – ysytyr ‘alban’ yw’r pwynt uchaf, ac mae ‘hefin’ yr un gair â ‘haf’. (Ystyr Mehefin – yw canol haf). Ystyr y gair Saesneg ‘solstice’ yw ‘yr haul yn sefyll yn llonydd’; ac mi fydd e am rai dyddiau cyn troi yn ôl tua’r gaeaf.

Mae hwn yn ddyddiad pwysig iawn yn astrolegol – pan fo’r haul yn oedi dros drofan Cancer a symud i arwydd Cancer. Eleni bydd hyn yn digwydd am 22.34 ar Fehefin 20fed.

Os cawsoch eich geni ar yr 20fed neu’r 21ain o Fehefin mae pethau mawr yn eich aros mewn bywyd. Mae gyda chi’r nerth i wynebu pob math o anhawsterau, a’u gorchfygu. Mae’r dyddiad hwn hefyd yn argoeli’n dda i bawb sydd am wneud rhywbeth pwysig neu dyngedfennol ar y diwrnod.

Bu’r dyddiad yn bwysig ers bore oes. Ers canrifoedd mae dynion wedi edrych i fyny at yr haul a’r lloer a’r sêr am arweiniad, ysytriwch fel yr adeiladwyd Côr y Cewri (Stonehenge) i sicrhau fod yr haul yn codi rhwng y ddwy garreg fawr yng nghanol y cylch ar adeg Alban Hefin a tharo’r ‘heel stone’ (yr un gair â ‘haul’), a nid dyma’r unig feini o’r oes gerrig lle mae hyn yn digwydd.

Roedd Hirddydd Haf, Gwyl Ifan (dathlwyd diwrnod Ioan Fedyddiwr ar Fehefin 24ain) yn bwysig iawn i’r hen Gymry. Amser i ddathlu fod y cnydau’n tyfu, i ladd gwair ac i fwynhau addewid yr haf. Codwyd y fedwen haf ar noswyl Gwyl Ifan a dawnsio o’i hamgylch am 9 diwrnod.

Arferid cynnau coelcerthi hefyd a syllu i’r fflamau i gael gwybod eich ffortiwn a phwy fyddech chi’n ei briodi.

Yr enw ar St John’s Wort (sy’n adnabyddus erbyn hyn fel llysieuyn meddyginiaethol) yw Llys Ioan ac fe’i rhoddwyd uwchben y drws i ddanfon ysbrydion drwg i ffwrdd, oherwydd ystyriwyd noswyl Gwyl Ifan yn ‘ysbrydnos’, sef noson pan fyddai’r ysbrydion ar gerdded.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma