Her yr Oriau Brig

21 Mai 2014

Llun gyda chaniatâd S4C

Bu Huw Onllwyn yn gwylio rhaglen ar S4C pob noson am wythnos, yn dilyn pryder Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, am y gostyngiad o 17% yn nifer y bobl sy’n gwylio S4C yn ystod yr oriau brig.

Fe ddaeth yr wythnos i ben, ac mae modd i chi ddarllen ei farn am y rhagleni a welodd, ar wefan Pobl Caerdydd.

Yn yr erthygl olaf, isod, mae Huw yn trafod y sianel, o’i bersbectif fel ‘dyn cyffredin sy’n gwylio’r teledu ar adegau’.

Yr Arbrawf ar ben: edrych yn ol ac edrych ymlaen.

‘Rwy’n hoff iawn o S4C. Mae’n dda gwybod ei fod yno – yn darlledu rhaglenni yn Gymraeg. ‘Rwy’n gwybod, hefyd, ei fod yn darlledu rhaglenni penigamp – sy’n gallu cystadlu gyda rhaglenni unrhyw sianel deledu arall, unrhyw le yn y byd.

Meddyliwch, da chi, am Y Gwyll.

Mae S4C yn drysor. ‘Da ni’n lwcus iawn i’w gael – a mawr yw ein diolch i’r rheiny fu’n brwydro i’w sefydlu.

Y broblem yw, wrth gwrs, fod y nifer o bobl sy’n ei wylio wedi disgyn. Mewn cyfarfod diweddar o Gyngor Cynulleidfa Cymru ym mis Mai, fe ddywedodd Rhodri Talfan Davies fod y gostyngiad o 17% yng nghynulleidfa S4C yn ystod yr oriau brig yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn “bryder go iawn o ran darparu gwerth am arian a gwasanaethu’r gynulleidfa Gymraeg ei hiaith”. Dywedodd, yn ychwanegol, mai’r prif fater o bryder oedd ‘perfformiad cyffredinol y sianel, gyda ffigyrau’r gynulleidfa yn gwaethygu yn gyflymach na’r trend hanesyddol sydd yn wynebu’r holl ddarlledwyr”

Cafwyd ymateb prydlon i’w ddatganiad:

‘Roedd Ian Jones (Prif Weithredwr S4C) yn nodi bod ‘ffocysu ar un ffordd o fesur perfformiad yn unig (allan o’r naw mesur perfformiad sy’n cael eu defnyddio gan S4C) yn creu darlun anghyflawn o’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig’ a bod ‘S4C yn canolbwyntio’n llwyr ar sicrhau bod ein cynnwys yn cwrdd â disgwyliadau pobl Cymru’

Dywedodd Glyn Davies AS: ‘Mae’n bryder i mi fod uwch-reolwr o fewn y BBC yn gwneud sylw ar rywbeth sydd yn benderfyniad rheolaethol yn S4C…’

Yn ôl Iestyn Garlick, Cadeirydd y gymdeithas cynhyrchwyr annibynol TAC: ‘Mae unrhyw ostyngiad mewn ffigyrau gwylio yn bryder i unrhyw un. Ond…mae’n rhaid i ni gofio bod pobl yn gwylio teledu ar bethau sydd ddim yn deledu bellach. Maen nhw’n gwylio ar eu iPads, neu eu gliniaduron, neu ar yr iPlayers a’r holl ffyrdd eraill. Felly mae ychydig yn anonest i ddweud fod y ffigyrau ar i lawr pan rydych chi mond wedi edrych ar un set o ffigyrau’.

Dywedodd Elan Closs Stephens, ymddiriedolwr BBC ar gyfer Cymru, ei bod yn ‘croesawu’r cydweithrediad rhwng y BBC a S4C er mwyn delio gyda’r heriau o wasanaethu siaradwyr Cymraeg ar sawl platfform.’

Ymatebodd Cymdeithas yr Iaith drwy feirniadu’r BBC a dweud bod angen darlledwr Cymraeg aml-gyfrwng newydd sy’n “rhydd” o’r BBC – a bod datganiad Rhodri Talfan yn rhan o batrwm o ymosodiadau sinigaidd gan reolwyr BBC ar S4C a’r iaith Gymraeg.

Beth oedd yn ddiddorol i mi, fodd bynnag, oedd na wnaeth unrhyw un gynnig unrhyw sylw am gynnwys rhaglenni S4C. Achos, heb ddigon o raglenni da, mae ‘na lai o rheswm i wylio S4C. Ac i mi, safon rhaglenni S4C yw’r elephas maximus indicus yn yr ystafell, yng nghyswllt unrhyw sgwrs am ffigyrau gwylio.

Cyn i chi ddarllen gweddill yr erthygl yma, fodd bynnag, ’rwy’n hapus iawn i ddatgan nifer o bethau:

  • nid wyf yn wyliwr cyson o S4C;
  • nid wyf yn deall y byd darlledu;
  • nid oes gennyf gywilydd (rwy’n hapus i gynig fy marn, er bod ffermwyr Cymru’n meddwl fy mod yn siarad rwtsh ac yn siarad drwy fy het);
  • does dim ots ‘da fi os ydych yn meddwl fy mod yn dwpsyn.

Yr unig beth rwy’n ceisio ei wneud yw cynnig fy marn – a chynnig syniadau.

Safon amrywiol

Fel y nodwyd uchod, ‘rwyf wedi treulio wythnos yn gwylio amrywiol raglenni ar S4C – a wedi sgwennu am y profiad ar Pobl Caerdydd.

Fel y gellir disgwyl, amrywiol oedd y safon, o’r gwych i’r gwael. Gellir dadlau, wrth gwrs, mai’r un peth yw hanes arlwy’r BBC, ITV neu Sky. Yn anffodus, fodd bynnag, mae S4C yn sianel mor ‘fach’, mae’n anoddach cuddio cynnyrch gwael neu anniddorol, o’i gymharu, er enghraifft, a’r BBC, sy’n darlledu ddydd a nos – ac ar 8 o sianeli. Hefyd, wrth bori drwy 8 sianel y BBC, mae ‘na well siawns i chi ddod o hyd i rhywbeth sy’n plesio.

O ran Sky, nid yw’n ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus – a gellir maddau’n rhwyddach y nonsens a’r ail-adrodd sydd ar sianeli’r bwystfil hwnnw.

Ar S4C, mae rhaglen wael, neu anniddorol, yn beth mwy amlwg – a does dim byd arall y gellir ei wylio yn y Gymraeg (nid oes modd i mi fynd o S4C1 i S4C2, i S4C3 a S4C4 er mwyn darganfod rhywbeth sy’n plesio – ac i fod yn gwsmer hapus – fel gallaf wneud gyda’r BBC neu Sky).

Cystadleuaeth annheg

Mae pethau’n haws i’r sianeli Saesneg mewn ffyrdd amlwg eraill, hefyd. Er enghraifft, mae modd iddynt ddarlledu:

  • miloedd o ffilmiau
  • cyfweliadau gyda miloedd o bobl sy’n enwog ac yn ddi-Gymraeg (ym myd gwleidyddiaeth, llenyddiaeth, drama, miswig…)
  • dangos miloedd o fandiau byd enwog yn canu
  • darlledu digwyddiadau poblogaidd nad oes modd i S4C eu fforddio, neu na fyddai yn gwneud synnwyr iddo ddarlledu (Wimbledon, y Premier League, gwyl Glastonbury, yr Oscars…)
  • llwyth o rhaglenni hen a hanesyddol o archif enfawr y darlledwyr.

Yn ogystal a hyn, ac yn enwedig yng nghyswllt rhaglenni poblogaidd, megis Britain’s Got Talent neu Dr Who, mae pawb yn gallu eu trafod, gan gynnwys y cyfryngau eraill, felly mae ymwybyddiaeth y cyhoedd am rhaglenni Saesneg yn gallu bod yn uchel iawn, o’i gymharu a rhaglenni Cymraeg.

Mantais arall sydd gan ddarlledwyr Saesneg yw fod modd iddynt gynnig arlwy arbenigol iawn, megis sianeli sy’n dangos dim byd ond cartwns i blant drwy’r dydd, neu sianel sy’n dangos fideos miswig, neu sianel sy’n darlledu dim byd ond rhaglenni coginio. Mae modd iddynt dargedu cynulleidfa arbennig yn hawdd – a thrwy ail-ddangos hen rhaglenni drosodd a throsodd (a rheini’n rhagleni a wnaethwpyd gan gwmniau eraill) mae modd iddynt wneud hyn oll am gost isel.

Rwy’n siwr fod modd dadlau, hefyd, fod byd darlledu’r BBC a Sky yn gallu bod yn fwy deniadol i rhai o’n siaradwyr Cymraeg talentog, sy’n gweithio ym myd y cyfryngau. Er fod pob sianel yn gorfod cystadlu am y talent, ni fyddwn yn synnu pe byddai S4C yn cael ei weld fel ‘poor second’ gan ambell i unigolyn, sydd am fynd i weithio yn Llundain – a chyfrannu at rhaglenni sydd i’w darlledu i rhwng 4 ac 8 miliwn o wylwyr, yn hytrach na 90,000 o wylwyr (sef y nifer sy’n gwylio Pobl y Cwm, rhaglen mwyf poblogaidd S4C, ond ddim lle ‘dwi’n byw).

Mae’r uchod i gyd yn bethau hollol amlwg – a gellir fy ngalw’n naive am eu cynnwys yma – ond rwy’n meddwl ei fod yn werth i ni atgoffa’n hunain amdanynt. Dyma’r byd cymharol hawdd sy’n wynebu cystadleuwyr S4C…ac o fan hyn mae rheolwyr S4C yn gorfod mynd ati i goncro tonnau’r awyr. Druan ohonyn nhw.

O’i gymharu a sefyllfa darlledwyr di-Gymraeg, mae’n amwg fod S4C yn wynebu tasg anodd, yn debyg i’r hyn a wynebir gan ‘ocean-going tadpole’. Ond, i aralleirio yr hyn a ddywedodd Winston Churchill, peth braf fyddai gallu dweud, rhyw ddydd, ‘some tadpole, some neck’.

Ymyrraeth gwleidyddol

Wrth gwrs, mae popeth mae S4C yn ei wneud yn derbyn scriwtini gwleidyddol (annefnyddiol, fel arfer). Nid scriwtini o safon rhaglenni S4C mohono, neu o gyfraniad diwyllianol S4C, ond scriwtini ‘point scoring’ gwleidyddol, neu gwynion ymgyrchwyr a phurion ieithyddol sydd, rwy’n siwr, yn gwastraffu oriau maith o amser rheolwyr y sianel.

Rwy’n siwr fod y ffocws a’r pwysau gwleidyddol wedi bod yn elfen bwysig ym mhenderfyniad ryfedd y sianel i symud i Gaerfyrddin. Mae pawb yn gwybod, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru, a’r Cynulliad, am weld mwy o swyddi yn symud i ffwrdd o Gaerdydd, er mwyn dod a lles economaidd i rhannau eraill o Gymru. Ond mae ymyrraeth unrhyw lywodraeth ym myd busnes, a phenderfyniadau cyrff eraill, yn beth peryglus (Duw a’n helpo, felly, os daw Ed Milliband yn Brif Weinidog).

Os yw S4C yn cael trafferth denu talent o Lundain i weithio yng Nghaerdydd, fe fydd pethau’n llawer mwy anodd iddynt ar ol symud i gefn gwlad pellennig Caerfyrddin (tua dwy flynedd yn ol fe welais hen gyfaill sy’n byw yno, yn cerdded ar hyd Little Water Street. ‘Roedd wedi ecseitio’n lan gan fod Costa Coffee newydd agor siop yn y dref). Mae’r penderfyniad i symud yno, i mi, yn arwydd fod S4C wedi ildio i bwysau gwleidyddol. Mae fel petai’r sianel yn derbyn ei fod heb awdurdod, yn methu cystadlu, ac yn barod, erbyn hyn, i rhoi’r gorau i fwrlwm bywyd dinesig a throi at fywyd tawel gorllewin Cymru. Fel petai’n barod i ymddeol.

Ac, o’r herwydd, am y dwy neu dair blynedd nesaf, fe fydd gormod o amser a ffocws rheolwyr y sianel yn gorfod troi at symud i Gaerfyrddin, adeliadu’r swyddfa newydd – a delio gyda’r talent sydd am adael.

Yn y cyfamser, dyma a ddywedywd gan arweinwyr y genedl, ym mis Mawrth (gyda diolch i wefan y BBC):

Chief Executive Ian Jones said the decision was “a major step forward for S4C’s plans to boost the economy and Welsh language in another part of Wales”.

Huw Jones, Chair of the S4C Authority, said: “We’re confident that these plans would…offer economic and linguistic benefits to Carmarthen.”

First Minister Carwyn Jones tweeted: “Welcome news from S4C – 2018 move to Carmarthen will create specialist jobs and promote use of Welsh language locally”

Welsh Secretary David Jones said: “I have no doubt that re-locating its main office to Carmarthen will help provide a significant boost to the local economy in Carmarthenshire and secure a strong future for Welsh as a community language.”

Plaid Cymru’s Welsh language spokesman Simon Thomas said: “Relocating S4C’s headquarters will bring an economic boost to the area, and it would be good to see more public bodies doing the same.”

Ond dyma ddatganiad arall gan S4C, o fis Awst 2012:

Elin Morris, S4C Director, Commercial and Corporate Policy, said: “S4C’s remit is to provide a diverse and high quality television service.”

Yn hollol. ‘A diverse and high quality television service’ yw’r flaenoriaeth gywir, nid ‘Boost the economy in Carmarthen’. Ond doedd ddim son am hyn wrth i’r sianel gyflwyno’r penderfyniad i symud i’r gorllewin.

Y dyfodol

Wel, dyna ddigon o osod y cyd-destun (o fy mhersbectif fel gwyliwr sy’n gwybod dim oll am fyd darlledu). Beth ddylai S4C ei wneud nesaf?

Gadewch i ni gofio, yn gyntaf, fod gan S4C un fantais enfawr. Hi yw ein sianel. Dyma’r unig sianel deledu sy’n gallu (ochr yn ochr a Radio Cymru) dangos ein gwlad a’n diwylliant i ni. Trwy S4C, gallwn ddod i adnabod ein gilydd yn well, a chael teimlad cryfach o berthyn i gymuned cryf o siaradwyr, teuluoedd, ffrindiau a chymunedau Cymraeg eu hiaith – yn dathlu, trwy S4C, ein bodolaeth, ein hanes, ein creadigrwydd a’n talent.

Felly, petawn i’n Brif Weithredwr y sianel, dyma fyddai fy nghynllun.

1. Aros yng Nghaerdydd

Er mwyn cadw’r ffocws ar wneud rhaglenni da – a chadw’r talent.

2. Rheoli ansawdd

Mae rhaglenni megis Requiem a’r Gwyll yn dangos yn glir fod S4C yn gallu cynhyrchu, neu gomisiynu, neu brynu, rhaglenni gwych. Ar y llaw arall mae rhaglenni megis (yn fy marn i), Porc Peis Bach a Pobl y Cwm (ar hyn o bryd) yn dangos fod modd i gwmniau gynhyrchu rhaglenni o safon isel.

Mae angen, felly:

  • Tsar Ansawdd yn S4C. Yn ddelfrydol, ni ddylai’r person yma fod yn uniongyrchol gysylltiedig ag unrhyw rhaglen (neu unrhyw adran gomisiynu). Fe fyddai angen iddo ef neu hi fod yn ddigon parod i gwestiynu, i wthio, i wrthod, i ofyn am well, i arwain, i gynghori – ac i fod yn hapus i fod yn amhoblogaidd.
  • i S4C gyhoeddi safonau gofynnol (minimum standards) ar gyfer rhaglenni. Yn adeiladu, efallai, ar y math o ddeunydd a welir ar wefan sgriptio’r BBC, sy’n cynnig cyngor a syniadau yng nghyswllt sgwennu drama, comedi ac operau sebon (dyma linc, gyda llaw, a fydd o ddefnydd i sgriptwyr Pobl y Cwm: http://www.bbc.co.uk/writersroom/be-inspired/sally-abbott)
  • i S4C feddu ar yr hawl i leihau’r arian a delir os nad yw rhaglen yn cyrraedd y safon disgwyliedig.
  • i bawb sy’n gweithio i S4C, ac i’r cwmniau sy’n cynhyrchu rhaglenni, ddeall a derbyn mai dim ond rhaglenni gwych sy’n mynd i achub S4C. Yn y pendraw, ni fydd y rhesymau gwleidyddol dros gadw’r sianel yn ddigonol, os nad yw’r nifer sy’n ei gwylio yn ddigon. Mae newidiadau mawr yn gallu digwydd yn sydyn ym myd darlledu. Megis (o wefan newyddion y BBC):
    • “The BBC’s director of television has refused to guarantee that BBC4 will stay on air beyond the next licence fee settlement following the decision to make sister channel BBC3 online only.”
  • lladd syniadau gwael yn syth, a lladd prosiectau sydd wedi cychwyn, ond sy’n rhedeg allan o bwff.

Dylid cofio nad oes angen gwario’n ddrud er mwyn creu rhaglenni o ansawdd dda.

Tu cefn i hyn oll, mae angen sicrhau fod ffocws holl ymdrechion y sianel ar greu profiadau gwych i’r rheiny sy’n ei gwylio.

3. Talent

Mae angen i Brif Weithredwr S4C ddilyn esiampl Steve Jobs, cyn bennaeth cwmni Apple. Megis:

  • chwilio am bobl gyda syniadau gwych, syniadau newydd – a syniadau a fydd yn newid canfyddiad pobl o’r hyn sy’n rhaglen diddorol a da;
  • gwrthod, mor fuan a phosib, y gwael a’r cyffredin;
  • cael gwared o’r rheiny sy’n tan berfformio (o fewn S4C, o fewn y cwmniau sy’n cynhyrchu rhaglenni, ac ymhlith y wynebau a welir ar y sgrin – gan gynnwys hen wynebau – hyd yn oed os ydynt yn ffrindiau da i rheolwyr y byd darlledu).

Mae angen i S4C, a’r cwmniau sy’n gwneud y rhaglenni iddi, ei gwneud yn gliriach eu bod yn chwilio am dalent – a’i gwneud yn fwy amlwg sut gall y talent hwnnw ddod i gysylltiad. Er enghraifft, ni welaf unrhywbeth ar wefan y sianel sy’n f’annog i gynnig syniad creadigol (unai i’r sianel neu i un o’r cwmniau). Gyda phwy ddylwn i gysylltu i drafod fy syniad gwych am ddrama am waith dydd i ddydd Llywodraeth Cymru (i’w ddarlledu ar ol 9pm gan y bydd ynddo olygfeydd allai beri braw).

Edrychwch ar hwn, er anghraifft: http://www.bbc.co.uk/writersroom/ sydd nid yn unig yn esbonio sut i gyflwyno syniadau i’r BBC, ond sydd hefyd yn cynnig canllawiau ar sut i sgwennu sgript dda. (Hmmm…fe fyddai’n syniad i S4C i yrru’r linc yma at nifer o’u sgriptwyr yn fuan).

Mae angen i ni feithrin talent yng Nghymru. Talent creadigol, i sgwennu, i ddatblygu comedi a miwsig – ac i gynhyrchu ayb. Mae angen i’r feithrinfa sicrhau ffocws ar greu syniadau a sgriptiau gwych a diddorol – a sicrhau cefnogaeth dechnegol o’r safon uchaf. Mae angen iddo fod ar gael i bobl o bob oedran – ar gychwyn, canol a diwedd eu gyrfaoedd – neu ar ôl ymddeol. Mae rhywun yn siwr o fy nghyferio at feithrinfa sydd eisoes yn bodoli – ond methais ddod o hyd iddi drwy wefannau S4C a Llywodraeth Cymru.

4. Ymwybyddiaeth

Mae’r ymwybddiaeth o arlwy’r sianel yn rhy isel. Wedi dweud hynny, mae gwefan y sianel wedi gwella – ac mae ganddi bresenoldeb ar Facebook – ond dim ond 6,837 o ddilynwyr sydd ar hwnna (allan o’r 562,000 o siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru). Mae angen codi ymwybyddiaeth ymhellach. Dyma sut:

  • ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru, sicrhau fod pob plentyn ysgol yn gorfod gwneud gwaith cartref a fydd yn eu gorfodi nhw (os yn ddigon hen), neu eu rhieni i ddilyn S4C ar Facebook. Not beyond the wit of man, surely.
  • sicrhau bod modd cofrestru ar wefan S4C er mwyn derbyn e-byst sy’n tynu sylw at rhaglenni’r sianel. Wedi’r cyfan, mae modd gwneud hyn ar wefan Menter Caerdydd – a dewis pa weithgareddau a drefnir gan y fenter sydd o ddiddordeb (fy rhai i yw dawnsio gwerin, chwarae’r delyn, cynganeddu a barddoniaeth canol oesol Cymru). Braf fyddai derbyn e-byst gan S4C i dynnu fy sylw at rhaglenni sy’n ymwneud a’r materion sydd o ddiddordeb i mi.
  • cynnwys mwy o gategoriau ar wefan y sianel. Ar hyn o bryd, os ewch i’r adran ‘pori’ fe welch y penawdau hyn: adloniant, plant, cerddoriaeth, chwaraeon, drama a ffeithiol. Ble mae ieuenctid, bwyd, natur, garddio, newyddion, crefydd, comedi, hanes…? Mae modd cynnwys rhaglen mewn mwy nag un categori, wrth gwrs, er mwyn ei chyflwyno i bobl sy’n tueddi troi at gategoriau gwahanol (er enghraifft, gellir cynnwys manylion am rhaglen am fandiau cyfoes yn y categoriau cerddoriaeth a ieuenctid).

5. Cywa wedyn?

Mae pob rhiant yn gyfarwydd a hyn. Mae’r plantos yn gwylio Cyw yn hapus braf, tan eu bod tua 4 neu 5 mlwydd oed, pan fyddant yn sylweddoli fod y fath beth a’r Cartoon Network yn bodoli – a bod Phineas and Ferb yn eithaf doniol a ‘grown up’. Am ychydig o fisoedd, fe fydd y plentyn yn teithio nol a ‘mlaen rhwng S4C a’r sianeli Saesneg hyd nes, yn y pendraw, fe fydd Phineas a Spongebob a Gravity Falls yn ennill y dydd. Ac ymlaen a nhw, wedyn, i’r Disney Channel (Lab Rats a Hannah Montana), Britain’s Got Talent a dyna nhw – wedi mynd.

Y ‘line to take’ i gymaint o blant a phobl ifanc yw bod S4C yn boring a ddim yn ‘cool’. Y drafferth yw, dyw e ddim yn amlwg i ble y dylid eu cyfeirio i weld adloniant addas ar y sianel. Fel y soniais uchod, does dim adran ieuenctid ar wefan S4C (heblaw am Stwnsh, wele isod). Mae angen brandio syml ar gyfer rhagleni i bobl ifanc (11 i 21, dyweder) a’i gwneud yn hawdd iddynt wybod beth sydd ar gael iddynt. Mae ‘na gornel o’r wefan ar gyfer Stwnsh, i blant rhwng 7 ac 13. Mae’n lliwgar iawn, a dweud y lleiaf ( a dyw e ddim yn glir be ‘di be), ond nid yw’n edrych o ddiddordeb i neb sy’n hyn na 9 mlwydd oed.

Mae angen i rhaglenni bobl ifanc fod ar flaen y gad ac yn soffistigedig (llai o chwifio dwylo yn yr awyr yn ffrantig, plis). Edgy a doniol – heb drin y gwylwyr fel pobl dwp. Pan oeddwn yn ddyn ifanc, rhaglenni megis The Tube (gyda Jools Holland a Paula Yates) oedd yn ateb y galw.

6. Aml gyfrwng a thechnoleg

Er bod S4C wedi datblygu presenoldeb ar y we (eu gwefan, Facebook a Trydar) – mae modd iddynt fynd ymhellach. Sonias yn f’adroddiad am rhaglen Requiem, er enghraifft, mai braf fyddai gallu cario ‘mlaen i ddysgu mwy am y pwnc ar y we. Braf fyddai gwybod mwy fyth am ddatblygad requiems, pwy oedd yn canu ar y rhaglen, pa ddarnau a glywsom ayb. O wneud hyn, fe fyddaf wedi treulio mwy o amser ‘gyda S4C’ a gyda’r Gymraeg.

Braf a gwych, gyda llaw, yw clywed fod S4C am ymddangos ar y gwasanaeth iPlayer erbyn yr hydref. Mae’n hen bryd! Fe wn fod y gwasanaeth Clic ar gael – ond mae’n well ‘da fi wylio teledu ar y teledu, nid ar fy iPad.

S4C High Definition: hoffwn ei gael, plis.

7. Newid canfyddiad

Mae hwn yn beth anodd, yn enwedig yng nghyswllt plant a phobl ifanc (sy’n tueddu meddwl nad yw S4C yn ddigon cwl neu’n ddigon da). Ond ni fydd modd newid canfyddiad pobl heb sichrau, yn gyntaf, fod yr arlyw yn ddigon da. Wele uchod.

Hefyd, os nad yw’r pobl yn dod i weld yr arlwy, mae angen mynd a’r arlwy at y bobl. Beth am ddangos rhagleni ar faes yr Eisteddfod (gellir dangos goreuon y sianel ym mhabell S4C) neu’r Sioe Frenhinol, neu colegau, neu ysgolion – neu mewn bws ar daith drwy Gymru? Gellir cynnig cyfle i wylio’r rhaglenni ar sgrin HD hyfryd – a chynnig cyfle i’w trafod gyda’r cynhyrchwyr a’r actorion.

‘Roedd angen ail-frandio S4C. Nid wyf o’r farn fod y syniad a gynrychiolir gan y brand blaenorol (“the concept of uncontrollable attraction – reflecting the Welsh feeling of an emotional affinity to the homeland, whether near or far”) yn ddigon clir. Ni fyddaf yn synu i glywed fod y rhan fwyaf o bobl, rhai blynyddoedd ers cyflwyno’r brand, yn dal i syllu’n syn ar y sgrin wrth weld cadeiriau’n symud at ei gilydd mewn neuadd ysgol, gan feddwl ‘Be gythral?!’

Ond, ‘roedd angen i’r brand newydd gyflwyno S4C fel sianel lle gellir gweld rhaglenni difyr a diddorol. Eithaf syml, rili.

Yn anffodus, nid wyf yn meddwl fod y brand newydd (coedwigwyr yn syllu mewn i’r camera ayb) yn mynd a ni’n agos i’r hyn sydd ei angen. (Wel, rwy’n meddwl fod gan S4C frand newydd, er mai son am yr hen frand sydd ar y wefan hyd at heddiw).

8. Synergedd

Mae angen i S4C a Radio Cymru gydweithio mor agos a phosib – er mwyn bwydo gwylwyr a gwrandawyr o un cyfrwng i’r llall.

Mae angen i raglenni arbenigol chwilio am synergedd o fath gwahanol, drwy chwilio am eitemau sy’n perthyn yw briff – ond sydd hefyd o ddiddordeb i gymaint a phosib o bobl.  Er enghraifft, fe ddylai hanner rhaglen Ffermio ddelio gyda materion sydd o ddiddordeb i’r rheiny nad sy’n ffermio / byw yng nghefn gwlad Cymru – yn ogystal a’r ffermwyr eu hunain. Megis safon a diogelwch bwyd, yr amgylchedd, gwarchod cefn gwlad, mynediad i gerddwyr, aros ar ffermydd, coginio gyda chynnyrch ffermydd, marchnadoedd fferm, ffermio yn y ddinas (cadw ieir, tyfu llysiau, cadw gwenyn), cynhyrchu bwyd (caws, mel, selsig, siytni ayb). (Cymerodd funud yn unig i greu’r rhestr fach yna).

9. Risg

Mae angen i S4C ddal ati i gymryd risgiau – a darlledu rhagleni a fydd yn profocio, yn creu dadl, yn rhanu’r gynulledfa’n ddau. Ni ddylai ofni’r garfan wleidyddol gywir – na chwaith y purion ieithyddol sydd, wrth gwyno am bob ‘cool’ a ‘so’ a ‘result’, yn brysur lleihau’r nifer o bobl sy’n fodlon siarad Cymraeg o gwbl. Mae nhw’n real poen yn the bum.

10. Gwylwyr

Mae angen i wylwyr S4C fod yn fwy rhagweithiol. Annog eraill i wylio – a’u cyferio at rhaglenni da (a fydd o ddiddordeb i’r person arall).

Mae angen iddynt fedru fwydo’i sylwadau i fewn yn rhwydd, yn dilyn pob rhaglen, ar wefan S4C, neu ar Facebook y sianel, neu gan ddefnyddio’r gwasanaeth Trydar.

Mae angen i ni wylio mwy o S4C. Mae ‘na bethau da iawn i’w gweld ar y sianel, ond ni ddylwn fod yn rhy amddiffynol ohono, ‘chwaith. Ni ddylid esgus fod popeth yn iawn – a fod problemau’r sianel oll yn deillio o bethau eraill megis agwedd y BBC, agwedd y Llywodraeth a’r dull o fesur perfformiad y sianel.

Mae’n bwysg i ni leisio barn, er mwyn i’r sianel ein deall yn well – a gwella’r hyn y mae’n ei ddarlledu.

Pob dymuniad da i S4C.

 

 

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma