Helter Skelter bywyd

1 Hydref 2015

Dyma darn gan Andrew Tamplin yn disgrifio ei salwch a’i daith nôl tuag at iechyd.

Yn y 6 mis diwethaf … Rwyf wedi diodde’ chwalfa feddyliol.

Gofynnwyd i mi gan lawer o bobl eithaf cynnar yn ystod fy salwch i esbonio sut deimlad oedd diodde’ o chwalfa … bydd llawer ohonoch yn gwybod fod hyn yn haws dweud na gwneud. Sut yr ydych yn esbonio i rywun y cythrwfl sy’n digwydd yn eich meddwl, y symptomau corfforol go iawn yr ydych yn eu diodde’, yr egni aruthrol mae’n eu cymryd i frwydro byw bob dydd y blinder ar anallu llwyr i ddelio â’r lleiaf o dasgau syml. Treuliais amser hir yn malu awyr, heb wneud unrhyw synnwyr i mi fy hun ac yn sicr ddim i bobl eraill … roedd hyd yn oed fy meddyg teulu yn edrych yn ddwl arna i.

Rwy’n deall nawr i’m salwch ddechrau blynyddoedd lawer yn ôl.

Rhywbryd yn fy mywyd neidiais ar yr hyn yr wyf yn ei ddisgrifio fel ‘reid ffair’ (yr Helter Skelter) heb yn wir wybod fy mod wedi gwneud hynny i ddweud y gwir . Mi wnaeth jyst ddigwydd un diwrnod. Doeddwn i ddim yn gweld y perygl. Roedd y daith yn un araf am gyfnod. Ond dros gydag amser dechreuodd y ‘reid’ gyflymu wrth i mi ddringo yn uwch, yn raddol i ddechrau a dros gyfnod o flynyddoedd. Dechreuais fwynhau’r‘thril’ o’r hyn yr oedd yn digwydd, roedd yr adrenalin fel cyffur. Roeddwn eisiau mwy a mwy. Yr oeddwn yn dod i arfer ag un cyflymder cyn i bethau gyflymu eto, yn creu mwy o waith, mwy o nosweithiau hwyr, mwy o her.

Mae’r ‘reid’ yn ffrind yn aros i mi ddod yn gyfarwydd ac wedyn yn mynd yn gyflymach eto yn gofyn i mi ddringo yn uwch at y brig, yn chwistrellu mwy o gyfrifoldeb, mwy o waith a byth yn rhoi’r cyfle i mi ddweud ‘na’, ‘digon’ ‘stop’. Byddai’r broses hon yn ailadrodd ei hun sawl gwaith drosodd a throsodd. Wrth edrych yn ôl mi roedd yna arwyddion. Rwyf yn eu hanwybyddu yn llwyr … rwy’n gryf, rwy’n anorchfygol.

Yn ystod yr  wythnosau cyntaf o sylweddoli fy mod yn sâl rwy’n gyflym iawn yn dod o hyd i ffyrdd o ddisgrifio’r hyn yr oeddwn yn mynd drwyddo. Roeddwn angen i bobl ddeall beth oedd yn digwydd – roedd angen esbonio oherwydd wrth edrych arna i ddoedd dim yn amlwg. Doedd gen i ddim craith i ddangos, dim bandej.  Datblygais enwau ar gyfer y salwch, ar gyfer yr iselder a’r pryder enbyd yr ‘anxiety mawr’ . Mae pawb wedi clywed am y ‘ci du’ neu’r black dog – ond yr wyf yn dod o hyd i ddifyrrwch wrth ddod o hyd enwau newydd – ‘Jaws’ a’r ‘Dementors’ oedd y ffefrynnau. Bu rhoi enwau i’r teimladau yn help yn y frwydr, ac yn help i’w trechu yn enwedig yn y diwrnodau lle roeddent yn gryfach na mi.

Roedd angen i mi ddeall a cheisio esbonio sut y digwyddodd hyn. (Digwyddodd hyn wedi’r salwch gael gafael arna i) Er mwyn i eraill medru fu helpu roedd yn rhaid iddyn nhw ddeall yn gyntaf.

Yr Helter Skelter oedd yr unig ‘reid’ yr oeddwn yn ei hoffi yn y ffair. Doedd gen i ddim diddordeb mewn cyffro na chyffro peryglus.

Cyrhaeddais frig yr Helter Skelter yn fy mywyd proffesiynol a phersonol. Ddigwyddodd hyn un cam ar y tro, bu rhai camau’n weddol gyflym ac eraill yn arafach, ond gyda phob cam, daeth yna wobr, her a chyffro a daniodd yr ysbryd i ddringo yn uwch ac yn uwch. Wrth ddringo teimlais yn gryfach, yn fwy hyderus a phob cam. Roedd yr ychydig gamau cyntaf yn wych, roeddent yn gyffrous … Pa mor uchel allai fynd?

Ond wrth i mi ddringo yn uwch daeth yr awydd am fwy fel cyffur, yr awydd i gyrraedd y brig yn gyflymach, yr awydd am ennill am lwyddiant beth bynnag bôr gost. Pen uchaf yr Helter Skelter oedd y nod. Dyma’r fedal aur. Dim ond un lle ar y brig oedd ar gael ac mi oedd yn berchen arni. Gafaelodd y cyffur yr her arna’i, doedd digon ddim yn ddigon, yr her nesaf fyddai’r mwyaf cyffrous, fyddai’r cam nesaf yn well na’r olaf.

Drwy wthio fy hun yn fwy mi ddringais yn uwch. Gwnaethpwyd yn siŵr na fyddai unrhyw ddylanwadau allanol (ffrindiau, teulu, cael hwyl a mwynhau) yn atal fy nod o gyrraedd y brig. Rhoddais taw ar unrhyw syniad neu feddwl sydyn am stopio a gwthiais ymlaen. Roeddwn yn gryf gallai ddim byd fy rhwystro. roedd gen i egni diddiwedd. ‘Os gall pobl eraill wneud hyn mi allai i . Dringais i fyny yn uwch … ac yn uwch … ac yna … un diwrnod mi gyrhaeddais y brig!

Llwyddiant … Cymerodd amser, blynyddoedd, egni enfawr, phŵer, gwydnwch ac aberth, bu’n rhaid i mi roi fy holl i’r broses. Roeddwn i ar ben yr Helter Skelter – yn edrych i lawr ar fy nhaith anhygoel o lwyddiannus. Roedd wedi bod yn anodd. Roedd wedi cymryd amser, ond wow!

Dechreuais gredu fy mod yn anorchfygol.

Llwyddais i fwynhau’r foment, a’r fuddugoliaeth a gwerthfawrogi’r llwyddiant a’r llongyfarchiadau.

Ond yna yn sydyn yn fuan iawn – aeth rhywbeth o’i le. Rhewais yn y fan ar le. Allwn i ddim symud o’r unfan. Cefais fy ngafael gan ofn enbyd, teimlad fod rhywbeth drwg a’r ddigwydd – rhyw deimlad ofnadwy yng nghrombil fy nghorff … mi ddiflannodd y llawenydd a’r hapusrwydd yn gyflym ac yn eu lle fe ddaeth na chymylau du llawn ofn a dinistr i fy amgylchynu.

Roeddwn nawr ar frig yr Helter Skelter yn edrych i lawr at y gwaelod. Doedd gen i ddim diogelwch, dim byd i afael arno, dim cwmni … Beth oedd yn digwydd?

Yn sydyn mi roedd yr holl sefyllfa fel ffilm arswyd. Roedd bod ar y brig nawr yn wahanol iawn i’r hyn y dychmygais y byddai, doedd gen i unman arall i fynd, doedd dringo ddim yn opsiwn. Sylweddolais mai dim ond dringo yr oeddwn yn gwybod sut i’w wneud. Dim ond dringo a gwthio fy hun oedd yn gyfarwydd. Feddyliais byth ar sut i ddod lawr!

Wrth feddwl nôl nawr rwy’n sylweddoli i mi fod yn sownd ar frig yr Helter Skelter am rai blynyddoedd yn ymladd ac yn byw gyda’r ofn. Mae’n debyg i mi ddod ag arfer a bod yno.  Dechreuais fyw gyda’r ofn cyson, y teimladau o bryder enbyd, yr anhapusrwydd ar ansicrwydd dwys … roeddwn yn gwybod na allai hyn fynd ymlaen am byth. Roedd rhaid i mi ddod i lawr o’r brig ond beth am y llwyddiant, beth am y gorffennol a’r gamp o ddringo? Roedd y dathlu wedi peidio, doedd neb bellach yn cofio am y llwyddiant a neb yn fy llongyfarch!

Rwyf wedi darllen llawer am brofiadau eraill sydd yn diodde’ o salwch meddwl ac sydd wedi cael ‘breakdown’ mae pob un yn wahanol ac yn daith unigol.

Digwyddodd y ‘breakdown’ am 10.14 ar fore Sul yn y gawod. Yn y fan a’r lle hynny dechreuodd pethau. Doedd dim allwn ni wneud i’w arbed.

Roedd fy ‘Jaws’, fy ‘dementors’ wedi penderfynu digon oedd digon.

Peidiwch â meddwl am eiliad na cheisiais aros ar y brig. Ceisiais ymgynnull gymaint o rym ac ewyllys ac egni i ymladd yn ôl. Wedi’r cyfan rwyf wedi arfer â’r teimladau o ofn, tristwch a phryder erbyn hyn, maent yn gysur, nhw sydd yn fy rheoli – allai ddim cofio dim byd arall ta beth.

Erbyn hyn (wedi i mi lwyddo dod allan o’r gawod gyda rhywfaint o gymorth) roeddwn yn eistedd wrth ymyl y sleid ac yn edrych i lawr. Roedd y gwaelod yn edrych yn bell i lawr a’r unig beth allwn weld oedd troad miniog y gornel gyntaf. Roeddwn yn dal yn dyn er mwyn peidio cwympo. O bryd i’w gilydd, byddai fy ngafael yn llacio a dechreuais lithro i lawr ychydig, ond llwyddais i dynnu fy hun yn ôl i fyny, bob tro y digwyddodd hyn defnyddiais mwy o’r egni prin oedd gen i ar ôl. Ond dal i ymladd gwnes i!

Roeddwn wedi bod i ffwrdd o’r gwaith erbyn hyn am 4 wythnos a threuliais y rhan fwyaf o’r amser yn hongian ar frig y Helter Skelter yn byw mewn ofn. Gwthiais fy hun i wneud ambell dasg syml digon di nod, roedd mynd i’r siop am laeth yn antur ddychrynllyd ond roedd hyn yn well na gadael fynd.

Y gwir oedd roedd gen i ofn enbyd o adael fynd yn llwyr . Cyn belled a oedd gen i’r egni i ymladd ag osgoi cwympo fi oedd yn ennill y frwydr – roedd gen i hunan reolaeth, urddas a hyder.

Cofiwch fy mod wedi bod ar y daith hon am gyfnod mor hir erbyn hyn. Roedd yr ofn, y blinder a’r rhwystredigaeth yn gwneud i mi grio yn aml bob dydd. Byddai fy nwylo a fy nghorff yn brifo wrth afael ymlaen mor dyn, byddwn yn crynu gan ofn. Roedd yr hyn oedd yn digwydd mor real i mi yn feddyliol ac yn gorfforol.

Ond, daeth yr anochel yn gyflym. Un noson, yn niogelwch fy ffrindiau, dechreuodd fy nwylo chwysu gan bryder ac ofn enbyd, dechreuodd fy nghalon gyflymu gymaint nes curo ei ffordd allan o fy mrest, aeth yr ystafell gyfan yn aneglur, roedd y sŵn  sgwrsio yn fy myddaru er nad oedd yn uchel … Rwy’n methu dal ymlaen dim mwy, mae hyn yn ormod, does gen i ddim y nerth rhagor … Gadewais  fynd o ochrau’r Helter Skelter a dechreuais gwympo yn gyflym tuag at y gwaelod anochel … aghhhhhhhhhhhhh.

Roedd y daith i lawr yn gyflym. Doedd dim pwynt ymladd na cheisio arafu; i fod yn onest doedd gen i ddim yr egni bellach.

Diwrnodau ar ôl y gwymp fe gysgais – llawer. Yr oeddwn yn brifo, roeddwn angen cwmni a sicrwydd fod rhywun yno … a ddechreuais fwyta – llawer!

Roedd glanio ar waelod yr Helter Skelter yn eithaf cyfforddus. Sylweddolais nad oedd y siwrne i’r gwaelod mor bell ag hynny i ddweud y gwir. Roedd y brig yn edrych yn uwch nag yr oedd mewn gwirionedd.

***

Rwyf wedi bod yn byw ar waelod yr Helter Skelter ers rai misoedd bellach. Rwy’n dechrau dod i sylweddoli nad yw’r gwaelod mor ofnus ac yr oeddwn yn ei gredu y byddai. Y gwirionedd yw mai ar y gwaelod y dechreuodd fy nhaith i’r brig flynyddoedd ynghynt. Cymaint fu’r niwed, yr egni a’r amser y treuliais yn dringo, anghofiais mai dyma mewn gwirionedd lle’r oedd pawb arall yn byw, dyma lle’r oedd hapusrwydd fy mlynyddoedd cynnar wedi digwydd a dyma’r lle i mi anghofio ers cymaint o flynyddoedd. Rwy’n sylweddoli nawr mai ar frig yr Helter Skelter oedd y lle unig, y lle ofnus ac nid yma ar y gwaelod.

Dwy’n dysgu byw eto. Ar ôl treulio cymaint o flynyddoedd yn dringo ar daith unig – mae bywyd nawr ar brydiau yn edrych yn wahanol iawn, yn gyffrous, weithiau yn rhyfedd ac yn anghyfarwydd ond mae ‘na oleuni. Rwy’n crio dipyn llai, yn gallu gwenu dipyn mwy, mae’r ofn erchyll yn lleihau a’r cymylau duon yn gwasgaru. Rwy’n gweld fy myd yn wahanol. Rwy’n aroglu blodau o’r newydd, clywed cerddoriaeth mewn sain fwy godidog ac mae’r haul yn fwy llachar nag y bu ers amser maith.

Rwy’n gwella ac fel unrhyw glaf yn dal i gael dyddiau drwg – mae amser yn bwysig a gall neb, ddim hyd yn oed fi rhoi diwedd i’r broses. Roeddwn wedi bod yn dringo i frig yr hen Helter Skelter am gymaint o amser – dwy’n gweld hynny nawr.

Dydw i ddim yn anorchfygol. Yr wyf wedi derbyn hynny. Rwy wedi dechrau bod yn garedig i mi fy hun am y tro cyntaf. Rwyf wedi rhoi caniatâd i mi fy hun fyw fy mywyd yn fy ffordd i ac yn ôl fy rheolai i, ac nid yng nghysgod pobl eraill, yn gorfod estyn a chwalu targedau a chyflawniadau ffug, ond gan wybod mai dim ond un cyfle sydd, un cyfle i fod yn hapus, a chael tawelwch meddwl.

Rwy’n falch i mi fynd i fyny i’r Helter Skelter, dwi’n falch fy mod wedi cyrraedd y brig … ond dwi mor falch i mi ddod i lawr pan wnes i. Dwy’n falch fy mod wedi bod yn sâl … neu byddwn i ddim wedi gwella!
Yr wyf wedi derbyn fy mod yn llwyddiannus heb fod angen i ddringo i’r brig. Rwy wedi derbyn fod gen i salwch meddwl … ond dwy ddim yn wahanol!

Dwy ddim yn hoff o’r ffair – ond allwch ddim dweud nad i mi roi cynnig arni!

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma