Huw Aaron

Gŵyl Llen Plant a’r cartwnydd Huw Aaron

19 Mawrth 2015

Gan Hannah Pierce

Unwaith eto, rydym yn agosáu at un o uchafbwyntiau llenyddol Cymru wrth i Ŵyl Llên Plant Caerdydd ddychwelyd i’r brifddinas ymhen wythnos. Dyma fydd drydedd flwyddyn yr ŵyl boblogaidd ac mae eleni’n bwysicach fyth gan ei fod yn gan mlynedd ers geni un o hoff awduron llenyddiaeth plant, T. Llew Jones. Bydd yr ŵyl yn dychwelyd i ganol Caerdydd ar 24ain o Fawrth a bydd yn parhau tan 29ain o Fawrth. Bydd nifer o awduron a darlunwyr yn rhan o’r ŵyl ac un o’r rhain yw Huw Aaron, dylunydd criw cymeriadau a logo’r ŵyl. Bues i’n trafod â Huw am ei yrfa bersonol a beth fydd e’n ei gynnig yn ystod yr ŵyl.

O ble cawsoch chi’r syniad ar gyfer y logo a’r criw cymeriadau?

O’dd y criw Llenyddiaeth Cymru am ddechrau’r ŵyl gyda’r cyngor a nathon nhw ofyn i fi i ddod fewn i drafod gyda nhw, so nath e ddechre gyda trafodaeth gyda nhw really ynglŷn â rhyw fath o logo. O’n ni gyd yn gytûn bod rhyw fath o anifail, fel rhyw fath o mascot yn gweithio’n dda so jyst nathon ni chwarae gyda ambell i syniad a wedyn ’nath rhywun gael y syniad oherwydd bod yr ŵyl yng Nghaerdydd ’falle byddai defnyddio’r anifeiliaid sydd ar y wal anifeiliaid ar y castell yn syniad ddiddorol. Ac unwaith i rywun gael y syniad yna odd e’n eitha’ amlwg , so es i ati wedyn, dwi’n meddwl bod ’na 12 o anifeiliaid ar y wal cerfluniau, i sgetsio ryw syniadau a’u danfon nhw. ’Nath Llenyddiaeth Cymru dewis pump o’n nhw’n hoffi gore ac wedyn creu grŵp o’r sgetsys gwahanol. Nethon nhw ddewis y mwnci, y pelican, yr udflaidd, y racŵn a’r llew.

Un o gymeriadau Huw Aaron

Un o gymeriadau Huw Aaron

Pam fod yr ŵyl mor bwysig yn eich barn chi? Pam fod angen cael pethau fel Gŵyl Llên Plant Caerdydd yng Nghymru?

Dwi’n meddwl bod darllen yn beth mor mor bwysig i bawb ond yn enwedig i bobl ifanc ac unrhyw ymgais, unrhyw beth sy’n helpu, sy’n annog darllen ymysg plant dwi 100% o blaid ac mae lot o bethau felly’n digwydd. Yr ŵyl llên plant, o beth dwi’n deall, yw’r cynta o’i fath yng Nghymru, ’falle bod pethau llai wedi bod ond mae yna un ym Mryste a fi’n siŵr bod rhai yn Llundain a dros y lle ond dwi’n gwybod bod nhw’n keen iawn i gael awduron a darlunwyr ynghyd a digwyddiadau hwyl fel bod plant yn dod. Mae’n gyfle gwych i blant i weld ond hefyd i greu hwyl a bach o sŵn o gwmpas llyfrau- i annog plant sydd ddim eto’n ddarllenwyr brwd i wneud hwn. Mae darllen yn gallu agor drysau ac annog dychymyg a chymryd plant i lefydd pendraw.

Rydych chi’n cynnig gweithdai straeon stribed yn yr ŵyl eleni. Allwch chi ddweud bach yn fwy am hyn? Beth fydd yn digwydd yn y gweithdai?

Yn gyffredinol, dwi’n hoffi annog pobl i ddod i’r gweithdŷ gyda phensil a phapur ac mae gen i wastod ‘flipchart’ neu darn mawr o bapur a na’i jyst fynd ati i esbonio bach o’r broses o sut dwi’n dod lan â’r syniad o’r cymeriadau neu sut dwi’n dechrau stori.

Pam ddylai pobl fynychu’r ŵyl?

Swn i’n dweud yn sicr os o’s na bobl neu rhieni gyda plant sy’n hoffi darllen, dylsen nhw fynd oherwydd gewn nhw brofiad eitha’ unigryw. Mae’n digwydd dros y penwythnos reit yng nghanol y ddinas. Mae’r awyrgylch o gwmpas y lle yn lot o hwyl Ar y dydd Sadwrn, gallwch ddod i’r Cardiff Story Museum achos byddai’n gwneud murlun mawr o’r anifeiliaid a byddai angen help gan blant a phobl eraill i liwio fe mewn.

Sut ddechreuoch chi arlunio?

Dwi ’di ’neud e erioed, sai’n gallu cofio amser le o’n i ddim gyda pensil yn scriblo dros pethau a dwdlo. Sen i’n gweud bod e ’di bod yn rhyw fath o compulsion erioed. O’dd e byth yn rhywbeth o’n i’n ystyried fel gyrfa really. Es i ar daith hollol wahanol, o’n i heb neud celf fel testun ysgol, ’falle achos o’n i’n mwynhau ’neud pethau sili, pethau doniol, ’neud i bobl chwerthin, ’neud lluniau doniol o bobl yn hytrach na chelf gyda capital C.

group singing and dancing 500pxO ble ydych chi’n cael eich ysbrydoliaeth?

Dwi’n darllenwr brwd fy hun a dwi wrth fy modd gyda darllen pob math o bethau o nofela i comics a llyfrau plant felly dwi’n siŵr bod hwnna’n helpu llenwi’r ffynnon o syniadau ar un lefel. Ni’n cael syniadau o bobman. Dyw cael syniadau ddim yn rhywbeth dwi’n poeni amdan i fod yn onest; mae nhw jyst yn dod ac mae jyst cael papur blanc o’ch blaen chi a meddwl ‘reit ma’ ishe i fi ’neud rhywbeth’ a wedyn jyst ishte lawr a dwdlo ac mae pethau’n dod.

Pa mor anodd yw hi i weithio yn y maes? Ydych chi’n wynebu lot o gystadleuaeth?

Yn sicr mae’n faes cystadleuol iawn; mae lot o bobl yn ’sgwennu i blant, mae sawl cartwnydd mas ’na ond dwi’n meddwl bod ’na gyfleoedd. Dwi’n meddwl mai’r peth mwya’ os yw unrhyw un ishe gweithio yn y maes yw jyst i fod yn really hyblyg o ran beth ti’n fodlon ystyried ’neud. Jyst bod ti ddim gyda syniad penodol o beth wyt ti’n ’neud achos mae cyfleoedd yn dod lan; unwaith bo’ ti’n agor dy lygaid mae ’na ryw ddrws yn agor ac os wyt ti’n dweud ‘o na fi ddim yn meddwl bod fi’n gallu neud ’na’ neu ‘falle bod hwnna’n rhy wahanol i beth fi’n ’neud’ neu bod na ryw rwystr fel ofn mentro nei di ddim fod yn llwyddiant achos dyna’r cyfleoedd. Y peth yw i gymryd y cyfle, i fynd amdani a ’neud y gorau gelli di a wedyn pwy â ŵyr. Mentro yw’r peth.

Ydych chi’n credu bod rhywbeth fel Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn rhywbeth sy’n gallu annog ac yn sail berffaith i bobl sydd eisiau gweithio yn y maes?

Yn sicr. Dwi’n meddwl bod ti’n darllen llyfr a ti’n really mwynhau’r llyfr yn un peth ac mae hwnna’n grêt ac mae’n gallu ysbrydoli ac mae’n grêt ond wedyn ’falle bod y broses o sut mae’r llyfr yn cael ei greu neu enw’r person ar y ffrynt mor bell i ffwrdd o ran mae’n rhaid i chi fod yn berson spesial i ’sgrifennu llyfr. Mae’r ŵyl hon yn grêt achos mae’n chwalu hwnna achos mae pobl yn cael cwrdd â’r awdur ac felly mae’n dod â’r holl beth yn lot fwy agos at bobl.

 Pa fath o gyngor byddech chi’n rhoi i bobl sydd eisiau gyrfa yn y byd darlunio?

Wel dwi’n siŵr bod ’na lwybrau i’w cymryd o ran grwpiau celf a choleg celf. Ond yn sicr byddwn i’n dweud i jyst ’neud y peth yn eich amser eich hun a mwynhau.

Ynghyd â gweithdai straeon stribed Huw, bydd sawl math o weithgareddau di-ri, yn Gymraeg a Saesneg, yn digwydd dros y diwrnodau. Bydd y rhain yn amrywio o weithgareddau ymarferol a rhyngweithiol i sesiynau gwrando ar awduron yn adrodd straeon. Bydd sesiynau hefyd yn cael eu cynnig ar gyfer oedolion gyda’r nos i ddathlu bywyd a gwaith T. Llew Jones a sesiwn arall a fydd yn cynnig trafodaeth ar yr addasiad Gymraeg o’r stori hudolus Alice in Wonderland. Er mwyn prynu tocynnau ar gyfer yr ŵyl neu ar gyfer rhagor o wybodaeth, ymwelwch â’r wefan:- http://www.gwylllenplantcaerdydd.com/content.asp

Yn sicr, mae hon yn ŵyl rhy dda i’w cholli ac yn ffordd wych o gychwyn gwyliau’r Pasg!

 

 

 

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon