Mae’n gadael blas sur yn y ceg, fel bwyta lemwn...

Gwasanaeth Siomedig gan Comisiynydd y Gymraeg

23 Tachwedd 2015

Profiad siomedig Huw Onllwyn wrth iddo ofyn i’r Comisiynydd ymateb i ddiffyg defnydd o’r Gymraeg gan Ysbyty’r Waun:

Ym mis Gorffennaf 2014 bu rhaid i mi fynd â’m mab i Ysbyty’r Waun (Heath Hospital), wedi iddo niweidio’i goes wrth chwarae pêl-droed.

O gyrraedd A&E, siom oedd gweld nad oedd unrhyw arwydd, poster, taflen wybodaeth, aelod o staff na dim oll (bron) ar gael yn Gymraeg. Hefyd, ni ofynnwyd i mi ar unrhyw adeg os oeddwn am gael gwasanaeth Cymraeg.

Roedd yn amlwg i mi, felly, fod gan yr ysbyty broblemau difrifol o ran ei ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Nid dim ond fi a fy mab sydd yn methu derbyn gwasanaeth yno yn Gymraeg, wrth gwrs, ond pob un o’r 38,000 sy’n siarad Cymraeg yng Nghaerdydd.

Cysylltais, felly, gyda Chomisiynydd y Gymraeg, gan ofyn iddi hi ddelio gyda’r mater. Cefais ateb yn egluro fod rhaid i mi leisio fy mhryderon wrth y Bwrdd Iechyd yn gyntaf (‘yn unol ag Adran 18 y Ddeddf Iaith…blah blah blah…’) – ac y byddai’r Comisiynydd dim ond yn fodlon helpu pe na fyddwn yn hapus gydag ymateb yr ysbyty. Y neges, felly, oedd fod disgwyl i mi fynd ati i ddatrys y broblem.

Ond pa obaith sydd gan unigolyn bach diniwed fel fi i ddatrys holl ddiffygion Ysbyty’r Waun? Tybed a oedd y Comisiynydd yn disgwyl i mi fynd yno i gyfarfod prif swyddogion yr ysbyty – a chreu, gyda nhw, cynllun i wella’r sefyllfa?

Cynigiais, felly, y byddai modd iddi hi ‘ymchwilio i’r mater o dan Adran 17 y Ddeddf Iaith….blah blah blah…’, sy’n ei galluogi i wneud hynny, heb iddi dderbyn cwyn ffurfiol.

Cefais ateb yn egluro y byddai’r Comisiynydd yn ‘ymdrin â’m pryderon’ fel rhan o’i gwaith o fonitro cydymffurfiaeth y Byrddau Iechyd â’u cynlluniau iaith.

‘Hwre!’ meddyliais. ‘Da iawn Comisiynydd!’

Yna, ym mis Ionawr, bu rhaid i mi fynd â’m mam i’r ysbyty, wedi iddi dorri ei braich. Nid oedd unrhyw beth wedi newid o gwbl! Eto fyth, nid oedd unrhyw arwydd, poster, taflen wybodaeth, aelod o staff na dim oll (bron) ar gael yn Gymraeg.

Cysylltais â’ r Comisiynydd unwaith eto.

Dyma a ddarganfyddais:

Nid oedd hi wedi cysylltu gyda’r ysbyty i drafod fy mhrofiad siomedig ers i mi ddwyn y mater i’w sylw ym mis Gorffennaf 2014. Yn wir, derbyniais lythyr ganddi, ar 2 Ebrill 2015, yn cadarnhau ei bod dal heb gysylltu ‘da’r ysbyty i’w drafod – naw mis ers i mi ddwyn y mater i’w sylw!

Tybed, felly, a oedd hi’n rhy brysur i gyfarfod, ysgrifennu, neu godi’r ffon?

Wel, yn ystod yr wyth mis rhwng Gorffennaf 2014 a Chwefror 2015, fe fynychodd 124 o gyfarfodydd – ond roedd hynny’n cynwys 27 derbyniad, cinio, parti, neu lawns!

Hyd y gwelaf, cafodd hi 41 cyfarfod gyda’r math o gorff sydd o ddiddordeb i chi a fi (sef cyrff sy’n cynnig gwasanaethau i ni). Ychydig dros un cyfarfod yr wythnos i’n ‘pencampwr iaith’! Ddim yn rhy brysur, felly?

Wedi’r cyfan, ‘rwyf i wedi gorffen gweithio – a ‘dwi’n cael mwy o gyfarfodydd na’r Comisiynydd (ond rwy’n mynychu llai o dderbyniadau a phartis)!

Tybed, felly, a oedd hi’n boddi mewn cwynion?

Wel, fe dderbyniodd 189 o gwynion rhwng mis Gorffennaf 2014 a Chwefror 2015, sef tua chwech yr wythnos. Esboniodd fod ganddi 9.2 aelod o staff yn delio gyda chwynion, sef llai nag un gwyn yr wythnos, i bob un.

Wel, os nad yw hi’n fodlon delio gyda fy mhryderon, beth yn union mae hi’n ei wneud am ei chyflog? Wedi’r cyfan, mae’n costio £133,000 y flwyddyn i chi’r trethdalwyr.

Gwn iddi hi golli tua blwyddyn yng nghyswllt sefydlu hawliau iaith, wrth gyflwyno i’r Llywodraeth set o safonau iaith drafft a wrthodwyd ganddynt (yn ôl datganiad gan y Llywodraeth, ‘roedd rhai o’i safonau yn gwrth-ddweud ei gilydd’, heb sôn am restr o ddiffygion eraill: http://bit.ly/1SeSLh8).

Gofynnais, felly, am weld copi o ymateb Cyngor Caerdydd i ymgynghoriad Comisiynydd y Gymraeg ar safonau iaith. Derbyniais ateb hollol syfrdanol nad oedd ganddi’r hawl i rhyddhau’r wybodaeth, gan nad yw datgelu gwybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn  un o swyddogaethau’r Comisiynydd! Wel, dwi ddim mor siwr am hynny (ac ‘rwyf wedi gofyn i Mark Drakeford, AC, i godi’r mater efo’r Prif Weinidog. Mwy i ddilyn pan gaf ei ymateb).

Yn ogystal a hyn, fe alwais draw i’w gweld, yn ei stondin bach (iawn) yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili…

Ond, och a gwae! Nid oedd Meri wedi dod i’r Eisteddfod! Roedd hi ar ei gwyliau, medd un o’i staff – ac heb ddod i drafod gyda’r holl siaradwyr Cymraeg sy’n mynychu’r wyl.

Wel, gwn ei bod wedi mynd i Ganada i fynychu cynhadledd yr International Association of Language Commissioners (ar 20 a 21 Mai, yn yr wythnos cyn yr Eisteddfod)…

Wel, yn y pendraw, dyna siomedig oedd ymateb y Comisiyndd i fy mhryder am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg gan Ysbyty’r Heath i holl siaradwyr Cymraeg y brif-ddinas. Mae’n gadael blas sur yn y ceg, fel bwyta lemwn.

Efallai y dylwn fod wedi ei gwahodd i barti, yn hytrach na gofyn iddi ddelio gyda fy mhryderon….

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma