Grav

10 Mawrth 2015

yn Sherman Cymru. Adolygiad Sian P-J

Rhaid bod yn onest: dwi ddim yn ffan fawr o’r theatr. Y tro dwetha’ i fi weld drama fyw gyfan oedd ym 1994 pan oedd Anthony Hopkins ar lwyfan y New Theatre (er dwi wedi gadael arall un yn yr egwyl ers hynny).

Fe gymerodd hi dipyn o berswâd ar ran fy nghyfeillion o Stadiwm y Mileniwm, felly, i ymuno â nhw i weld ein cydweithiwr, Gareth Bale, yn chwarae rhan Grav yn y Sherman – ond erbyn diwedd y noson roeddwn i wedi fy swyno.

Wedi dweud hynny, naeth hi ddim dechrau’n addawol iawn gyda chôr y Sherman yn perfformio detholiad o ganeuon yn y cyntedd, oedd fod i adlewyrchu cariad y Cymry tuag at rygbi. Sai’n siŵr iawn pwy oedd yn meddwl byddai Swing Low Sweet Chariot yn addas – fel dwedodd rhywun, byddai Grav yn troi yn ei fedd …

Drama ar ffurf monolog yw Grav – er, mae hi gymaint mwy na hynny.

Mae’n ymddangos bod Grav wedi marw ac yn ffeindio’i hun mewn ystafell newid di-liw, lle mae’n siarad â’i fam, yn edrych nôl ar ei fywyd, ei yrfa, a’i berthynas hefo’i rieni a’i gyd-chwaraewyr.

Dim ond un ochor o’r sgwrs y cawn ni, a dyma lle mae’r sgript a’r actio mor arbennig yn ein tywys drwy holl emosiwn bywyd Grav, yn plethu tristwch gyda hiwmor – ac mae eitha’ lot o hynny.

Mae holl ansicrwydd ac amheuon y dyn yn amlwg ac mae’r ddau ddigwyddiad mwyaf arwyddocaol yn ei fywyd – sef marwolaeth ei dad, a’i falchder wrth dynnu crys Cymru ymlaen am y tro cyntaf – yn uno ar y diwedd.

Mae sgript Owen Thomas wedi ei ymchwilio’n fanwl ac yn cynnwys un neu ddau o “scoops”, sef straeon sydd ddim wedi eu cyhoeddi o’r blaen. Ac mae perfformiad Gareth Bale, yn dal sylw’r gynulleidfa am dros awr ar ei ben ei hun, yn ddisglair ac yn gryn gamp.

Un “niggle”: galla’ i ddim credu mai yn Saesneg byddai Grav yn siarad hefo’i fam, yn enwedig wrth drafod pynciau mor bersonol.  Efallai nad oedd hi’n siarad Cymraeg, ond i fi y Gymraeg fyddai iaith naturiol y ddrama hon, nid Saesneg.

Mae’r sioeau yn Sherman wedi gwerthu mas, ond bydd cyfle i weld fersiwn ychydig yn fyrrach yn Chapter ym mis Gorffennaf, cyn iddi fynd i Gaeredin. Bydd hi’n ddiddorol gweld sut dderbyniad bydd hi’n cael gan gynulleidfaoedd sy’n llai cyfarwydd â hanes Grav.

Bydd y sioe yn siŵr o blesio unrhyw un sy’n cofio’r Grav, a byddai diddordeb mewn rygbi yn help (ac os ydych yn cofio chwaraewyr y ‘70au, gwell fyth!).

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma