Gohebydd Made in Cardiff yn elwa o wersi Cymraeg

5 Gorffennaf 2015

gan James Eul myfyriwr Prifysgol Caerdydd

Ar ôl dysgu Cymraeg am wythnos gyda Glyn Wise, mae Ndidi Spencer wedi cael profiad i’w gofio yn Tafwyl eleni. Cafodd hi ei herio i ddysgu’r iaith gan y cynhyrchydd gweithredol yn ‘Made in Cardiff’, lle mae hi’n ohebydd.

“Dw i’n mwynhau’r gerddoriaeth,” mae hi’n dweud. “If you watch the show on Monday, you’ll see me shacking out to the music. I love the music!”

Roedd hi hefyd wedi sôn am naws Tafwyl, ““Yr atmosffer” oedd un o’r pethau gorau am yr ŵyl, yn ei hôl hi. “Everybody is just so welcoming, and so lovely. Its almost like a family convention, everywhere I look, I’m in the middle of two people running towards eachother.”

Doedd hi ddim wedi ei chael hi’n anodd ymarfer ei hiaith, “I’ve got this ‘dysgu Cymraeg’ badge… I’ve had peole just approach me and ask me questions, I’ve answered them and they’ve corrected me… And been on their merry way!”

Roedd un peth hefyd wedi gwella ei phrofiad, “y tywydd! Mae hi’n heulog!”

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma