Gadael Caerdydd

14 Mehefin 2013

Rwy’n cofio teithio i Gaerdydd gyntaf. Symud o’r gogledd wnaethon ni bryd hynny, a nawr rydyn ni am ddychwelyd yno, felly i ryw raddau, rwy’n gweld yr amser rydw i wedi ei dreulio yma fel un cylchdroad cyflawn.

Atgof cynnar sydd gen i o’r siwrne honno dros bymtheg mlynedd yn ôl, sef cael gyrru i lawr i Gaerdydd yn sedd flaen y lori ddodrefn gyda Dad – ffantasi pob hogyn tair mlwydd oed. Rwy’n siwr i gyffro’r siwrne fawr liwio fy argraffiadau o Gaerdydd – byth oddi ar hynny, lle hudol, llawn addewid yw’r ddinas hon.

Mae llawer wedi newid yn ystod yr un mlynedd ar bymtheg y bûm i yma. Mae’r ddinas fel rhyw gameleon symudliw, yn newid ei phryd a’i gwedd yn gyson, yn addasu i’w hamgylchfyd technolegol, modern.

Trawsnewidiai fy nychymyg y ddinas hon yn aml hefyd. Troai coed a chaeau Parc Fictoria yn dyrrau cestyll, yn feysydd brwydrau, a dreigiau ac anghenfilod lu yn llechu yn y llwyni yno. Ffrâm ddringo oedd cerflun Bili’r morlo i mi, ei drwyn yn ddefnyddiol i hongian oddi arno. A dyna’r ddynes hufen iâ Eidalaidd a’i chyfarchion siriol bob tro yr awn heibio – tybiwn mai fi oedd yr unig ‘my lovely’ ganddi ar un adeg.

Dechrau yn yr ysgol wedyn, fy ngwisg coch llachar fel lifrau milwr balch. Gwneud a cholli ffrindiau yno, profi ambell helynt, ac osgoi ambell un arall. Canfod, ar ôl creu llifogydd yn yr ysgol, fod gen i eirfa gyffredin â’r brifathrawes wrth i’r ddau ohonom drafod ‘chwadan’ a ‘chwiaid’, nid ‘hwyaden’ a ‘hwyaid’.  Un o blith enfys o acenion cymuned yr ysgol a’r capel oedd fy acen i, a buan y sylweddolais ro’n i’n rhan o deulu mawr Cymry’r ddinas. Tyfais ac aeddfedais, yn rhan annatod o bersonoliaeth y ddinas, yn un wenynen brysur ymysg y miloedd sy’n poblogi ei strydoedd.

Cyfleoedd ar garreg y drws

Mae stamp y ddinas ar fy magwraeth, a chefais gyfle i flasu llawer o’r hyn sydd gan Gaerdydd i’w gynnig. Dros y blynyddoedd, bûm yn aelod o’r capel, o glwb nofio a chlwb athletau, o gymdeithasau drama yng nghanolfan Chapter a’r Coleg Cerdd a Drama, a chael gwersi canu, piano, trombôn. Cefais lu o gyfleoedd eraill hefyd, am eu bod nhw yma, ar gael, ar garreg y drws … Gweithgareddau’r ddinas, a phob un ohonynt yn ffurfio cylchoedd o fewn cylchoedd, a chymuned o fewn cymuned.

Mae yna gyfnod yn dod i ben i ni fel teulu, ac fe fydd hi’n rhyfedd bod ymhell o galon bywyd dinesig Cymru. Byddwn yn gadael ddiwedd Gorffennaf. Gadael grwndi’r bwystfil dinesig fu’n gefnlen i’n bywyd yn y ddinas. Gadael parciau a chuddfannau plentyndod. Gadael ffrindiau a theulu. Gadael cartref. Ond yn sicr bydd Caerdydd yn gadael rhywbeth gyda mi hefyd. Bydd gen i fy atgofion, fel olion traed mewn tywod; atgofion lliwiau’r enfys, a’u hadlewrychiad yn frithdraphlith ar hyd ffyrdd a phalmentydd y ddinas. Byddaf yn eu trysori.

Osian Hughes, 18 oed

Rhannu'r erthygl hon