‘Frankenstein’ y National Theatre: ar gyfer ‘chavs’ hefyd

14 Tachwedd 2013

Mae nifer o berfformiadau y  NT – Theatr Genedlaethol (Lloegr) – yn cael ei dangos mewn sinemau bellach. Aeth Huw Onllwyn Jones i weld perfformiad ‘Frankenstein’ yn ddiweddar.

Man a man i chi gael gwybod, rwy’n dipyn o chav pan ddaw i fyd ffilmiau. Rhowch i mi Die Hard, Armageddon a’r Terminator – ac fe fyddaf yn ddigon hapus fy myd am awr neu ddwy. Ond, hei, rwy’n fond iawn o ‘art’ hefyd. Fi actually wedi bod mewn sawl art gallery – a fi gyda rhai pictures ar y wal yn ty fi. A rhai weithau mae fi yn gwylio Sky Arts neu rhyw posh rhaglen am sculpture.

Beth i’w feddwl, felly, wrth fynd i weld cynhyrchaid o Frankenstein (Mary Shelley) gan y Theatr Genedlaethol (that’s the National Theatre to you) yn y Showcase yn Nantgarw? Chav central. Cartref Scary Movie 15, popcorn a bwcedi o Coca Cola.

Ychydig bach fel mynd i McDonalds a gofyn am crème brulée, efallai…

Ta waeth, i mewn â fi gyda fy ffrind, Dylan, gan ddilyn criw o ferched ifanc ar eu ffordd i wylio Cloudy With a Chance of Meatballs 2. Cydnabuwyd ein statws diwylliannol arbennig wrth i ni dderbyn rhaglen gan y ledi wrth y drws (wel, darn o bapur A4 yn cynnwys wybodaeth am y ffilm, yr actorion, y ‘lighting designer’ ac, wrth gwrs, yr ‘assistant to the set designer’). Dyma gadarnhau, felly, ein bod yn posh.

‘Roedd yr awditorium yn gartref i tua 30 o bobl ddosbarth canol, barchus yr olwg. Heblaw am i mi greu dipyn o dwrw wrth agor fy chocolate eclairs (£1) a fy Diet Coke (80c) o Spar Radur (wheeze bach sy’n arbed ffortiwn o’i gymharu a’u prynu yn y Showcase) roedd y lle’n llawn yr hyn a elwir, fe gredaf, yn ‘hushed tones’.

Cynhyrchiad o 2011 yw Frankenstein – ac fe’i hail ddarlledwyd yn ddiweddar fel rhan o ddathliadau hanner can mlynedd sefydlu’r NT.  Cynhyrchiad gan Danny Boyle ydoedd (y gŵr a gynhyrchodd seremoni agor y gemau Olympaidd – a pheth rhyfedd iawn oedd honno, os caf i ddweud).

Genedigaeth boenus

Y prif actorion yw Benedict Cumberbatch (Sherlock Holmes a’r ‘baddie’ yn Star Trek. Gyda llaw, petawn yn Sais, hoffwn gael enw fel Benedict Cumberbatch) a Jonny Lee Miller (‘Sick Boy’ yn Trainspotting). Un peth diddorol am BC a JLM oedd bod un yn perfformio rôl Frankenstein ar un noson, gyda’r llall yn perfformio rôl yr anghenfil. Ac wedyn roedd y ddau yn newid rôl ar y noson nesa’.  Yn y perfformiad hwn, JLM oedd yn perfformio rôl yr anghenfil.

Cychwynodd y perfformiad efo ‘genedigaeth’ yr anghenfil. Dim ond fe oedd ar y llwyfan – ac anodd oedd gwylio’r peth. ‘Roedd yn boenus, yn troi’r stumog yn creu embaras.

Roedd yn wych.  Fe welsom enedigaeth yn llawn poen a dioddef. (Ac, wedi’r cyfan, dychmygwch bod yn sefyllfa’r creadur druan).  A’i hanes wedyn? Erchyll, wrth gwrs. Yn cael ei gasáu a’i ofni gan bawb – ac yn dioddef sawl ymosodiad o’r herwydd. Ond, hefyd, ambell i funud o hapusrwydd. Teimlo’r haul ar ei wyneb. Mwynhau arogl y gwair – a darganfod un ffrind, hen ddyn dall a’i dysgodd i ddarllen ac i geisio deall y byd.  Ond anghenfil ydoedd. Yn gallu dysgu ffeithiau – ond yn methu deall. Ddim fel ni. Wel, fi.

Gwych iawn, iawn, hefyd, oedd perfformiad Benedict. Trwyddo ef fe welsom Frankenstein fel dyn eithriadol o glyfar, gwyllt, wedi’i danio ac, yn y pen draw, gwallgo. Yn ystod dwy awr y perfformiad, bu rhaid i ni wylio trychinebau Frankenstein a’i anghenfil, fel gwylio dau gar yn teithio tuag at wrthdrawiad benben. Drosodd a drosodd.  A beth yw ystyr y stori? Mae ‘na sawl un, go debyg – ac mae ‘na ddeg ystyr posib i chi eu hystyried yma:Am fanylion cliciwch yma

Dim ond un pwynt negyddol sydd gennyf, sef y modd, weithau, bydd dyn yn cofio ei fod yn gwylio’r ddrama mewn sinema, yn hytrach na mewn theatr. Er enghraifft, rwy’n siŵr y byddai’r effeithiau arbennig wedi bod yn llawer mwy trawiadol, o weld y perfformiad mewn theatr. Wedi’r cyfan rydym wedi hen arfer gweld, yn y sinema, blanedau yn ffrwydro a cheir yn hedfan drwy’r awyr. O’r herwydd, teimlais fy mod wedi methu â gwerthfawrogi rhai o’r effeithiau’n llawn, o fy sedd gyfforddus yn y Showcase.

Ond y newyddion da i chi yw fod mwy o gyfle yn dod i chi fwynhau ‘chydig o berfformiadau gorau’r Theatr Genedlaethol. Ar eu ffordd i’ch sinema leol mae The Habit of Art (gan Alan Bennett), Coriolanus (Shakespeare) a War Horse (Michael Morpurgo).  Felly, os oes gennych awydd i fod yn posh am noson, mae modd i chi weld un o berfformiadau’r NT am £12.50.

Fe fydd yn aros yn y cof.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma