“Dylai pob un person hoyw yng Nghymru allu cyrraedd ei lawn potensial.”

31 Awst 2013

Yn gynharach eleni dathlwyd deng mlynedd ers sefydlu Stonewall Cymru, yr elusen Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) gyda’r nod o sicrhau cydraddoldeb i bobl hoyw yn y cartref, yn yr ysgol ac yn y gweithle. Wrth i Mardi Gras Caerdydd-Cymru groesi’r ffordd o Barc Bute at Stadiwm y Mileniwm ar gyfer y dathliad mawr heddiw, mae Andrew White, cyfarwyddwr Stonewall Cymru, yn sôn wrth Rhys Lloyd am y newidiadau i fywydau pobl hoyw dros y deng mlynedd diwethaf – a’r gwaith sydd dal i’w wneud.

Gyda blynyddoedd o brofiad yn y sectorau preifat a chyhoeddus fe benodwyd Andrew White yn gyfarwyddwr Stonewall Cymru yn 2010, yn arwain tîm o chwech. Cyn hynny roedd yn Bennaeth yr Uned Iechyd a’r Sector Gwirfoddol ym Mwrdd yr Iaith Gymraeg. Does ganddo ddim amheuaeth fod pethau wedi symud ymlaen yn aruthrol ers ffurfio Stonewall Cymru yn 2003 gyda chymorth Llywodraeth y Cynulliad a Stonewall GB. “Degawd yn ôl oedd e dal yn gyfreithlon i ddiswyddo rhywun am fod yn hoyw felly ni’n sôn am gyfnod cymharol fyr lle mae’r gyfraith wedi newid yn llwyr, ac wrth gwrs eleni ni’n dathlu pasio’r deddf priodas gyfartal lle rydym yn trin â hwnna fel y darn deddfwriaethol olaf yn y jig-so fel petai.”

Ydi White yn gweld unrhyw debygrwydd rhwng ei gyfrifoldebau ym Mwrdd yr Iaith ac yn Stonewall? “Mae na gymhariaeth eitha amlwg yn yr ystyr ein bod yn trio newid ymddygiad ac agweddau,” meddai. Ond dyw e ddim am dynnu gormod o gymhariaeth rhwng y ddau beth. “Chi’n gorfod ‘dod mas’ fel petai fel siaradwr Cymraeg a nodi eich dewis iaith pob tro dach chi’n delio gyda rhywun newydd, ond wrth gwrs mae hynny’n rhywbeth gwahanol. Mae pobl yn trin ‘dod mas’ fel digwyddiad sy’n digwydd unwaith i berson hoyw ond y gwir yw mae’n digwydd bob dydd – bob tro ti’n delio gydag asiantaeth newydd, gwneud cais am forgais, hyd yn oed siopa yn Tesco pan mae pobl yn gofyn i chi lle mae’r wraig. Mae nhw’n cymryd yn ganiataol eich bod chi’n heterorywiol.”

‘Angen Modelau Rôl’

Mae gwneud y penderfyniad i ddod mas yn un anodd pan dach chi ddim yn gwybod faint o ragfarn sydd yn eich wynebu, meddai. Mae’n hanfodol cael modelau rôl, fel y chwaraewr rygbi rhyngwladol Gareth Thomas a’r dyfarnwr Nigel Owens. “Pobl ifanc yn yr ysgol, er enghraifft, os nad ydyn nhw byth yn gweld pobl fel Gareth a Nigel yn y byd mawr maen nhw’n mynd i dyfu lan o dan yr argraff nad yw pobl fel nhw’n bodoli, neu bod nhw yn bodoli ond dylen nhw byth siarad am y peth.” Mae’n dyfynu ei brofiad o dyfu fyny ym Mro Ogwr. “Yr unig bobl oedd gen i edrych lan iddyn nhw oedd pobl ar y teledu fel Larry Grayson!  Mae na bobl fel fe mas na ond dwi ddim yn un ohonyn nhw. Y mwyaf o bobl sy’n dod mas, y mwy o fodelau rôl sydd gyda ni, ond nid jyst pobl hoyw ond pobl heterorywiol sy’n dod mas o blaid ni fel petai – ‘cynghreiriaid syth’ yn ni’n galw nhw. Mae rheini’n bwysig hefyd.”

‘Helpu Athrawon’

Roedd gan White ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth pan oedd yn ei arddegau. “O’n i’n ymddiddori ym myd gwleidyddiaeth o oedran ifanc iawn. Doedd neb hoyw yn y byd gwleidyddol pryd ‘ny ac os oedden nhw yn hoyw o’n nhw’n cael eu dal mas gan bapurau tabloid ac roedd yn rywbeth cywilyddus. Erbyn heddi mae gan y Blaid Geidwadol yn San Steffan fwy o aelodau seneddol agored hoyw na’r pleidiau arall gyda’u gilydd, a mae hwnna’n fyd gwahanol iawn i’r byd wnes i dyfu lan ynddo.”  

Ond mae Aelodau Seneddol a sêr rygbi agored hoyw yn un peth; nagoes llawer yn dal i’w wneud, yn enwedig o ran addysg? Nid yw White dan unrhyw gamargraff. “Mae pethe’n newid ond mae dal uffach lot o waith i’w wneud. Os ych chi’n ystyried y byd addysg er enghraifft, fedrwn ni ddim mynd mewn i bob ysgol a dysgu’r plant bob mis am bethau i wneud â chydraddoldeb. Dan ni’n gweithio gydag asiantaethau, gydag ysgolion er mwyn newid diwylliant.” 

‘Harneisio pwer y cyfrwng er gwell’

I White mae addysg yn allweddol: “Y trywydd rydym ni’n ei gymryd yw gweithio gyda’r athrawon am sut i siarad am wahanol fathau o deuluoedd yn hytrach nag ynysu’r pwnc. Rydym yn cynnwys y pwnc yn y pethau eraill mae athrawon yn eu trafod.” Ond mae hanner y disgyblion hoyw yng Nghymru yn adrodd eu bod yn clywed iaith homoffobaidd ar yr iard bob dydd; onid yw rhwydweithiau cymdeithasol, e.e. Facebook, Twitter, ask.fm, yn gwaethygu pethau i bobl ifanc hoyw? “Mae’n hawdd iawn i ddemoneiddio cyfrwng yn hytrach na chanolbwyntio ar y bwlio sy’n digwydd. Flynyddoedd yn ôl oedd y bwlis yn aros tu allan i gatiau’r ysgol; y dull o fwlio sydd wedi newid. Beth sy’n bwysig i’w gofio gydag unrhyw gyfrwng fel ‘na, er bod e’n gallu cael ei defnyddio at bwrpase negyddol, mae’n bwysig hefyd i harneisio pwer y cyfrwng er gwell. Erbyn hyn mae gyda ni bresenoldeb eitha amlwg ar Facebook a Twitter ac mae llawer o ymgyrchoedd wedi cael eu magu ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn taclo bwlio.”

Mardi Gras Caerdydd 2012

Mardi Gras Caerdydd 2012 (llun: Stonewall Cymru)

‘Rhwydweithiau cefnogaeth’

Fel bachgen roedd White yn ymwybodol iawn o’r diffyg rhwydweithiau cefnogaeth i bobl hoyw yn dod i delerau gyda’u rhywioldeb. “O’dd e’n fyd cas iawn i rywun hoyw yn ei arddegau fel o’n i. O’dd da fi ffrindie cefnogol iawn a teulu anhygoel o dda, a nes i frwydro trwyddo. Dwi’n falch gallu adrodd heddi fy mod i dal yma, achos doedd rhai o’n cyd-oedion ddim wedi cael y rhwydweithiau cefnogaeth yna a ddim wedi goresgyn. O’dd sawl un wedi cymryd ei bywydau gan gynnwys un o’n ffrindie gore, felly dwi’n meddwl fy mod i’n lwcus mewn ffordd o’r rhwydweithiau oedd gyda fi, ond oedd e ddim yn fyd neis. Dyw’r byd ddim yn braf nawr i rywun ifanc sy’n tyfu lan yn hoyw heb unrhyw fath o rwydwaith cefnogaeth.”

Ond erbyn 2013 mae’r gwahaniaeth yn amlwg: “O’n i’n clywed pobl fel Prif Weinidog Cymru yn sôn am bobl hoyw mewn termau positif fel wnaeth e ar gyfer un o fideos ni,” meddai. “Dwi’n byw mewn gobaith bydd unrhyw un sy’n amau bod ei bywyd neu ei perthynas neu ei hunaniaeth yn annilys mewn unrhyw ffordd yn clywed ei eiriau, neu geiriau Gareth Thomas neu Nigel Owens neu Claire Harvey (Capten Tîm Pêl-foli Merched Olympaidd) – pobl sydd wedi dod mas a sydd yn fodlon siarad am y peth – a bod nhw’n cael rhywfaint o obaith.”

‘Goleudy’

Dydi siarad am ddeddfwriaeth gwrth-hoyw eithafol Rwsia yn pylu dim ar optimistiaeth White a’r bygythiadau i hawliau hoyw mewn rhannau eraill o’r byd. “Mae’r sefyllfa yn Rwsia wrth gwrs yn erchyll ac mae’n datblygu pob dydd. Rydym yn gweitho fel sefydliad gyda grwpiau cymunedol yno hefyd, yn ofalus iawn wrth gwrs achos mae nhw mewn peryg jyst am drefnu. Ond wy’n gobeithio bod y gwaith rydym wedi llwyddo i’w wneud dros y degawd diwethaf yng Nghymru, a dros y 25 mlynedd yma ym Mhrydain, yn gwneud i Brydain weithredu fel goleudy a dangos i’r byd sut i drin â phobl fel bodau dynol, sut i drin â phawb gyda chwrteisi a pharch.”

Wrth i’r Mardi Gras eleni symud i Stadiwm y Mileniwm a yw White yn poeni y gall y mudiad hoyw a oedd ar un adeg yn herio’r sefydliad nawr mewn peryg o fynd yn rhan annatod ohono? “I raddau rydym yn rhan o’r sefydliad a dwi ddim yn ymddiheuro am hynny achos mae’n help i ni newid y gyfraith neu o leiaf cyfrannu at y broses yna. Ond yn sicr yn Stonewall Cymru rydym yn cadw at ein gwreiddiau fel sefydliad a oedd wedi tyfu o’r gymuned, ac i’r perwyl hynny rydym yn siarad gyda’n rhandeiliaid ledled Cymru. Dan ni ddim jyst yma i fynd i’r Mardi Gras. Rydym yn mynd mas i gymunedau ac yn gofyn i bobl beth yw profiadau nhw – yn y Bala, yn Ninbych yn y Steddfod yn ddiweddar, yng Nghaerfyrddin.  Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr chwarter o weithlu Cymru a’r rhwydweithiau sydd gyda nhw. Mae pob dim rydym yn ei wneud – a dan ni’n falch iawn o hyn – yn seiliedig ar dystiolaeth ac ar y deialog rydym yn ei gynnal gyda’n rhandeiliaid.”

Dydi White yn ymddiheuro dim pan mae’n dod at gyflawni ei amcanion.  “Dyn ni ddim yn swil o feirniadu gwleidyddion,” meddai, “ond ar yr un pryd rydym yn gweithio gyda phob un o’r prif bleidiau yma yng Nghymru. Dydd Sadwrn yn y Mardi Gras mi fydda i yn bersonol yn cyflwyno cynrychiolwyr o’r pedair brif blaid. Dwi’n gorfod bod yn barod i siarad ag unrhywun – unrhywun sydd yn gallu creu’r newid sydd ei angen er mwyn i bob un person hoyw yng Nghymru gyrraedd ei lawn potensial.”

“Y Frwydr yn Parhau”

A beth am y dyfodol? Ydi White yn dychmygu diwrnod pan fydd dim angen mudiadau fel Stonewall na dathliadau fel y Mardi Gras? “Os dwi dal yma ar y diwrnod hwnnw byddai’n dathlu mwy na neb! Ond os ydych chi’n cymharu’r frwydr dros gydraddoldeb hil, er enghraifft, wythnos diwethaf oedden ni’n nodi 50 mlynedd ers araith ‘Mae gen i freuddwyd’ Dr Martin Luther King – a rydym yn dal i weld hiliaeth erchyll ar y strydoedd ac o fewn cymunedau yma yng Nghaerdydd. Dwi ddim yn gweld y diwrnod hwnnw yn dod yn fuan ond bob dydd rydym ni’n ymladd dros nesáu at y ddiwrnod hwnnw.”

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma