Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol

9 Tachwedd 2015

Mae Huw yn eisteddfodwr o fri ac yn cynnig rhai gwelliannau i’r wŷl flynyddol

“Pizzazz”: having dazzling style, vigorous spirit, energy and excitement.

Er enghraifft:

‘Mae gan Tafwyl lawer o bizzazz’.

neu

‘Mae angen llawer mwy o bizzazz ar y ‘Steddfod Genedlaethol’.

Oes. Llawer mwy.

‘Rwyf wedi bod yn meddwl dipyn am yr Eisteddfod, ers i mi ymweld â’r wyl ym Maldwyn (ardal sy’n hollol hyfryd, gyda llaw). Wrth grwydro’r maes fe ddaeth yn fwy fwy amlwg i mi fod yr Eisteddfod angen ‘shake-and-vac’ enfawr. Ar hyn o bryd mae’n gaeth i’r un hen fformat, yr un hen stondinau, yr un pafiliwn hanner gwag, yr un hen wynebau…

Ac, wedi meddwl yn galed iawn, dyma fy nghynllun strategol pellgyrhaeddol, heriol a thrawsnewidiol er mwyn sicrhau dyfodol disglair i’r Eisteddfod Genedlaethol:

1. Newid yr enw: rwy’n meddwl bod angen gwella brand yr Eisteddfod Genedlaethol.  Er enghraifft, nid oes sôn am yr ŵyl o gwbl ar wefan Interbrand. Mae’r gair ‘eistedd’ yn air heb unrhyw deimlad deinamig iddo. Wedi’r cyfan, nid yw ‘eistedd’ yn rhywbeth sy’n llawn hwyl a sbri. Yn hytrach, mae’n gwneud i mi feddwl am rhesi o hen fenywod yn gwylio cerdd dant. Ac mae’r gair ‘cenedlaethol’ yn f’atgoffa o bethau cenedlaethol eraill, sy’n hollol ddiflas, megis y Cynulliad Cenedlaethol, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Awgrymaf, felly, enw newydd, sef “Gŵyl y Dathlu!!!” (Lucida Calligraphy, bold italics, red pantone 231, green pantone 343). Gellir creu is-frandiau, megis Gŵyl Dathlu’r Gaeaf, Gŵyl Dathlu’r Gogledd ayb, a fydd yn galluogi’r ‘Steddfod i gynnal mwy o ddigwyddiadau – a gwneud mwy o arian.

2. Cael gwared, yn llwyr, o’r Orsedd. Achos, wedi’r cyfan, what’s that all about?! Fe ddaeth yr amser i’r criw yma o bobl i ddod i ben â’r traddodiad embarassing o gerdded ar draws y maes mewn dillad rhyfedd. Wedi’r cyfan, beth yw’r neges? “Edrychwch arnom ni! Ni’n wych ac yn bwysig! Ni’n gallu treiglo, cynganeddu a darllen Barn. Chi ddim.” Nid yw’r fath agwedd yn dderbyniol, bellach, ar adeg pan mae cymdeithas yn rhoi pwyslais ar gydraddoldeb a chynwysoldeb. Hefyd, mae’r Orsedd yn llawn hen bobl, nad yw’n cyd-fynd â’r gwaith o greu brand newydd cyffroes ar gyfer yr ŵyl [Contradiction with the equality issue? Ed]. Rwy’n awgrymu, yn hytrach, cynnig cyfle i grwpiau wahanol  orymdeithio bob dydd. Megis grwpiau Hare Krishna, Samba Galez, ein ffrindiau o Batagonia a phrotestwyr o dan ofal Comrade Corbychov.

3. Llai o ffocws ar gystadlu. Os ydych am gael ychydig o lonydd pan yn ymweld â’r wyl, does ddim lle gwell na’r pafiliwn. Ewch yno bron ar unrhyw adeg, ac fe gewch fwynhau eistedd yng nghanol môr o seddi gwag. I mi, mae hyn yn dangos yn glir mai ‘side-show’ yw’r cystadlu – ac mai prin yw’r diddordeb mewn cystadlaethau megis ‘Llefaru Unigol o’r Ysgrythur dan 16 oed’. Yr ateb, felly, yw codi pafiliwn tua chwarter maint yr hen bafiliwn pinc. Fe fyddai gwneud hyn hefyd yn arbed tua chwarter miliwn o bunnoedd i’r ŵyl pob blwyddyn. Ar hyn o bryd, mae’r pafiliwn yn niwsans enfawr. Os ydych am fynd o stondin Cowbois i stondin Merched y Wawr mae’n rhaid i chi gerdded hanner milltir o gwmpas y pafiliwn. Os ydych am fynd, wedyn, i stondin S4C, fe fydd angen i chi gerdded hanner milltir arall. Mae’n bryd i ni dderbyn nad yw’r mwyafrif helaeth o ymwelwyr am fynd i weld y cystadlu. Yn hytrach, maent am gyfarfod ffrindiau a gweld digwyddiadau cyffroes. Mwy am hyn, yn y man. Yn y cyfamser, fe fydd dal modd i’r uber-nerds eisteddfodol i lefaru’r ysgrythur – ond fe fyddai mwy o le i bethau mwy cyffroes.

4. Mae angen symud peth o’r cystadlu ar-lein. Siaradais â nifer o ymwelwyr ym Meifod a oedd wedi eistedd drwy rhagbrofion eu plant – a gorfod gweld dros 70 yn cystadlu! A fedrwch ddychmygu gwrando ar 69 o blant pobl eraill yn canu yr un alaw werin, drosodd a drosodd a drosodd a drosodd a drosodd a drosodd? Artaith yw hynny – ac mae angen i’r broses ddod i ben (er mwyn sicrhau fod yr ŵyl yn cyd-fynd ag erthygl 5 Datganiad Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig: “No one shall be subjected to torture or to cruel, inhuman or degrading treatment or punishment”). Mae angen, felly, i’r rhagbrofion ddigwydd ar-lein. Fe fyddai modd i’r cystadleuwyr yrru clip fideo o’u perfformiadau i’r beirniaid eu gweld a, thrwy hynny, fe all y beirniaid ddewis y tri sy’n cael llwyfan (neu tua chwech i fynychu rhagbrofion ar y maes). Fe fydd yr ŵyl, wrth gwrs, yn siŵr o ymateb trwy ddweud fod gorfodi 70 o bobl i fynychu’r rhagbrofion yn cynyddu incwm yr wyl. Ond, os yw eich cynllun busnes yn dibynnu ar gynnig brofiadau hunllefus i’ch cwsmeriaid, nid ydynt yn mynd i garu eich brand – a dod yn gwsmeriaid selog. Rhaid gwella’r profiad er mwyn eu denu.

5. Mae angen mwy o ffocws ar ddigwyddiadau, yn hytrach na chystadlu. Wele Glastonbury, Gŵyl Lyfrau’r Gelli Gandryll, Brecon Jazz ayb. A fyddai’r 118,000 o docynnau ar gyfer Glastonbury 2016 wedi gwerthu mas o fewn hanner awr, pe byddai’r ffocws ar ‘battle of the bands’, neu wrando ar dri band gwanhaol yn cystadlu i ganu Hey Jude cystal â phosib? I think not. Felly, wedi i ni leihau maint y pafiliwn, fe fyddai modd gosod y ffocws ar ddigwyddiadau diddorol, da, bywiog, amrywiol a deniadol, er mwyn diddanu’r cwsmeriaid. Fe fyddai modd, wedyn, iddynt fynd i’r ŵyl heb orfod clywed unrhyw beth yn cael ei berfformio mwy nag unwaith.

6. Mae angen i’r digwyddiadau ddigwydd mewn llefydd hyfryd, cyffroes a diddorol. Mwy o lefydd, felly, fel Tŷ Gwerin a Chaffe Maes B. Llefydd sy’n edrych yn ddiddorol, sy’n edrych yn neis a hyfryd, sydd wedi eu haddurno gyda dipyn o steil – ac sy’n gwneud i chi deimlo eich bod mewn gŵyl fodern a chyfoes – ac nid yn Eisteddfod Llangefni yn 1964. Rhaid cael gwared a phebyll sgwâr, hyll De Boer, fel Pebyll y Cymdeithasau. Nid wyf am eistedd, fyth eto, yn y fath le, yn gwrando ar y to yn fflapian yn y gwynt – a’r drws yn agor a chau’n swnllyd wrth i’r gynulleidfa adael yn gynnar am fod angen iddynt gerdded hanner milltir o gwmpas y pafiliwn i’r digwyddiad nesaf.

7. Mae angen i ni dderbyn fod stondinau cyrff cyhoeddus Cymru ymysg y pethau mwyaf diflas ar wyneb y ddaear. Oes eu hangen o gwbl? Beth yw’r gost i’r trethdalwr o’u gosod ar y maes a thalu swyddogion i eistedd yno am wythnos yn yfed coffi a dosbarthu freebies rhad? Os oes wir angen i chi wybod am waith Cyfoeth Naturiol Cymru, ewch i’w gwefan. ‘Rwy’n ofni fod presenoldeb y stondinau yma’n perthyn i oes a fu (Llangefni 1964), cyn i Tim Berners-Lee ddyfeisio’r rhyngrwyd. A, beth bynnag, pan wyf yn mynd i ŵyl yn yr haf, y peth olaf rwyf am ei weld yw gwaith marchnata a phropaganda’r cyrff yma. Rwy’n flin iawn, ond ni fyddent yn cyd-fynd â’r brand newydd. I mi, mae unrhyw ysfa i fynd i weld stondin Llywodraeth Cymru yn arwydd nad yw’r ŵyl yn ddigon diddorol (yn debyg i pan welwch y dorf mewn gem rygbi yn gwneud y Mexican Wave – sy’n arwydd clir fod y gem yn un diflas). Un eithriad fydd Comisiynydd y Gymraeg, wrth gwrs. Fe fyddai yn braf pe byddai modd i Meri Huws wneud ychydig mwy o ymdrech i ddwyn sylw i’w gwaith. (Ar hyn o bryd, mae hi’n cuddio yn y Babell Arddangos, yn dosbarthu un neu ddau o lyfrynnau oddi ar ei plinth bach del).

8. Dal i deithio. Fel arall, ni fydd Cymry Cymraeg dosbarth canol Caerdydd yn dod i adnabod corneli dirgel ein gwlad. Peth braf, wedi’r cyfan, yw’r cyfuniad o wyliau go iawn ym Mhrovence a ‘chydig o ddyddiau yn Eisteddfod Aber / Llan (delete as appropriate) (insert rest of name here). Ac, wedi’r cyfan, mae gwario yno’r cyflogau hael a rhoddir iddynt gan S4C, y BBC, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd ayb yn rhyw fath o waith dyngarol. A hefyd, heb iddo deithio, mae ‘na beryg y bydd yr ŵyl yn fwy diflas nag erioed.

9. Gwella’r marchnata. Mae’n anodd gwybod beth sy’n digwydd ar y maes. Wedi’r cyfan, ‘does neb call yn prynu’r rhaglen swyddogol. Mae o’n rhy ddrud ac yn rhy drwm. Mae gan yr wyl App, ond ym Meifiod prin iawn ac annigonol oedd y wybodaeth ar y peth. Yn aml iawn, dim ond enw’r digwyddiad ac enw’r corff a oedd yn ei noddi. Ond beth yn union, plîs, yw’r digwyddiad? Rhaid edrych ar App yr Urdd i weld enghraifft o’r math yma o dechnoleg yn cael ei ddefnyddio’n dda.

10. Mae angen i’r eisteddfod wneud llawer mwy o ymdrech i odro’r Cymry Cymraeg dosbarth canol am bob ceiniog sydd ganddynt. Mae cwmnïau da yn gwybod yn iawn sut i wneud hyn. Mae angen i’r ŵyl fod yn fwy tebyg i Ryanair: rhoi’r ffocws ar hysbysebu pris tocyn mynediad i’r maes – ac wedyn: codi £10 y dydd i barcio (gyda 150,000 o ymwelwyr, dywed tri person mewn car, daw hyn a hanner miliwn o incwm ychwanegol i’r wyl); codi £3 i weld y Babell Gelf; £3 i weld ffeinal ymryson y beirdd (ayb); £2 i chargio mobeil; £1 i ddefnyddio’r tŷ bach; £1 am fap o’r maes; £2 am rhaglen y dydd; £3 am poncho glaw ayb. Gall hyn godi miliynau o bunnoedd pob blwyddyn. Miliynau!

11. Ymchwil: pob blwyddyn, mae angen i’r ŵyl ofyn i’w gwsmeriaid beth maent am ei weld, a beth ddaru nhw ei fwynhau yn yr ŵyl diwethaf ayb.

12. Mae angen mwy o hwyl. Mwy o sesiynau megis stand-up ac open mike, ‘just a minute’ a chwis newyddion i’r cyhoedd eu mwynhau. Sesiwn Pawb a’i Farn; creu rhyw fath o Hyde Park corner lle byddai modd i unrhyw un ddringo ar focs sebon ac annerch y dorf – am unrhyw beth. Pethau gwahanol a phethau i bobl wneud: dangos crefftau a sgiliau Cymreig a Chymraeg: gwersi telyn a gitâr, gwersi dawnsio, gwersi barddoni, sut i adeiladu wal gerrig, gosod blodau, bragu cwrw Cymreig, gwneud crochenwaith Cymreig, gwersi paentio, awduron a beirdd yn trafod eu gwaith, blas o ddiwylliant ieithoedd Celtaidd eraill (bandiau Gaeleg ayb). Dyna rhestr bach cychwynnol i Elfed feddwl amdano.

13. Mae angen i’r ŵyl gadw at y rheol Gymraeg (heblaw am yr ieithoedd Celtaidd eraill). Mae’n drueni, er enghraifft, gweld ambell i gyhoeddwr llyfrau yn gwthio llyfrau Saesneg yn ein prifŵyl Cymraeg. Mae’n amser i ni ddangos fod modd i’r iaith fyw heb Saesneg yn gefn iddi.

14 Mae angen rhoi gwell trefn ar sesiynau Pebyll y Cymdeithasau. Yn aml ym Meifod fe fydd dwy sesiwn tebyg i’w gilydd (yn trafod dyfodol yr iaith er enghraifft) yn digwydd ar yr un pryd. Hefyd, mae angen disgrifiad gwell ar yr App o beth yw cynnwys pob sesiwn. Nid yw’n wyddoniaeth roced. Ac mae angen darparu sesiynau a fydd o ddiddordeb i bobl o dan chwe deg mlwydd oed.

15 Mae angen i’r ŵyl fod yn ddewr a pheidio ofni newid. Wedi’r cyfan, fe gymerodd 189 mlynedd iddynt benderfynu gwerthu alcohol ar y maes. Os nad oes modd iddynt newid yn gyflym, mae yna beryg i’r ŵyl edwino. Dylid cael gwared ar hanner Cyngor yr ŵyl pob dwy flynedd a dod â gwaed newydd i fewn, gan gynnwys digon o bobl ifanc.

16. Mae angen gosod quota cadarn o ran faint o ffotograffau y gellir eu dangos yn y Babell Gelf. Rhywbeth fel 2.5% o’r gofod arddangos, efallai. Wedi’r cyfan, gall unrhyw ffŵl a’i gamera gymryd llun du a gwyn o hen feic mewn camlas.

A dyna ni am y tro. Mawr obeithiaf eich bod yn cytuno fy mod wedi llwyddo i greu fformiwla hollol ysgubol a fydd, nid yn unig yn datblygu yr Eisteddfod, ond yn ei alluogi i dyfu a pharhau yn llwyddiannus am byth!

Edrychaf ymlaen at ‘Gŵyl y Dathlu 2016’!!!

Rhannu'r erthygl hon