Dyfodol y Diwc yn y fantol

23 Mawrth 2015

Gan Aled Wyn

Siŵr y bydde pawb yn cytuno nid yw’r Duke o’r Clarence yn un o dafarndai harddaf Caerdydd.  Yn wir mae’r lle wedi bod yn mynd a’i ben iddi’n raddol ers blynyddoedd – y diffyg buddsoddi, y diffyg paent ac weithiau’r diffyg papur tŷ bach.  Felly pan ddaeth y cyhoeddiad y bydd “last orders” yn cael eu galw yn un o ganolfannau mwyaf eclectig ardal Treganna dros y Pasg, doedd hynny fawr o syndod i neb.

Y trasiedi yw diffyg gweledigaeth y perchnogion, oherwydd o fewn muriau’r adeilad gewch chi hyd i fois rygbi ifanc, cefnogwyr brwd pêl-droed, ambell barti priodas neu angladd, cyfarfodydd i drefnu ymgyrchoedd ieithyddol, nosweithiau’r Blaid, Cymdeithas yr Iaith, partïon plant, a hen fois yn dal i chwarae dartiau.  Y cyfan yn adlewyrchu natur amrywiol y gymdeithas sy’n byw o fewn y dalgylch.

Wrth gwrs, i bwyllgor Clwb y Diwc, ein “lle ni” oedd y dafarn unwaith bob mis (weithiau’n amlach) wrth i ni drefnu digwyddiadau Cymraeg o bob math ar nosweithiau Gwener – yn gomedi , gigs a digwyddiadau llenyddol.  Dyma lle roedd modd llenwi’r stafell gefn yn rheolaidd gyda mor o Gymreictod.

Dafydd Iwan

Dafydd Iwan

Mae bron i 7 mlynedd ers i griw bychan o wirfoddolwyr ddod at ei gilydd i sefydlu pwyllgor llywio a hynny ar ôl cael blas yn codi arian at yr Eisteddfod Genedlaethol ar ei ymweliad a’n prifddinas.  Ond nid ar chwarae bach oedd cynnal y momentwm.  7 mlynedd o drafod a threfnu, 7 mlynedd o boeni os oedd digon o docynnau’n cael eu gwerthu i dalu’r artistiaid, 7 mlynedd o gadw trefn wrth y drws (er i ni beidio â chael unrhyw drafferth); a 7 mlynedd o osod systemau PA a goleuo heb geiniog o gefnogaeth perchnogion y dafarn.

Ond beth oedd yn codi ysbryd bob amser oedd y galw o fewn y gymuned am nosweithiau o’r fath.  A rhywbeth arall i ymfalchïo ynddo oedd ymateb positif mwyafrif ein hartistiaid, prifeirdd a chomediwyr adnabyddus.

Pwy feddylie bod pob un o’r canlynol wedi troedio’r llwyfan, a rhai mwy nag unwaith?

Heather Jones

Heather Jones

Gwyneth Glyn, Elin Fflur, Mei Mac, Al Lewis, Steffan Huw, Gildas, Catsgam, Geraint Lovgreen, Band Pres Melingriffith, Dewi Pws, Hywel Griffiths, Ryland Teifi, Sibrydion, Breichiau Hir, Dafydd Emyr, Nos Sadwrn Bach, Steve Eaves, Ail Symudiad, Myrddin ap Dafydd,Brigyn, Heather Jones, Huw Chiswell, Beti George, Lisa Angharad, Lowri Cooke, Meic Stevens, Catrin Herbert, Delwyn Siôn, Owain Rhys Gareth Bonello, Cowbois Rhos Botwnnog, Twm Morys, Huw M, Dafydd Iwan, H a’r Band, Einir Dafydd, Caryl, Dewi Griffiths, Aled Rheon, Maffia Mr Huws, Ifor ap Glyn,  Bromas, Neil Rosser a’r Band, Ani Llyn, Kizzy Crawford, Bryn Fôn, Lowri Evans, Gai Toms, Cadno,  Jess,  Huw Stevens, Greta Isaac, Jessop a’r Sgweiri, Castro, Richard Rees, Daniel Glyn, Gary Slaymaker, Llio Sulyn, Rhian Morgan, Rhys Iorwerth, Jim Parcnest, Aled Gwyn, Eurig Salisbury, Aneirin Karadog, Y Gerddorfa Ukulele Gymreig…

Cerddorfa IwcaleleBeth a ddaw o Glwb y Diwc?  Hyd nes y clywn am gynlluniau tymor hir y Duke of Clarence (mae Brains yn dal i drafod), penderfyniad y pwyllgor yw bwrw mlaen gyda’n cynlluniau a mynd ar grwydr dros dro wrth drefnu ambell ddigwyddiad “pop-up” cymdeithasol Cymraeg eu hiaith yn ardal Treganna.  Cwis fydd y digwyddiad cyntaf i’w gynnal yn nhafarn y Victoria Park ar Ebrill 17eg.  Ac eisoes mae yna drafodaethau reit gyffrous am gig egscliwsif i lansio wythnos ffrinj Gŵyl Tafwyl 2015.  Ond mwy am hynny eto.

Wrth i un drws gau, tybed a ddylid gofyn a oes awydd gan rywrai i sefydlu rhyw fath o dafarn cydweithredol i adlewyrchu diddordebau a dyheadau’r gymuned leol?  Gyda’r buddsoddiad cywir, bydde modd i’r gymuned neu berson cyfoethog gadw drws arall yn gil agored er mwyn i’r selogion barhau i fwynhau diawl o noson dda wrth ei morio hi gyda rhai o’n hartistiaid amlycaf.

Diolch i bawb am bob cefnogaeth – yr artistiaid, y pwyllgor a’r gynulleidfa, a gobeithio y gwelwn ni chi yn y dyfodol agos.

 

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma