Dracula: Dwys, Dryslyd ond Dal yn Diddanu

29 Gorffennaf 2015

Adolygiad Hannah Pearce   

Nos Iau, bues i’n rhan o’r gynulleidfa yn Theatr Sherman yn gwylio addasiad Liz Lochead o’r clasur Dracula

Dyma oedd perfformiad cyntaf Sherman Players ac felly roedd pwysau mawr ar ysgwyddau’r cast ifanc i wneud eu perfformiad cyntaf yn llwyddiant.

Tybed a fyddai’n llwyddiant neu a fyddai’r pwysau’n ormod iddynt?

Fel y soniais uchod, roedd y criw o actorion yn ifanc iawn ar wahân i ambell oedolyn. Roedd rhai o’r prif gymeriadau, megis y merched a phortreadodd cymeriadau Mina a’i chwaer Lucy, yn ifanc iawn.

Roeddwn yn ansicr ar y dechrau a fyddent yn medru creu portreadau realistig o Mina a Lucy gan eu bod mor ifanc ond rhaid cyfaddef, roedd y pedair actores yn aeddfed iawn ac yn haeddu pob canmoliaeth.

Rhoddodd y ferch a chwaraeodd ran Dracula bortread cryf hefyd ond er ei pherfformiad cadarn, gwell fyddai gen i weld dyn yn chwarae rhan Dracula oherwydd mai dyn yw Dracula yn y nofel. Yn anffodus, roedd gweld merch yn chwarae rhan dyn wedi drysu’r ddrama ychydig i mi.

Peth arall a oedd yn ddryslyd oedd nifer yr actorion ar gyfer pob rhan.

Perfformiwyd y rhan fwyaf o’r cymeriadau gan ddau actor ond nid oedd hynny’n glir ar y dechrau gan fod yr actorion i gyd wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd tebyg ac mewn rhai achosion roedd yr actorion eu hun yn edrych yn debyg iawn i’w gilydd felly roedd yn anodd darganfod pwy oedd yn chwarae pwy. Roedd pethau cymaint yn haws wedi i mi ddarganfod fod mwy nag un actor ar gyfer pob rhan!

Er dweud hyn, roedd yn ddiddorol gweld hyn mewn drama gan nad yw’n rhywbeth sy’n cael ei weld yn aml mewn dramâu confensiynol.

Un peth roeddwn yn hoff iawn ohono oedd y llwyfan. Nid yn y brif theatr y perfformiwyd y ddrama ond yn y stiwdio a gan fod hynny llawer yn llai na’r theatr, llwyddodd hyn i wneud i’r gynulleidfa deimlo cymaint yn agosach at yr actorion ac felly roeddech yn teimlo eich bod yn rhan o’r ddrama ei hun mewn ffordd gan fod awyrgylch yr ystafell llawer yn fwy dwys na’r arfer.

Yn ogystal, roedd y llwyfan ei hun ar ffurf cylch gyda’r gynulleidfa yn eistedd uwchben ac o amgylch y llwyfan yn edrych i lawr ar y ddrama yn cael ei pherfformio.

Ychwanegodd hyn at ddwyster y ddrama a llwyddodd i greu perthynas cryf ac agos rhwng cymeriadau’r ddrama a’r gynulleidfa.

Yn bersonol, nid wyf wedi gweld drama yn cael ei pherfformio ar lwyfan gron o’r blaen ac ar gyfer y ddrama hon yn enwedig, gweithiodd hynny’n dda iawn. Ni fyddai’r ddrama wedi gweithio petai hi wedi cael ei pherfformio ar lwyfan draddodiadol.

Roedd siâp y llwyfan hefyd wedi bod o gymorth ar gyfer yr actio ei hun gan fod hyn nid dim ond wedi golygu y gallai pob aelod o’r gynulleidfa weld pob actor yn glir o bob ongl trwy gydol y ddrama ond hefyd, gan fod llawer o redeg a neidio yn digwydd yn y ddrama, er mwyn pwysleisio gwallgofrwydd rhai o’r cymeriadau, roedd cael hyn ar lwyfan gron wedi gwneud hyn llawer yn fwy effeithiol.

Er ambell ddarn dryslyd o ran y cymeriadu, ar y cyfan gweithiodd y ddrama’n dda a byddaf yn dweud mi ddylai’r cast fod yn falch iawn o’u prosiect cyntaf gyda’i gilydd.

Nid yw’n ddrama draddodiadol o reidrwydd ond os ydych am weld rhywbeth sydd bach yn wahanol i’r arfer ond sydd eto yn cadw at draddodiadau trwy berfformio un o glasuron ym myd llenyddiaeth Saesneg, byddaf yn argymell i chi fynd i weld Dracula os daw hi nôl i Gaerdydd.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma