Diweddglo diflas i flwyddyn siomedig

29 Rhagfyr 2014

Caerdydd 2 Watford 4

Gan Siôn Davies

Erbyn chwiban olaf y dyfarnwr yn Stadiwm Dinas Caerdydd, roedd hwyliau cefnogwyr yr Adar Gleision yn cyferbynnu’n llwyr ‘da’r prynhawn heulog, wrth i ddynion Russell Slade golli 4-2 i Watford yn dilyn perfformiad anobeithiol.

Bu nifer o’r cefnogwyr yn lleisio eu rhwystredigaeth gyda’r rheolwr, ond mae’n anodd osgoi’r teimlad taw ymateb arwynebol iawn yw hwn – mae problemau Caerdydd yn treiddio’n ddyfnach na rheolwr sydd ond wedi bod yn y swydd am ychydig fisoedd.

Le Fondre yn dathlu ei drydedd gôl y tymor hwn

Decreuodd y gem yn ddigon addawol. Pan beniodd Adam Le Fondre i roi’r Bluebirds ar y blaen wedi ugain munud – yn erbyn y chwarae mae’n rhaid dweud – yr oedd hi’n edrych fel bysai ffawd yn gwenu arnynt.

Ond problem pennaf Caerdydd oedd eu hanallu llwyr i gadw meddiant – rhywbeth oedd Watford yn gwneud heb drafferth. Does dim gobaith osgoi gadael goliau i mewn pan maen nhw’n rhoi’r bêl i ffwrdd yn rhâd ac yn rheolaidd, fel y gwnaeth Caerdydd drwy’r gem.

Gôl gyntaf Watford

Gôl gyntaf Watford

Cafodd yr Adar Gleision eu cosbu cyn hanner amser pan sgoriodd Guedioura ac Ighalo ddau gôl gwbl haeddiedig syth ar ôl ei gilydd i roi’r Hornets ar y blaen ar yr egwyl. Newid chwyldroadwy yn y sgôr, ond dim byd mwy nag oedd Watford yn haeddu. Roedd y “boos” i’w clywed am filltiroedd ar y chwiban.

Gôl yn y munudau olaf i Kenwyne

 Kenwyne yn ennill y bêl yn yr awyr

Fe aeth yr ail hanner yn ei flaen yn yr un modd – gyda Watford yn tyfu mewn hyder, a Chaerdydd yn parhau i ddangos diffyg dychymyg a sgil. Doedd Whittingham a Gunnarsson ddim yn tynnu eu pwysau yng nghanol cae –  safle mwyaf pwysig y gêm.

Tro ar ôl tro, roedd Abdi, Guedioura a Forestieri yn pasio mewn trionglau bach, ffeindio gwagle ac yn rhedeg at eu gwrthwynebwyr. Ar adegau, roedd e’n ymddangos fel gornest rhwng dau dîm o begynnau gwahanol y pyramid pel-droed – Watford ar y brig, a Caerdydd ar y gwaelod.

Pan sgoriodd Gueidioura roced o gôl – ei ail yn y gêm – roedd anfoddhad y cefnogwyr yn glywadwy – ac yn weladwy. Roedd pocedu o’r stadiwm, a oedd yn llawn ar ddechrau’r gem, nawr yn wag cyn i awr basio.

Elwodd Watford o farcio anobeithiol gan amddiffyn y Bluebirds i sgorio eu pedwaredd. Pan ddechreuodd y cefnogwyr waeddu “Olé” ar ol pob pas Watford, roedd yn amlwg bod y mŵd wedi troi’n sarhaus, a phob owns o obaith wedi diflannu o’r dorf.

Sgoriodd Kenwyne Jones gôl hwyr i gau’r bwlch yn y sgôr, ond roedd y gem wedi hen orffen erbyn hyn.

Nodyn sur i orffen blwyddyn i’w anghofio.

Seren y gêm: Adlène Guedioura

 

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma