Disgwyl yr Annisgwyl dros y Penwythnos yng Nghaerdydd

15 Medi 2016

Bydd canol y ddinas yn gartref i ŵyl a ysbrydolwyd gan ddychymyg Roald Dahl y penwythnos hwn fel rhan o’r dathliadau canmlwyddiant i nodi geni’r awdur yn Llandaf.

Mae union fanylion yr ŵyl y penwythnos hwn yn cael eu cadw’n gyfrinach ond mae’r trefnwyr yn addo y caiff y byd ei droi ben i waered wrth i’r arferol ildio’i le i hud a rhialtwch

Maen nhw wedi datgelu y bydd yna Barti Pyjamas Enfawr ym Mharc Bute Ddydd Sul am 2pm, ac maen nhw’n gofyn i’r rhai sy’n dod i’r parti ddod yn eu pyjamas ac i ddod â phicnic wedi ei ysbrydoli gan straeon a chymeriadau Roald Dahl.

Dinas yr AnnisgwylEffeithir ar ffyrdd yng nghanol y ddinas a’r cyffiniau yn ystod y digwyddiadau. Mae manylion y ffyrdd fydd ar gau yma.

Gellir cael mwy o wybodaeth am yr ŵyl a’r holl ddigwyddiadau yma.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma