Diffygion cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’n hysgolion

9 Tachwedd 2015

Addysg a biwrocratiaeth sy’n mynd dan groen Huw O yr wythos hon

‘Rwy’n chwilio am air.

Mae’n air sy’n disgrifio’r modd a ddefnyddir gan ein Llywodraeth hyfryd ym Mharc Cathays er mwyn rheoli ac adrodd ar berfformiad ein hysgolion.

‘Rwy’n lywodraethwr i un o ysgolion cynradd ein prifddinas – ac rwyf wedi gweld hyd a lled y faen melin biwrocrataidd a osodir ar ein ysgolion gan Weinidogion, gweision sifil ac archwilwyr y Llywodraeth; gan yr awdurdod addysg a gan Estyn.

Dychmygwch eich bod am drefnu parti pen-blwydd i’ch plentyn. Pe byddech yn gaeth i fiwrocratiaeth y Llywodraeth fe fyddai angen i chi: fabwysiadu 54 o bolisïau amrywiol; sefydlu hanner cant o bwyllgorau; paratoi ugain o gynlluniau datblygu; adrodd ar bopeth, drwy’r amser (gan ofyn i’ch hunan, pwy ddiawl sy’n mynd i ddarllen yr holl rwts); gofyn i’r awdurdod lleol am ganiatâd i osod canhwyllau ar y gacen (ar ôl cynnal asesiad risg); trefnu hyfforddiant i’ch cyd-drefnwyr ar faterion holl bwysig megis sut i agor anrhegion heb rhwygo’r papur, sut i ddelio efo briwsion (bio-hazard) a’r peryglon i glyw plantos bach o chware ‘Agadoo’ yn rhy uchel. Yn dilyn y parti, fe fyddai angen i chi baratoi adroddiad a threfnu cyfarfod ‘gwersi a ddysgwyd’.

Yn yr un modd, mae biwrocratiaeth Brobdingnagian y Llywodraeth yn cymryd ffocws ysgolion oddi ar y broses o ddysgu plant – a mwynhau gwneud hynny – i’r broses o lenwi ffurflenni a chynnal adolygiadau o bolisïau lu (megis ‘toileting policy’, ‘extreme weather policy’, ‘attendance policy’, ‘homework policy’. If it moves, give it a policy). Rhaid iddynt, yn ogystal, ymgynghori gyda’r awdurdod addysg lleol yn gyson (gan aros am atebion nad sydd, ar adegau, yn addas ar gyfer sefyllfa’r ysgol).

‘Rwy’n ofni, hefyd, fod peth o’r biwrocratiaeth yn ddiffygiol.

Er enghraifft, mae ‘na declyn biwrocrataidd hyfryd o’r enw Data Ffynnon 2015 All Wales Core Data. Mae hwn yn dangos pa ganran o blant sydd wedi cyrraedd deilliannau penodol mewn pynciau penodol. Mae’n cymharu pob ysgol yn erbyn ysgolion eraill (yn eu ‘teuluoedd’ o ysgolion, ar draws yr awdurdod lleol, ac ar draws Cymru). O’r herwydd, mae athrawon yn ei astudio’n ofalus ac yn poeni’n arw os yw’r ysgol yn perfformio’n waeth na’r ysgolion eraill. Fe gewch chi flwch gwyrdd os ydych yn well na’r gweddill, a blwch coch os ydych yn waeth na nhw.

Beth sy’n ddiffygiol am hyn?

Y peth mwyaf amlwg yw’r nifer fach o ddisgyblion mewn ysgolion cynradd – a’r ffaith ei fod, ar adegau, yn amhosib sicrhau fod pob un yn gallu perfformio’n dda (er mwyn denu blwch gwyrdd).

Er enghraifft, os oes gennych 28 o blant yn nosbarth 3C – gyda phob un yn gallu gwneud y gwaith, gallwch ddisgwyl hawlio blwch gwyrdd ar ddiwedd y flwyddyn.

Ond beth sy’n digwydd, y flwyddyn ddilynol, os oes un, neu ddau blentyn yn nosbarth 3C gyda phroblemau (megis anghenion arbennig, neu problemau difrifol yn y cartref)? Ar adegau, oherwydd y problemau a wynebir ganddynt, ni ellir disgwyl i’r plant yma gyrraedd y deilliannau perthnasol. O’r herwydd, mae’r canran sy’n llwyddo yn disgyn. Mewn dosbarth o 28, fe fyddai pob plentyn o’r fath yn gallu arwain at leihad o 3.5% yn y ganran o blant sy’n cyrraedd y deilliannau perthnasol.

Mae lleihad fel hyn yn gallu arwain yn rhwydd at flwch coch – tra, ar yr un pryd, yn cynnig fod safonau’r ysgol yn disgyn o flwyddyn i flwyddyn (yn yr enghraifft yma, gyda dau blentyn o’r fath, i lawr o 100% i 93%).

Ond nonsens yw hyn. Nid yw’r sgôr yn adlewyrchu gallu’r ysgol i ddysgu – a ni fyddai dirywiad yn y sgôr yn arwydd fod safonau dysgu’r ysgol yn disgyn. Yn hytrach, maent yn adlewyrchu natur y disgyblion ym mhob blwyddyn.

Felly, mae’r Data Ffynnon (drud, biwrocrataidd, cymhleth) yn agos at fod yn ddiwerth.

Ond yn waeth na hyn, mae’n cynnig camargraff i rieni, i’r gymuned, i’r llywodraethwyr, i Weinidogion ac i bawb yn y byd, o ran beth yw’r safon dysgu mewn ysgol.

Yn wir, gall un plentyn sydd â phroblemau o ran ei allu i ddysgu, symud sgôr ysgol gyfan i lawr i gategori is.

Symptom arall o’r system ddiffygiol yma yw ei fod yn sicrhau fod athrawon yn rhoi cryn dipyn o’u hadnoddau, eu hamser a’u hegni i geisio sicrhau fod y plant sydd â phroblemau yn gallu cyrraedd y deilliant perthnasol. Wel, wrth gwrs, mae angen helpu pob plentyn – ond y perygl yw fod awydd ysgolion i ddenu blwch gwyrdd yn eu harwain i rhoi gormod o ffocws ar y plant yma, tra’n rhoi llai o ffocws ar, er enghraifft, ymestyn a diddori plant galluog a rhoi sylw digonol i blant sydd rhywle yn y canol.

Mae’r biwrocratiaeth, felly, yn creu darlun camarweiniol – ac yn dylanwadu ar ddefnydd athrawon o’u hamser a’u hadnoddau mewn ffyrdd na fyddai athrawon efallai yn dewis gwneud fel arall.

Credaf fod hyn yn creu sefyllfa torcalonus i’n hathrawon. Ac yn eu blino fwy fwy.

Mae angen newid y system er mwyn lleihau’r biwrocratiaeth a sicrhau fod system Data Ffynnon yn adlewyrchu’n well gwir safon dysgu ein hysgolion. Nid gwyddoniaeth roced fyddai cynnwys ffordd o gymryd i ystyriaeth plant sydd â phroblemau difrifol wrth fesur llwyddiant ysgol gyfan.

Ah!

’Dwi wedi cofio’r gair yr oeddwn i’n chwilio amdano…

Stiwpid.

NB Mae’r erthygl yn adlewyrchu barn yr awdur yn unig. Nid yw’n cynrychioli barn unrhyw ysgol mae’n lywodraethwr iddi.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma