Diddordeb yn diflannu wrth wylio ‘Ghost’

19 Hydref 2016

Adolygiad gan Hannah Pearce

Neithiwr cyrhaeddodd y sioe gerdd Ghost y Theatr Newydd ar gyfer wythnos o berfformiadau. Gyda nifer o actorion a chantorion adnabyddus yn y sioe, digon teg fyddai dweud roedd gennyf ddisgwyliadau uchel o’r sioe. Yn anffodus cefais fy siomi ac yn wir, fel mae’r teitl yn awgrymu, collais ddiddordeb yn gyflym iawn wrth i’r sioe fynd yn ei blaen.

I ddechrau, roedd safon y canu, o ystyried bod hon yn sioe gerdd, yn wan iawn gyda lleisiau’r prif gymeriadau, Molly a Sam, a bortreadwyd gan Sarah Harding ac Andy Moss, yn rhy denau o lawer.

Seren y sioe

Mewn sawl man, boddwyd eu lleisiau gan y gerddoriaeth ac roedd yn anodd clywed llais Andy Moss dros lais Sarah Harding gan fod ei llais hi’n rhy gryf o gymharu â’i lais ef. Nid oedd eu lleisiau’n ddigon cryf ac mewn sawl man, ni chyrhaeddwyd y nodau uchel.

Wedi dweud hyn, roedd llais Jacqui Dubois llawer yn well a’i pherfformiad hi oedd y perfformiad gorau o bell ffordd. Perfformiodd ei chymeriad, Oda Mae, i safon eithriadol o dda. Ym mhob golygfa roedd Oda Mae ynddi, mwynheais rheini gan fod pob agwedd o’i pherfformiad, o’r dawnsio i’r canu, yn hynod o adloniadol. Yn wir, hi oedd seren y sioe ac mae’n drueni nad hi oedd y prif gymeriad.

Yn anffodus, ni allaf ddweud yr un peth am berfformiad Sarah Harding fel Molly. Gan gofio roedd hi’n arfer bod yn rhan o’r grŵp pop Girls Aloud, roeddwn yn disgwyl llais gwell na’r un a glywais. Nid oes ganddi lais ddigon cryf ar gyfer cymryd prif rôl mewn sioe gerdd ac mewn mannau, ni chanodd y nodau cywir.

‘Gorddramatig’

Yn ogystal, mae’n amlwg wrth wrando ar ei llais mai cantores pop yw hi ac i mi, nid yw ei llais yn addas ar gyfer perfformio mewn sioe gerdd. Wedi dweud hyn, roedd ei llais yn well na’i sgiliau actio. Roedd ei pherfformiad yn orddramatig, afrealistig ac yn brin o argyhoeddiad. Roedd hi’n amlwg nid actores yw hi; nid oedd ei symudiadau’n naturiol ac roeddynt yn portreadu rhywun sy’n dysgu sut i actio yn hytrach nac actores brofiadol.

Yn wahanol, portreadodd Andy Moss ei gymeriad ef, Sam, lawer yn well a mwynheais ei berfformiad gan fod hwn yn un mwy credadwy. Yn ogystal, edrychodd Andy’n fwy ymlaciedig ar y llwyfan o gymharu â Sarah a dueddodd, ar brydiau, i edrych braidd yn lletchwith. Serch hyn, nid oedd sgiliau canu Andy o safon ddigonol gan nad oedd ei lais yn gallu cystadlu â lleisiau aelodau eraill o’r cast.

Cydbwysedd

Y brif broblem gyda’r sioe mewn gwirionedd oedd nid y stori ei hun, ond y ffordd y perfformiwyd y stori. Credaf fod y plot yn dda iawn ac roeddwn yn hoff o lif y stori a’r caneuon; roedd cydbwysedd da rhwng y caneuon a’r actio ac nid oeddwn yn teimlo bod gormod o ganeuon yn y sioe.

Mae’n ddrwg gennyf ddweud ond ar yr adeg hon, nid oedd safon gyffredinol y perfformiad yn cwrdd â’r safon ddisgwyliedig ar gyfer sioeau cerdd. O ran cynhyrchiad, dyma’r gwannaf rwyf wedi gweld ers amser ac yn fy marn i, nid cynhyrchiad gorffenedig a gafwyd ond un a ymddangosodd ei fod dal yng nghanol y cyfnod ymarfer.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma