Dechrau Araf i Dymor Dinas Caerdydd

23 Awst 2016

Dyma Henry Payne yn adolygu canlyniadau tîm pêl-droed Dinas Caerdydd hyd yma, ac yn edrych ymlaen at beth sydd i ddod.

Ers y gêm agoriadol ddi-sgôr yn erbyn Birmingham, mae pencampwriaeth Caerdydd wedi parhau i fod yn rhwystredig.

Ar ôl colli 1-0 yn erbyn Bristol Rovers yn y Cwpan EFL, wnaeth dynion Paul Trollope croesawu QPR i’r brifddinas ar Awst 14. Wnaeth cyn-chwaraewr Caerdydd Steven Caulker rhoi QPR ar y blaen, Jake Bidwell wnaeth croesi a wnaeth Caulker defnyddio’i ben i sgorio heibio David Marshall.

Sicrhau buddugoliaeth wnaeth cic o’r smotyn Tjarron Chery ar ôl i Bruno Manga llutrodi Sebastian Polter.

Curo Blackburn Rovers 2-1 wnaeth Caerdydd yn eu gêm nesa, gan sicrhau ei fuddugoliaeth gyntaf o’r bencampwriaeth newydd.

Cafodd amddiffynnwr Blackburn Shane Duffy gêm i’w anghofio. Yr amddiffynnwr oedd yn gyfrifol am ddwy gôl Caerdydd a derbyniodd cerdyn coch pan oedd y gêm ar fin ddod i ben. Cyn-ymosodwr epilgar Abertawe Danny Graham wnaeth sgorio i Blackburn.

Yn eu gêm diweddara, wnaeth Caerdydd rhannu’r pwyntiau efo Fulham yn Craven Cottage diolch i gôl hwyr Kevin McDonald. Ryan Sessegnon wnaeth rhoi’r tyrfau ar y blaen ar ôl iddo gliciedu ar groes Sone Aluko. Joe Ralls wnaeth lefelu i’r Adar Gleision cyn i ergyd arbennig Anthony Pilkington rhoi Caerdydd ar y blaen. Er gwaith arbennig Ralls a Pilkington, wnaeth Fulham frwydro nôl a chafwyd ei wobrwyo efo ergyd McDonald, a wnaeth torri calonnau Caerdydd.

Mae Caerdydd yn dychwelyd i’r Cardiff City Stadium ar gyfer eu gêm nesa, maent yn chwarae Reading – tîm sydd heb ddechrau’n dda o gwbl – maent ond un safle uwch ben y safleoedd dyrchafiad.

Oddi ar y cae, mae Caerdydd wedi bod yn brysur yn y farchnad trosglwyddo.

Mae Fabio wedi gadael er mwyn ymuno â Middlesbrough, mae Rotherham wedi benthyg Tom Adeyemi am y flwyddyn ac mae Simon Moore wedi cytuno ymuno â Sheffield United ar ôl arwyddo cytundeb parhaol.

Er hynny, mae Emyr Huws wedi cytuno symud nôl i dde Cymru ar ôl i Gaerdydd ddod i gytundeb â Wigan Athletic. Roedd Huws yn amlwg yn edrych ymlaen at chwarae nôl yn ei famwlad;

“I’m chuffed to be back in South Wales and really happy to join a big club like Cardiff, I know most of the coaching staff from Wales, and can’t wait to join up with the boys now and get started.”

Cafodd Huws ei eni yn Llanelli ac roedd yn rhan o academi Abertawe pan oedd yn ifanc. Wnaeth Huws ymuno a Manchester City a dyna le ddechreuodd ei yrfa broffesiynol. Ymunodd â Wigan yn 2014 ond nid oedd yn gallu sicrhau safle parhaol yn y tîm.

Roedd llofnod Huws yn holl bwysig ar ôl i Paul Trollope datgelu gwnaeth Stuart O’Keefe torri ei fraich yn erbyn Bristol Rovers, wnaeth Trollope hefyd ddatgelu roedd yn awyddus i brynu rhagor o chwaraewyr cyn i’r farchnad trosglwyddo cau ar ddiwedd y mis, gan ddweud taw ymosodwr newydd oedd y flaenoriaeth.

“We are still looking in other areas as well, we know what we need and why we need them. We are aware of where we need to improve.”

Fydd yn ddiddorol i weld beth mae Caerdydd yn ei wneud ar ac oddi ar y cae erbyn diwedd y mis, os maent eisiau cystadlu am ddyrchafiad mi fydd rhaid iddynt wella.

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma