Darganfod Trysor yng Nghaerdydd!

26 Tachwedd 2015

Dyfarnu bod ceiniogau Rhufeinig a modrwyau canoloesol yn drysor.

Mae llwyth o geiniogau Rhufeinig a dwy fodrwy o’r oesoedd canol wedi cael eu cyhoeddi yn drysor gan Grwner E.M. Caerdydd a Bro Morgannwg.

Cafodd y ceiniogau arian Rhufeinig eu darganfod gan Mr. Richard Annear a Mr. John Player tra’n defnyddio datgelyddion metel mewn cae yn Y Wig ym Mro Morgannwg flwyddyn yn ôl. Roedd rhai o’r ceiniogau wedi’u gwasgaru o ganlyniad i waith ar y tir dros y flynyddoedd, a gadawodd y ddau gweddill y trysor yn y ddaear cyn cysylltu â Amgueddfa Cymru. Diolch i hyn, llwyddodd staff yr Amgueddfa i godi’r celc yn un darn a’i ddatgloddio’n ofalus yn y labordy.

Claddwyd y 91 denarii (ceiniogau) Rufeinig mewn potyn â gynhyrchwyd yn lleol. Maent yn dyddio o gyfnod yr Ymerawdwr Nero (AD 54-68) i Marcus Aurelius (AD 161-180) gyda’r delwedd ddiweddaraf yn cael eu stampio yn AD 163-4. Mae ceiniogau pedwar ar ddeg ymerawdwr ac ymerodres yma i gyd yn ogystal â thair ceiniog a stampiwyd gan Mark Antony yn 31 B.C. ac oedd yn dal mewn defnydd 200 mlynedd yn ddiweddarach.

Dywedodd Edward Besly, niwmismatydd Amgueddfa Cymru:

 “Roedd pob ceiniog yn gyfystyr â diwrnod o gyflog yn y cyfnod, felly byddai’r celc yn swm sylweddol o arian.

“Canfuwyd y celc prin filltir (1.6 km) fel hed y fran o Sain Dunwyd – lle canfuwyd celc arall o’r ail ganrif yn 2000. Roedd y ceiniogau yno yn cynnwys 103 denarii a gladdwyd oddeutu AD 150. Mae’r ddau gelc yn awgrymu bod economi arian lewyrchus yn yr ardal yng nghanol yr ail ganrif”

Cafodd y ddwy fodrwy o’r canol oesoedd eu darganfod yn Llancarfan, Bro Morgannwg gan Mr David Harrison yn Rhagfyr 2013.

Band addurnedig yw un ohonynt, yn teneuo i ffwrdd o’r bezel. Mae’r addurn yn gorchuddio’r wyneb allanol wedi’i engrafu, cyn mewnosod niello (sydd wedi dirywio’n rhannol erbyn hyn ond mae rhai darnau tywyll i’w gweld o hyd). Caiff y fodrwy ei dyddio i’r ddeuddegfed ganrif a gellir ei chymharu â modrwy gyffelyb o gelc Lark Hill, Caerwysg (a gladdwyd tua 1173-74).

Ar y fodrwy aur mae patrwm ailadroddus o haneri blodau a thrionglau am yn ail gyda mowldio igam-ogam dwfn yn eu gwahanu. Credir ei bod yn dyddio o ddiwedd y bymthegfed ganrif.

Dywedodd Dr Mark Redkna, Adran Hanes ac archaeoleg Amgueddfa Cymru: “Modrwyau o wahanol ganrifoedd yw’r rhain – un o’r ddeuddegfed ganrif a’r llall o’r bymthegfed – yn adlewyrchu traddodiadau metelwaith gwahanol, sy’n bwysig i ddangos newidiadau mewn ffasiwn yn ne Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol.”

Ddoe (25 Tachwedd) dyfarnwyd bod sawl canfyddiad arall o’r ardal yn drysor:

·        Crogdlws arian o’r 15-16eg ganrif o Benllyn, Bro Morgannwg

·        Modrwy arian gilt o’r 17eg ganrif o Benllyn, Bro Morgannwg

·        Modrwy arian o’r 15-16eg ganrif o Lancarfan, Bro Morgannwg

·        Tlws arian o’r 13-14eg ganrif o Lancarfan, Bro Morgannwg

·        Modrwy arian o ddechrau’r 18fed ganrif o’r Rhws, Bro Morgannwg

·        Celc o ddiwedd yr Oes Efydd o Benllyn, Bro Morgannwg

·        Celc o ddiwedd yr Oes Efydd o Bentyrch, Caerdydd

Bydd y trysorau yma yn cael eu cadw gan Amgueddfa Cymru gyda chefnogaeth grant dan nawdd project Cronfa Treftadaeth y Loteri Saving Treasures; Telling Stories.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma