28 Gorffennaf 2014

Darganfod Cyfrinachau Hanes Cymru ar Brosiect Cloddio Caer

gan Megan Rowlands,  17 oed a fu’n gwirfoddoli yn ystod wythnos olaf cloddio Prosiect Treftadaeth Caer.

Ychydig llai na fis yn ôl  dechreuodd ail prosiect archeolegol CAER yng Nghaearu ac Ely. Ar fryngaer Caerau, am bedair wythnos, fe ddaeth dros mil o ymwelwyr a gwirfoddolwyr i ffosydd y prosiect, yn edrych am dystiolaeth am hanes yr ardal.  Nawr, ar ôl wythnosau prysur o  cloddio, mae’n edrych fel bod na fwy o ddirgel a chyfrinachau am hanes i’r fryngaer nag oedd unrhywun yn diswyl.

Roedd yr archeolegwyr eisioes wedi darganfod  tystiolaeth o anheddiad Oes Haearn, ond gyda’r cloddio newydd yma eleni,  mae tystiolaeth ganddynt nawr o anheddiad o Oes y Cerrig  hefyd, tua 4000 o flynyddoedd yn ôl.

Darganfuwyd pen saeth fflint o’r oes Neolithig yn ystod y cloddio, a gan nid yw fflint yn frodorol i Gymru mae’n edrych yn debyg wnaeth pobl teithio i’r man yma. Ond am ba reswm, does neb gallu dweud yn awr. Oherwydd mae’r pen saeth wedi ei thorri ar y fas a’r pig gwelwn ei fod wedi cael ei saethu ar ryw adeg, ond mae natur y toriad, yn ôl yr  haneswyr , yn dangos ni chafodd hwn ei saethu yn ystod hela, felly mae’n bosib bod rhyw fath o frwydr neu ymladd yn y man yma, blynyddoedd yn ôl.

Yn fwy diweddar, o’r dystiolaeth sydd wedi cael eu darganfod o’r Oes Haearn, gall haneswyr ddechrau adrodd hanes cymdeithas Caerau ac Ely 2700 o flynyddoedd yn ôl. Mae olion hadau wedi’u llosgi yn dangos bod bara a chwrw wedi eu cynhyrchu yma a hefyd olion cnydau’n tyfu. Mae oedran olion esgyrn buwch yn dangos eu bod wedi cael eu defnyddio ar gyfer llaeth, nid cig, felly efallai cafodd caws i’w gynhyrchu yma hefyd.

Er mae hanes yr ardal sy’n bwysig i’r prosiect , mae cyfraniad a chyfranogiad y cyhoedd yn bwysig tu hwnt. Bu dros fil o ymwelwyr i’r safle gan gynnwys pobl leol o’r gymuned a phobl o dramor. Mae yna bwyslais ar y prosiect i hybu enw da’r ardal ac i hybu addysg gan mae dim ond 2% o fyfyrwyr yng Nghaerau ac Ely yn mynd i brifysgol ar ôl ysgol uwchradd.

Yn ôl gweithiwr yn y gymuned a gwirfoddolwr, Paul “Mae enw drwg yr ardal yn ffuglen, Rydyn ni heb cael  unrhyw fandaliaeth, ddim lladrad, ac mae pawb sydd wedi ymweld a’r prosiect wedi bod yn barchus, mae nhw eisiau cymryd rhan.”

Mae’r mwyafrif o’r ymwelwyr a’r gwirfoddolwyr wedi dod o’r gymuned ac mae nifer o blant wedi cymryd rhan hefyd .. fel un bachgen sy’n ymweld yn aml ac yn falch iawn o’r hen darnau o botiau ac esgyrn mae o wedi cloddio o’r pridd.  Gwirfoddolwyr arall ar y prosiect yw myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd. Cymysg o fyfyrwyr Hanes ac Archeoleg, israddiedig ac ôl raddiedig, yn gweithio gyda’r gwirfoddolwyr eraill i geisio hybu addysg pellach.  Un o’r myfyrwyr hyn fu’n gyfrifol am ddarganfod y pen saeth fflint,

Yn ystod wythnos olaf y cloddio mae pawb yn awyddus iawn i’r brosiect barhau yn y dyfodol, ond yn ôl  Olly Davis, un o oruchwylwyr y prosiect nid yw hynny’n debygol.  Gan fod yr ardal wedi ei nodi’n ardal o bwysigrwydd gan Cadw, mae’n anodd gwneud gweithgareddau archeolegol oherwydd mae’n dinistrio’r tir.

Ond, gyda’r tystiolaeth newydd sydd wedi eu darganfod yn barod mae’n amlwg bod treftadaeth yr ardal yn bwysig, nid yn unig i hanes Cymru, ond i hunaniaeth Caerdydd. Mae Caerdydd yn llawer fwy gyfoethog yn ei hanes nag oeddwn yn meddwl, ac mae pawb yn gobeithio darganfod mwy o dystiolaeth i ddweud stori De Cymru cyfan yn y dyfodol.

Rhannu'r erthygl hon

Postiwyd gan

Sali

sylw ar yr adroddiad yma