Cystadleuaeth Scriptslam yn dathlu penblwydd 40 oed Theatr y Sherman

26 Tachwedd 2013

Mae Theatr y Sherman yn trefnu parti pen-blwydd – ac mae gwahoddiad i chi!

I ddathlu deugeinfed pen-blwydd y Sherman mae’r theatr yn llwyfannu naw drama wreiddiol, sydd wedi’u cyflwyno gan naw o awduron, gyda rhai yn ysgrifennu ar gyfer y llwyfan am y tro cyntaf!

Mae pob drama wedi’i hysbrydoli gan symbolau ar gyfer anrhegion pen-blwydd priodas yn ystod y deugain mlynedd gyntaf – o bapur i ruddem, a phopeth yn y canol!

Caiff tair drama eu perfformio bob nos gan dîm o actorion proffesiynol. Caiff y dramâu eu perfformio o flaen panel o arbenigwyr y diwydiant – awduron, actorion a chyfarwyddwyr, a fydd wrth law i gynnig cyngor. Caiff y sgript fuddugol ei dewis gan y gynulleidfa bob nos.

Mawrth 26 Tachwedd – cyfarwyddwr Matthew Bulgo

G&M gan Neil Walden

Together gan Neil Bebber

A Very Modern Office gan David Harris

Mercher 27 Tachwedd – cyfarwyddwr Julia Thomas

Goodbye My Love gan Ness Owen

Ruby gan Owen Thomas

The Gift gan Kelsey Richards

Iau 28 Tachwedd – cyfarwyddwr Catherine Paskell

Portrait of a Gordon Brown gan Kelly Jones

40 Love gan Sara Hawys

Papers gan Gareth Smith

Dyddiadau:

26 – 28 Tachwedd am 8.00yh

Prisiau:

1 perfformiad: £5, Dan 25 £2.50
2 berfformiad: £9, Dan 25 £4.50
3 pherfformiad: £12, Dan 25 £6

@ShermanCymru
#Scriptslam40

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma