Sioe teuluol LIONBOY yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

24 Mehefin 2013

Mae’r cwmni theatr llwyddiannus, Complicite, yn cyflwyno ei sioe gyntaf i bobl ifanc a theuluoedd, wedi’i ysbrydoli gan gyfres o dri llyfr poblogaidd Zizou Corder, Lionboy, ddeng mlynedd ers cyhoeddi’r llyfr cyntaf. Fel rhan o daith y DU rhwng 29 Mai a 21 Gorffennaf, bydd Lionboy yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru rhwng 2 a 6 Gorffennaf 2013.

image006

Mae Lionboy yn adrodd stori Charlie Ashanti, sy’n fachgen cyffredin, heblaw am un peth bach: gall siarad â chathod. Mae’n byw yn y dyfodol agos o bosibl lle nad oes olew ar ôl, mae asthma ar led a chaiff y byd ei redeg gan y Gorfforaeth sinistr.

Mae rhieni Charlie yn wyddonwyr arloesol, a phan gânt eu herwgipio, mae’n cychwyn ar antur i’w hachub – gydag ychydig o help gan syrcas ar fwrdd llong a’i haid o lewod perfformio.

Zizou Corder yw ffugenw’r nofelydd Louisa Young a’i merch Isabel Adomakoh Young, a ysgrifennodd y nofelau Lionboy gyda’i gilydd pan oedd Isabel yn dal yn yr ysgol. Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf yn y gyfres o dri yn 2003 a chafwyd dwy nofel bellach – Lionboy: The Chase a Lionboy: The Truth (cyhoeddwyd y tri gan Puffin).

Yn ôl Conrad Lynch, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru, “Complicite yw un o’r cwmnïau theatr mwyaf dychmygus yn y byd ac mae’n bleser gan Ganolfan Mileniwm Cymru fod yn cydweithio â’r cwmni ar ei gynhyrchiad cyntaf i deuluoedd. Mae Lionboy, sy’n brofiad gafaelgar a hudol, yn ffordd wych o gyflwyno pobl ifanc i’r celfyddydau. Gyda’n cynnig i’r teulu, rydym yn eich gwahodd i brofi’r haf yn y Ganolfan gyda’r sioe hudolus hon a dathlu pen-blwydd Complicite yn 30 oed.”

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma