Cyngor Caerdydd yn ymateb i helynt y bins

29 Gorffennaf 2015

Mae’n wythnos bellach ers i Bingate daro rhai o ardaloedd y ddinas ac mae cyngor Caerdydd wedi ymateb i ymholiadau Pobl Caerdydd ynglŷn a’r hyn oedd y tu ôl i’r penderfyniad i ddosbarthu cannoedd o finiau i drigolion a beth fydd yn digwydd o hyn ymlaen.

Mae dosbarthu’r biniau wedi gorffen erbyn hyn a’r ardaloedd canlynol wedi cael biniau du a gwyrdd, rhai strydoedd am y tro cyntaf: Butetown, Rhiwbeina, Treganna, Penylan, Gabalfa, Plasnewydd, Gogledd Llandâf, Sblot, Adamsdown a Glan yr Afon.

Yn gyntaf gofynnodd Pobl Caerdydd pryd benderfynwyd rhoi biniau i drigolion y ddinas nad oedd wedi defnyddio biniau o’r fath hyd yma?

Cyngor Caerdydd: Cafodd y penderfyniad ei wneud yng nghyfarfod y cabinet ar yr ail o Ebrill. Cafodd y cynnig  ei drafod cyn hyn yng nghyfarfod Craffu Amgylcheddol  ar  Fawrth 10. Mae trosolwg o’r cynigion wedi bod yn y parth cyhoeddus ers  Ebrill 2 ar y wefan www.cardiff.gov.uk/recyclemore , ynghyd â nifer o ddatganiadau i’r wasg ag erthygl yn Capital Times, cyn cyfathrebu’r syniad ledled y ddinas. Mae’r wybodaeth benodol ardal wedi bod ar gael, drwy’r gwiriad cod post ar-lein, o Fehefin 5 lle gallai pobl gadarnhau a bydden nhw’n debygol o dderbyn y biniau. 

Cafodd y penderfyniad ei wneud er mwyn gwella ansawdd yr amgylchedd lleol (drwy leihau’r risg o fagiau gwastraff wedi’u rhwygo ar y stryd), yn darparu gwell perchnogaeth gwastraff (gall codau bar ar bob bin ddangos yn glir pa eiddo sy’n cael ei ddefnyddio yn anghywir) ac i wella agwedd iechyd a diogelwch ar gyfer ein criwiau.

PC: Beth oedd y broses o ymgynghori gyda’r trigolion?

CC: Mae’r cyngor wedi ymgysylltu a’r trigolion mewn nifer o ffyrdd.

  • anfon arolwg rheoli gwastraff i ychydig o dan 5,000 o unigolion sy’n rhan o Banel Dinasyddion y cyngor

  • i ddilynwyr y cyfrif twitter @cyngorcaerdydd;

  • anfon at yr holl Gynghorwyr lleol;

  • postio i 1,000 o gyfeiriadau a samplwyd ar hap wedi eu rhannu yn ôl y chwe Ardal Rheoli Cymdogaeth Caerdydd a hefyd

  • i nifer o fudd-ddeiliaid allweddol, megis y gymdeithas landlordiaid yn gofyn eu bod yn rhannu yr holiadur i’w haelodau.

Digwyddodd yr ymgynghoriad cyntaf yn Chwefror 2014. Dosbarthwyd yr arolwg “Holi Caerdydd” i 3000 o dai ac i aelodau Panel Dinasyddion Caerdydd (78,773 o aelodau).

Ynghyd â strtategaeth “Beth sy’n Bwysig” (What Matters) danfonwyd arolwg i 3000 o gartrefi; grŵp arlein Holi Caerdydd, pob cynghorydd lleol a channoedd o rhan-ddeliaid allweddol. Gwnaeth y tîm gynnal cyfarfodydd ym mhob ardal i roi’r cyfle i drigolion ofyn cwestiynnau wyneb yn wyneb. Roedd fersiwn electroneg o’r arolwg ar gael ar lein.

PC: Pa ddadansoddiad a wnaed o ofynion gwirioneddol – ee biniau gwyrdd sy’n cael eu darparu i gyfeiriadau nad oes ganddynt ardd?

CC: Gwnaethpwyd dadansoddiad o’r swm cyffredinol o wastraff gardd a gynhyrchir mewn ardal, ar gyfartaledd fesul eiddo. Roedd na ‘cut-off point‘, felly ni ddorbarthwyd biniau i ardaloedd oedd yn cynhyrchu llai o wastraff gardd na’r pwynt yma.

PC: Faint mae’r biniau yma wedi costio i’r Cyngor?

CC: Mi fydd y gost yn £1.1m. O ran effeithiau ariannol, er bod na gost unwaith yn unig ar gyfer prynu biniau newydd, bydd y gost hon yn cael ei orbwyso yn hyn drwy sicrhau arian gan Lywodraeth Cymru ac osgoi dirwyon. Fe fydd methu cyrraedd y targed ailgylchu statudol o 58% eleni yn costio £ 3.4m – mwy o gost na’r gwariant cychwynnol o brynu biniau. Mae’r ffigwr hwn yn codi i £21m erbyn 2020, os byddwn yn parhau i fethu targedau.

PC: Ble mae’r trigolion sydd heb ardd, neu yn byw mewn tai reit wrth ymyl y stryd, i fod i gadw’u biniau?

CC: Nid yw trigolion gyda thai yn agor yn syth allan ar y stryd yn derbyn biniau olwyn gan nad oes ganddynt unrhyw le i’w storio. Mae asesiad gweledol wedi digwydd, a’r holl cartrefi sydd wedi derbyn biniau wedi cael eu hasesu fel rhai sydd ganddynt le i’w storio. Rydym yn cydnabod y gall fod rhai amgylchiadau unigol, nad yw’n caniatáu iddynt i storio biniau. Rydym yn hapus i gynnal asesiadau cartref i gynorthwyo preswylwyr gyda’r lle mwyaf priodol i storio eu biniau .

PC: Beth fydd yn digwydd os fydd bins ar y pafin yn achosi rhwystr e.e. i gadair olwyn?

Dylai’r biniau fod ar y palmant am gyfnod cyfyngedig o amser (diwrnod casglu ) dros gyfnod bob pythefnos. Os yw pobl yn cael eu canfod i fod yn gadael biniau allan yn barhaol, mae hyn yn gyfystyr â “rhwystr” a bydd hysbysiad ffurfiol yn cael ei gyhoeddi i ddychwelyd biniau i’r cartref ar ôl ei gasglu. Bydd methu â chydymffurfio yn arwain at £100 o gosb. Mae biniau eisoes wedi cael eu dosbarthu i 80% o’r ddinas heb lawer o drafferth.

PC: Ydy pobl yn gallu rhoi bin nad oes angen arnyn nhw yn ôl? Neu gofyn am fin llai? Sut mae mynd o’i chwmpas hi?

CC:  Mae biniau gwastraff gardd gwyrdd 140L ar gael. Os nad yw pobl eisiau eu bin gwastraff gardd, mae angen i chi gysylltu â ni a byddwn yn ei ddileu .Os na fydd preswylwyr yn dymuno eu bin du, bydd angen iddynt gysylltu â ni yn ffurfiol yn ysgrifenedig gan roi gwybod i ni sut y maent yn bwriadu i waredu eu gwastraff cyffredinol .

Yn achos eithrio o’r cynllun , bydd angen i drigolion wneud eu trefniadau eu hunain i gael gwared ar gwastraff yr ardd a/neu gyffredinol eu hunain. Bydd sbwriel ailgylchu a gwastraff bwyd yn parhau i gael eu casglu fel arfer. Os bydd preswylwyr yn newid eu meddwl yn y dyfodol, bydd angen iddynt dalu £ 25 am bin.

Gall dinasyddion gysylltu â’r Cyngor drwy ffonio C2C ar 029 2087 2088 neu ebosio c2c@caerdydd.gov.uk.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Aled Wyn Phillips yn dweud:

Os ail gylchu yw’r nod, pam na fyddai’r cyngor yn caniatau i ni ddefnyddio’r biniau gwyrdd ar gyfer deunydd ail gylchu gan arbed bagiau plastig. Bydde modd gosod gwastraff gardd mewn bagiau yn fwy achlysurol.