Cyfres newydd yn codi hanes y Cymry o’r pridd

14 Tachwedd 2013

Mae’r actor a chyfarwyddwr teledu Morgan Hopkins yn meithrin angerdd cudd: archeoleg. Yma mae’n rhoi cip olwg ar ei fenter newydd – cyfres fydd yn ein hannog i gloddio i hanes hynafol Cymru.   

Dydw i ddim yn archeolegydd. Does gen i ddim barf, dim amynedd gydag amwysedd a dim dyfalbarhad pan fo’r tywydd yn wael. O, a dim gradd yn y pwnc chwaith – manion felly.Morgan2

Beth sydd gen i yw diddordeb yn ein hanes ni y Cymry, yn Geltiaid, Rhufeiniaid, Llychlynwyr, Normaniaid ac, ie, Sacsoniaid – y bobl sydd wedi creu y wlad ry’n ni’n byw ynddi nawr. Mae archeoleg Cymraeg yn ymwneud ag olion pobl Cymru, waeth beth oedd lliw y llaw na haniad y traed a’u creodd.

Dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn rhydd o wê gwleidyddiaeth. Mae darn helaeth o’n hanes archeolegol wedi ei ffurfioli gan bobl oedd, ac i raddau sydd o hyd, yn ei ddiffinio yn ôl safbwynt diwylliannol cul iawn. Yn aml, fe’n cyflwynir i ni’n hunain mewn hanesion fel barbariaid, gormeswyr sy’n gyfystyr â therfysgwyr. Mae’n deg dweud felly mai rhan o fwriad y tri ohonom ni a aeth at S4C gyda’r syniad o greu cyfres archeolegol yn y Gymraeg oedd hawlio yn ôl y fraint o gyflwyno ein hanes yn ein ffordd ein hunain, yn ein hiaith ein hunain ac o’n safbwynt ni ein hunain.

Morgan3Dwi newydd ail ddarllen y paragraff uchod a dwi’n poeni y byddwch yn meddwl bod gennym rhyw fwriad tywyll, pregethwrol. Fyddai menter o’r fath tu hwnt i rywun mor wamal a fi. Os nad ydych yn gyfarwydd â chynnwrf cloddio safle hollol newydd, y wefr syfrdanol o ganfod gwrthrych hynafol, o gerdded dros fannau oedd yn gysegredig miloedd o flynyddoedd yn n’ôl, gwyliwch. Ar ôl gwylio, ewch i wirfoddoli i gloddio. Ein bwriad o godi’r dywarchen gyntaf hyd at ail daenu’r pridd oedd eich cynhyrfu chi a’ch cyfareddu gyda chyfrinachau’r pridd.

Dyw’r uchod ddim yn anodd yng Nghymru. Ry’n ni’n ffodus tu hwnt mai gwlad boblogaidd os nad poblog yw’n rhan ni o’r byd erioed – mae rhai o weddillion hynaf Ewrop wedi eu canfod yma – a diolch byth bod yr hynafiaid hynny fu’n dod a mynd yn ddigon blêr i adael eu sbwriel, eu tlysau a’u claddfeydd ar eu hôl. Mae llawer o’n harcheoleg wedi ei arbed rhag distryw yr aradr am fod natur y tir carregog wedi ei amddiffyn. Yn ogystal â hyn, dyw’r rhan fwyaf o safleoedd archeolegol y gwyddwn amdanynt yng Nghymru heb eu harchwilio a’u hastudio. Wyddwch chi’r domen ddiddorol honno yng gwaelod yr ardd, yr un sy’n debyg i domen castell, neu gladdfa? Wel, mae’n bosibl iawn…

Peidiwch, da chi, gofynnwn yn garedig, ag ymestyn am y rhaw a dechrau tyrchu. Mae mwy o atebion aMorgan4 gwybodaeth yn y pridd ei hun, ei liw, ei gyfansoddiad a’i leoliad nag sydd yn y darn crochenwaith sydd oddi tano yn amlach na pheidio. Cloddio am drysorau heb recordio gwyddonol, gofalus yw ysbeilio ac mae gormod o hynny wedi digwydd ar ein creiriau yn barod. Cysylltwch â’ch ymddiriedolaeth archeolegol agosaf, neu’n well byth, cysylltwch â ni!

Felly, aethom i Gonwy yn chwilio am Eglwys ganol oesol, i Llandre i astudio olion crasu, i Lledrod i chwilio am ffordd hynafol ac i Gynffig i gloddio yn y tywod. Mae’r hyn y deuthym o hyd iddo wedi creu cynnwrf a syfrdan a chryn cwmpo mas, tri pheth y mae cwmni Trisgell, sef Iestyn Jones (cynhyrchydd a phrif archeolegydd), Tom Guy (cynhyrchydd cyfres) a finnau yn falch iawn ohonynt.

Am fwy o fanylion am y gyfres – gan gynnwys dyddiad darlledu tebygol – dilynwch Trisgell ar Twitter – @Trisgell


Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma