Cyfarfod cyhoeddus TaG i drafod y diweddaraf

30 Mai 2014

Mae ymgyrch TaG wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus i drafod addysg Gymraeg yng nghorllewin Caerdydd ar Fehefin 4. Dyma ddatganiad  TaG sy’n esbonio’r cefndir.

Mae ‘dogfen ymgysylltu’  sydd newydd ei chyhoeddi gan Gyngor Caerdydd ymhlith y dogfennau pwysicaf a mwyaf cyffrous yn hanes addysg cyfrwng Cymraeg yn y ddinas. Cewch wybod pam yn y man. Ond dau gwestiwn ichi yn gyntaf.

Pa ardal yw’r fwyaf amlethnig yng Nghaerdydd, yn ôl Cyfrifiad 2011?

Pa ardal o Gymru a welodd y cynnydd mwyaf arwyddocaol yn nifer y siaradwyr Cymraeg, yn ôl Cyfrifiad 2011?

Yr un ateb sydd i’r ddau gwestiwn, sef ardal Grangetown/Tre-biwt. Yn 2011 roedd dros draean o boblogaeth y ddwy ward hyn o gefndir ethnig lleiafrifol. Yn Grangetown, rhwng 2001 a 2011 gwelwyd cynnydd o 650 yn nifer y siaradwyr Cymraeg (53%). Yn Nhre-biwt mae’r sefyllfa’n fwy trawiadol eto: 356 yn 2001, 928 yn 2011, sef cynnydd rhyfeddol o 572 (161%).

A dyna hefyd esbonio pwysigrwydd y ddogfen ymgysylltu, sef ei bod yn gwahodd sylwadau ar sefydlu ysgol gynradd Gymraeg yn ardal Grangetown/Tre-biwt. Ar hyn bryd, nid oes ysgol Gymraeg yn Nhre-biwt, Grangetown na’r ward drws nesaf (a’r drydedd fwyaf amlethnig yn y ddinas), Glanyrafon. Rhaid i blant yr ardaloedd hyn deithio i ysgolion Pwll Coch a Treganna (a all fod yn daith dros ddwy filltir) neu i Ysgol Mynydd Bychan (bron pedair milltir i rai). Mae 4,603 o siaradwyr Cymraeg yn y tair ward hyn, heb un dosbarth mynediad Cymraeg.

Yn ward Treganna, mae 2,625 o siaradwyr Cymraeg, a phum dosbarth mynediad rhwng dwy ysgol wahanol (sef lle ar gyfer 150 o blant y flwyddyn). Mae’n wych fod darpariaeth gystal yn Nhreganna, ond ar hyn o bryd mae’r ysgolion yno yn gorfod diwallu anghenion bron y cyfan o’r tair ward arall. Nid yw’n sefyllfa gynaliadwy.

Mae’n dra anfoddhaol mewn modd arall hefyd. Yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth (darllenwch yma) nodir y canlynol (adran 3.6):

“Dylai addysg cyfrwng Cymraeg adlewyrchu cyfansoddiad poblogaeth Cymru yn gyffredinol, a dylai fod ar gael i bob cymuned, gan gynnwys y rhai o dan anfantais a llawn amrywiaeth ethnig, a dylent fanteisio arni.”

Mae wardiau Grangetown a Thre-biwt yn sicr yn rhai ‘dan anfantais’ economaidd ac maent yn sicr hefyd yn ‘llawn amrywiaeth ethnig’. Mae nifer o’r trigolion yn manteisio ar addysg Gymraeg, ond eto nifer gymharol isel yw honno. Gallai sefydlu ysgol Gymraeg yn yr ardal weddnewid y sefyllfa.

Ond gallai hefyd wneud drwg mawr. Go brin y daw cyfle arall yn y dyfodol rhagweladwy i sefydlu ysgol yn yr ardal hon. Y perygl felly yw bod yr ysgol newydd yn cael ei lleoli ar gyrion y gymuned, mewn man anhygyrch sydd yn gofyn am ymroddiad sylweddol o ran amser neu arian i ddanfon plant yno bob bore. Mewn ardal ddifreintiedig, byddai hynny’n drychinebus.

Gan fod cynifer â 7 ysgol cyfwng Saesneg yn ardal Grangetown/Tre-biwt (yn ogystal â thair arall yng Nglanyrafon), byddai ysgol Gymraeg ar y cyrion yn ei chael anodd iawn diwallu gofynion strategaeth y Llywodraeth ynghylch addysg Gymraeg, sef bod ‘[p]ob cymuned, gan gynnwys y rhai o dan anfantais a llawn amrywiaeth ethnig  … [yn m]anteisio arni’.

Felly, ewch ati i ymateb i’r ddogfen ymgysylltu hon sydd yn cynnig cynlluniau ar gyfer aildrefnu addysg gynradd cyfwng Cymraeg a Saesneg yn wardiau Treganna, Glanyrafon, Grangetown a Thre-biwt. Os oes modd, ewch i un o’r cyfarfodydd cyhoeddus a drefnwyd gan y Cyngor (manylion drwy’r ddolen uchod).

Mae Ymgyrch TAG dros ysgol Gymraeg i Grangetown/Tre-biwt (www.facebook.com/ymgyrchtag) hefyd wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus: 7.30, 4 Mehefin, yn Neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth, Corporation Road, Grangetown. Dewch yno i ddangos eich cefnogaeth ac i rannu syniadau – mae’n bwysig iawn fod cymaint ag sy’n bosib yn dod. Ac mae croeso mawr ichi gysylltu â ni unrhyw dro, i rannu syniadau neu holi cwestiynau.

Rhaid manteisio ar y cyfle hwn i’r eithaf.

Ymgyrch TAG (YmgyrchTAG@gmail.com)

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma