Croeso i’r ymfudwyr?

15 Medi 2015

Gyda’r newyddion heddiw fod nifer o wledydd Ewrop yn ei gwneud hi’n fwy anodd i ffoaduriaid groesu’u ffiniau, mae Huw Onllwyn wedi bod yn pendronni am yr argyfwng cymhleth yma.

Beth yw ystyr y slogan, uchod?

Beth yw’r union neges? Wedi’r cyfan ‘rwyf wedi ei weld sawl gwaith, yn enwedig ar Facebook a Twitter. A ‘dwi wedi gweld sawl gwleidydd yn dal poster ‘Refugees Welcome’, gan gynnwys ein Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Rwy’n siŵr fod hyrwyddo’r neges yn gwneud i berson teimlo’n dda iawn (am ei hunan – a’i gyfraniad i’r achos). Ond, a oes yna wahaniaeth, weithiau, rhwng gwneud yr hyn sy’n teimlon dda, a gwneud yr hyn sydd yn dda?

Peth hawdd, wrth gwrs, yw beirniadu unrhyw lywodraeth. Ac mae’n bwysig iawn gwneud hynny. Wedi’r cyfan, mae’n dangos ein bod oll â diddordeb yn yr hyn a wneir ganddynt. Cyn gwneud hynny, fodd bynnag, gellir dadlau ei fod yn ddefnyddiol i ni feddwl ychydig, am y broblem.

Er enghraifft, dychmygwch mai chi yw Prif Weinidog y DU. (Nid yw’n amhosib, wedi’r cyfan, mae Jeremy Corbyn – o bawb – wedi dechrau dychmygu hynny!).

Sut fyddech chi’n ateb yr 20 cwestiwn anghyfforddus a dadleuol canlynol?

  1. Faint o bobl fyddech chi am eu cartrefi ym Mhrydain ac yng Nghymru? A oes terfyn? Os oes, beth yw’r terfyn hwnnw? Beth am 800,000 yn ystod 2015, fel yn yr Almaen (gyda mwy i ddod yn 2016…)?
  2. Ble fyddech am eu cartrefu yng Nghymru? Er enghraifft, a fyddech am ddal ati i warchod ein cymunedau Cymraeg? Hynny yw, fod croeso iddynt i ddod i Gymru, ond fe fyddai cyfyngiadau mewn grym o ran ble byddai modd iddynt fyw. Sut fyddech yn cyfiawnhau trin y cymunedau hynny’n wahanol i’r cymunedau eraill yng Nghymru (lle bydd nifer o bobl, o bosib , hefyd yn bryderus am eu derbyn)?
  3. Mae’r broses mudo yn tyfu. Mae yna dystiolaeth yn dangos fod mwy o fudo yn digwydd, pan fydd gwlad yn datblygu’n economaidd. Wedi’r cyfan, pan fydd person wedi ennill digon o arian, mae’n haws iddo wneud y daith i Ewrop. Ar yr un pryd, mae’r we a’r cyfryngau cymdeithasol yn galluogi iddo weld yr hyn sydd ar gael yn Ewrop a chysylltu efo teulu a ffrindiau sydd yno eisoes. Hynny yw, mae’n debyg y bydd y broses mudo gyda ni am amser hir iawn – ac yn dal i dyfu. Ai’r polisi, felly, fyddai i dderbyn unrhyw berson sy’n teithio i Brydain er mwyn cael bywyd gwell?
  4. Pa effaith fyddai eu cartrefu yn ei gael o ran ein gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, megis addysg, tai a gwasanaethau iechyd? A ragwelir unrhyw broblemau?
  5. A oes peryg y byddai talu am eu cartrefu ym Mhrydain yn effeithio ar ein gallu i ddarparu cymorth dyngarol i’r rheini nad sy’n gallu dod yma, am eu bod yn rhy dlawd i dalu i deithio mewn dinghy ar draws Mor y Canoldir? Wedi’r cyfan, fe welwn George Osborne eisoes yn gorfod defnyddio arian cymorth rhyngwladol er mwyn helpu awdurdodau lleol ym Mhrydain i gartrefu ffoaduriaid.
  6. A ydy e’n iawn i ni roi’r blaenoriaeth i’r rheini sydd wedi gallu teithio yma (er enghraifft, dynion ifanc sengl) dros rheini sydd methu teithio, ond sydd mewn sefyllfa llawer mwy bregus (megis hen bobl, neu famau sengl gyda phlant ifanc)?  Sut fydden ni’n ymdopi yn yr un sefyllfa?
  7. A yw’n beth da i rhoi’r argraff fod croeso i bawb yma (sef ‘Refugees Welcome’)? Oes peryg y bydd hyn yn arwain mwy o deuluoedd i deithio mewn dinghy bach tila efo 80 o bobl eraill – gan sicrhau y bydd mwy o blant ac oedolion yn boddi ym Mor y Canoldir?
  8. Oes yna beryg mai dim ond y pobl mwyaf cyfoethog a dawnus sy’n gallu talu i adael Syria? Os felly, a fydd yn anoddach i’r rheini sydd wedi aros yno i ail-ddatblygu’r wlad pan ddaw y rhyfel i ben?
  9. Oes yna beryg y bydd y mudo (er enghraifft, yr 800,000 a ddisgwylir yn yr Almaen) yn arwain at broblemau cymdeithasol? Gwelwn eisoes grwpiau adain dde yn y wlad honno yn ymosod ar fewnfudwyr.
  10. Beth fydd yr effaith diwylliannol dros y tymor hir? Eto, mae grwpiau adain dde yn gweld y cynnig gan y Saudis i ariannu 200 mosque yn yr Almaen fel dim mwy nag ymdrech i wreiddio’r crefydd Islam yn Ewrop – ac yn gweld hynny fel bygythiad. Oes yna risg fod problemau hir dymor yn mynd i ddatblygu, felly? Sut mae delio ‘da hwnna?
  11. A fydd cyfeirio arian at gartrefu ffoaduriaid yn Ewrop yn niweidio ein gallu i greu ardaloedd dyngarol yn ardal Syria (humanitarian zones) er mwyn creu rhywle saff ar gyfer y ffoaduriaid sydd methu gadael yr ardal?
  12. A yw’r rheiny sy’n ffoi’r rhyfel wir eisiau symud i Ewrop? Neu a fyddai’n well ganddynt i weld y rhyfel yn dod i ben yn fuan, fel bod modd iddynt symud adref? Os ydynt am aros yn agos i’w gwlad, a ddylwn rhoi ffocws fwy fwy ar eu hanghenion hwy (y 9 miliwn, yn hytrach na’r lleiafrif sydd wedi teithio)?
  13. Mae ‘na sôn bod y rheiny sydd wedi ffoi Syria, ond sy’n methu ‘fforddio teithio, am gael swyddi yn Libya – ond fod Libya yn gwrthod gadael iddynt weithio. A ddylem helpu sicrhau fod gwaith ar gael iddynt? A fyddai hynny, wedyn, yn helpu gyda’r broses o ail-ddatblygu Syria ar ôl y rhyfel?
  14. A oes unrhyw beryg fod milwyr ISIS ymhlith y rheiny sy’n dod i Ewrop ac i Brydain? Mae nifer helaeth o ffoaduriaid yn cyrraedd heb unrhyw bapurau. Pwy ydy nhw? A ddylem boeni am hyn? Os dylem, beth ddylem ei wneud am y peth?
  15. A ddylem ddwyn mwy o bwysau ar wledydd y Dwyrain Canol i dderbyn ffoaduriaid? Ar hyn o bryd, maent yn gwrthod eu derbyn gan eu bod yn ofni’r effaith ar eu gwledydd.
  16. Mae rhai yn dweud mai bai Prydain a’r Unol Daleithiau yw’r rhyfel yn Syria, ond a yw hanes y sefyllfa yn cadarnhau hynny? Nac ydyw, yn ôl y BBC:
  17. A ddylem gynnig derbyn teuluoedd o Syria yn ein cartrefi, fel mae Nicola Sturgeon, Leanne Wood a Bob Geldof wedi gwneud? A yw hynny’n gyfraniad synhwyrol i’r gwaith o ateb y broblem? Er enghraifft, oes gan Nicola, Leanne a Bob y sgiliau sydd eu hangen er mwyn cartrefi’n saff plant ffoaduriaid sydd wedi eu trawmateiddio ar ol 4 mlynedd o rhyfel? Neu a fyddai’n well gadael hyn i’r awdurdodau priodol – gan ddefnyddio teuluoedd maeth sydd â phrofiad yn y maes – a CRB check yn ei le? Mae rhai yn dadlau mai PR stunt oedd datganiadau’r tri, yn bennaf.
  18. Oes angen mwy o ffocws ar ddod a’r rhyfel i ben? A sut mae delio ‘da ISIS?  Sut allwn ni wir helpu pobl sy’n gorfod ffoi o’u cartrefi oherwydd rhyfel?
  19. A ddylem yrru Jeremy Corbyn yno i drafod y sefyllfa ‘da arweinwyr ISIS a Bashar al-Assad. Bydd hynny’n siŵr o weithio…
  20. A yw datgan ‘Refugees Welcome’ ar Facebook yn mynd i’r afael a’r mater, mewn ffordd adeiladol a synhwyrol? A yw’n helpu? Neu a yw’n enghraifft arall o wneud yr hyn sy’n teimlon dda, yn hytrach na gwneud yr hyn sydd yn dda?

Mae’n gymhleth…

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Heini yn dweud:

Dau gwestiwn arall:
Beth fydd wedi digwydd i fam-gu (o deulu cefnog) dy wraig pe na byddai wedi cael ei derbyn yn ffoadur yn yr ynysoedd hyn?
Wyt ti wedi darllen sylwadau dy chwaer ar dderbyn ffoadures i’w chartref?