Croeso i’r Caerdydd ‘arall’: Sgwotio yn lledaenu ar draws y ddinas

15 Medi 2013

Er gwaethaf y rhagfarn a’r ddeddfwriaeth yn ei erbyn, meddai Efa Thomas, mae prinder tai fforddiadwy yn gwneud sgwotio yn fwy perthnasol nag erioed

Ym mis Awst fe gafodd Gorsaf Heddlu Treganna ei sgwotio gan grŵp o bobol o’r enw Antagonistic Collective Against Boredom (ACAB); mae ACAB hefyd yn gyfrythleniad sydd yn sefyll am ‘All Cops Are Bastards’. Mewn datganiad mynegodd y grŵp, “Rydym yn sgwotio oherwydd ein bod yn credu nad oes gan gorfforaethau a landlordiaid hawl i gadw eiddo yn wag er mwyn creu elw tra bod pobl llai ffodus yn ddigartref”. Oherwydd natur yr adeilad a ddewisodd y grŵp, cafodd y sgwot gryn sylw yn sydyn gan y cyfryngau. Fe ollyngwyd baneri o ffenestri’r adeilad, oedd wedi cael ei adael yn wag gan yr heddlu, yn datgan “Less Cops, More Squats” a “Police Brutality Sucks”.

bm

Yr Ymbarel Coch & Du, Stryd Clifton, wedi ei feddiannu ers Hydref 2011

Mae’n bosib mai hwn ydi’r sgwot cyntaf i chi glywed amdano yng Nghaerdydd yn ddiweddar, ond mae nifer fawr o adeiladau gwag wedi cael eu meddianu a’i sgwotio yn y ddinas dros y ddwy flynedd dwethaf. Roeddwn i yn rhan o’r criw benderfynodd sgwotio y Tredegar Hotel ar Stryd Clifton yn Hydref 2011. Fe  ail enwyd y dafarn yn The Red and Black Umbrella, neu Yr Ymbarel Coch a Du. Ein bwriad oedd sefydlu canolfan i’r gymuned leol ac fel gofod ar gyfer digwyddiadau radical. O fewn ychydig wythnosau, ar ôl i ni drwsio a thacluso’r adeilad, oedd wedi bod yn wag ers dros bum mlynedd, dyma ni’n gwahodd y cyhoedd i mewn. Roedden ni yn cynnal gigs; nosweithiau ffilm; gwersi Cymraeg, Arabeg, Sbaeneg a Saesneg. Bydden ni yn coginio prydau mawr o fwyd i unrhywyn oedd ei eisiau ac roedd y gweithgareddau hyn i gyd am ddim, neu am gyfraniad. Roedden ni fel grŵp yn teimlo fod Caerdydd wedi bod yn colli allan, ac angen sgwot gymundeol fel hyn. Mae diwylliant sgwotio a grŵpiau radical wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd amgen dinasoedd fel Llundain, Bryste a Brighton ers degawdau. Mae’r Ymbarel Coch a Du dal yn bodoli, er nad oes neb o’r grŵp gwreiddiol ar ôl yna, ac er nad ydi mor brysur a gweithredol ag oedd yn y gorffenol, mae digwyddiadau achlysurol yn cael eu cynnal yna.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Y Gremlins yn gwrthsefyll cael eu troi allan o adeilad Spin, Heol y Ddinas Hydref 2012

Ers sefydlu Yr Ymbarel Coch a Du mae nifer mwy o adeiladau gwag wedi cael eu sgowtio yn Ne Cymru, gyda’r grŵp Cwtch yn Abertawe yn meddiannu cyfres o adeiladau, ac o leiaf wyth adeilad wedi cael ei sgwotio gan grwpiau gwahanol yng Nghaerdydd. Cafodd y  ‘Gremlins’  llawer o sylw yn y cyfryngau ar ôl iddyn nhw feddianu adeilad Spin ar City Road yn ogystal a thafarn y Bute Dock Hotel yn y Bae.  Sgwot arall a gafodd fywyd byr ond llawer o gyhoeddusrwydd oedd The Great Tax Invasion ar Stryd Westgate oedd yn rhan o brotest Occupy Caerdydd. Yn ddiweddar cafodd yr hen dafarn Rumpoles wrth y carchar ei sgwotio, nes i fel gwestai gynnal gig Afiach gan roi llwyfan i grwpiau pync gwrth-ffasgaidd ar daith o gwmpas Prydain.

‘4.5 miliwn’ yn disgwyl am lety

Yn ystod y cyfnod hyn o sgwotio yng Nghaerdydd, mae’r llywodraeth glymbleidiol yn San Steffan wedi newid y ddeddf sy’n ymwneud â sgwotio. Ers y 1af o Fedi llynedd mae bellach yn anghyfreithlon i sgwotio adeiladau ‘residential’, gyda chosb o hyd at £5,000 neu dedfryd o chwe mis yn y carchar. Yn ôl y grwp Empty Homes mae tua 920,000 o gartrefi gwag yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ffigwr hwn hyd yn oed yn fwy brawychys o ystyried fod rhestrau tai cyngor y DU efo 1.8 miliwn o geisiadau (yn cynrhychioli 4.5miliwn o bobol) yn disgwyl am lety. Gyda’r newid yn y gyfraith cafwyd deialog yn y cyfryngau gyda’r asgell chwith a rhyddfrydol yn gofyn os oedd posib cyfiawnhau y newid tra roedd ffigyrau hurt fel hyn yn bodoli; Ar y naill llaw roedd y wasg Doriaidd yn mynu bod landlordiau angen mwy o hawliau i ddiogelu eu eiddo. Dwi’n gweld yr ddadl yma yn debyg i ddadl tai haf yng Nghymru. Pam dylai unrhywyn gael mwy nac un adeilad a’u gadael yn wag, tra bod eraill yn ei chael hi’n anodd cael tô dros ei pennau?  Ymateb Meibion Glyndwr i hyn oedd llosgi tai haf. Ymateb y sgwotwyr ydy i gymryd adeiladau drosodd a’i defnyddio fel lloches neu ganolfan i’r gymuned.

Democratiaeth ar waith

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Creche yn Kukutza, yn chwarae rhan bwysig i’r gymuned yn Bilbao, Gwlad y Basg. Haf 2011.

Mae gan rai pobl ragfarnau yn erbyn sgwotwyr – yn meddwl eu bod yn ddiog, budur ac yn camdrin alcohol a chyffuriau. Efallai bod rhai felly, ond mae angen i bobol ddeall fod pob grŵp o sgwotwyr yn wahanol. Mae pob grŵp yn dewis sut fath o fywyd mae’r sgwot yn ei gael tra maent yn ei feddianu. Cyn i ni benderfynu sgwotio a sefydlu Yr Ymbarel Coch a Du yng Nghaerdydd roeddwn i wedi gwario’r haf yn bodio o gwmpas Ewrop gyda fy nghariad, gyda braidd dim arian. Mae sgwotio yn fwy cyffredin ar y cyfandir ac mae llai o stigma yn bodoli amdano nac sydd ym Mhrydain. Y ddau sgwot sydd yn aros yn fy meddwl fwyaf o’r haf yna yw Kukutzka yng Ngwlad y Basg; sgwot enfawr gyda pedwar llawr efo feniw gigs, creche, stwidios celf, bwyty a mwy. Dwi’n cofio gwylio Nain a Taid Basgeg yn chwarae gyda’u hwyrion yng nghrêche y sgwot a chofio hoffi pa mor arferol oedd o. Yr un arall dwi’n gofio ac edmygu yw Metelkova ym mhrif ddinas Slofenia, Ljubljana. Hen barics byddin Iwgoslafia ydi’r gofod a gafodd ei sgwotio yn dilyn Slofenia yn datgan annibyniaeth yn 1990. Yno mae llawer o adeiladau gwahanol , ac mae fel tref bach o leoliadau annibynol sy’n edrych yn anhygoel yn allanol hefyd, gyda chelf ecsentrig a radical. Dyma pryd ddisgynais mewn cariad hefo’r syniad o sgwotio. Mae sgwatwyr yn creu y byd mae nhw eisiau eu weld o fewn pedair wal ac dwi’n gweld o fel rhyw fath o ddemocratiaeth ar waith, gan mai’r gymuned o bobl sydd yn cymryd rhan yn y sgwot sy’n penderfyny be sydd yn digwydd yno, gan wrthod y biwrocratiaeth a’r rheolau fyddai rhaid eu dilyn os byddech chi’n gwneud pethau ‘by the book’.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Celf yn Metelkova, Ljubljana Haf 2011

Dwi wedi bod i bob math o sgwots ym Mhrydain ac ar draws y cyfandir o Sbaen i Ferlin i Serbia; mae llawr ohonynt yn cynnig gwasanethu fel canolfanau cymunedol gyda ‘Free Shop’, llyfrgell radical, bars, bwyd am gyfraniad, stondin gwybodaeth gwleidyddol, graffiti, tra mae rhai eraill yn canolbwyntio ar fod yn leoliad i gerddoriaeth neu yn galeris celf yn unig. Dwi hefyd wedi bod i sgwot ffeministaidd, queer a trawsrywiol, ble mae materion rhyw a rhywioldeb yn bwysig. Beth sy’n bwysig dwi’n credu yw mai y bobl sydd yn byw yno sydd yn dewis y byd mae nhw’n byw ynddo ac trwy sgwotio mae’n bosib adeiladu cymunedau a bywyd gwahanol tu allan i’r gyfraith a’r status quo.

Protest yn erbyn ‘gwastraff’

Yn fy Nghaerdydd delfrydol i, bysa nifer o sgwots ar draws y ddinas yn cynnig llawer o gyfleoedd gwahanol i’r trigolion lleol – sgwots yn seiliedig ar fwyd, cerddoriaeth, celf, gwleidyddiaeth, yr iaith Gymraeg neu helpu ffoaduriaid. Mae sgwotio yn brotest yn erbyn y system gyfalafol sydd yn rhoi elw cyn pobol. Mae’n brotest yn erbyn y gwastraff sydd yn cael ei greu gan y system da ni yn byw ynddo. Mae sgwotio yn rhoi cyfleoedd i bob math o bobl ddod at ei gilydd, i greu cymunedau ac i fynegi eu hunain mewn gofod annibynol. Rwy’n gobeithio gweld mwy o sgowtio yn Nghaerdydd ac yn gobeithio am ddyfodol ble does dim pobol heb gartrefi, a dim cartrefi heb bobol.

@Efa_Twm

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Non Tuder yn dweud:

get a job!

Heledd yn dweud:

Non ma dy ddadl di yn erbyn sgwatio ddim yn rili confinsio fi ma arnai ofn.. Er gwaetha’r ffaith nes di rhoi dy bwynt di ar draws mewn ffordd mor urddasol.

[…] Croeso i’r Caerdydd ‘arall’: Sgwotio yn lledaenu ar draws y ddinas gan Efa Supertramp o’r wefan Pobl Caerdydd […]