Creigiau: pentref ‘dan fygythiad’

13 Hydref 2013

Yn ôl Wynford Ellis Owen byddai cynllun Cyngor Caerdydd i adeiladu miloedd o dai newydd yn tanseilio natur arbennig pentref Creigiau a bygwth y Llain Werdd i ogledd y ddinas.

Creigiau2

      Yn ei Gynllun Datblygu Lleol mae Cyngor Caerdydd yn nodi’r ardaloedd yn y Sir lle gellir datblygu rhwng nawr a 2026. Mae’r Cyngor yn honni bod angen tua 45,000 o dai dros gyfnod y Cynllun ac mae dwy safle yn benodol yn y Cynllun lle byddai’r adeiladu yn effeithio’n uniongyrchol ar natur bentrefol Creigiau ac a fyddai’n newid y pentref yn llwyr. Y ddwy safle yw Safle F yn y Cynllun (yn union i’r De i lawr at ffordd yr A4119 —  tua 650 o dai) , a Safle E (yn ymestyn ymhellach tua’r De (o ffordd yr A4119 hyd draffordd yr M4 a Chyff.33 – tua 2,000 o dai). Dylid nodi hefyd bod Cyngor Bro Morgannwg yn ei Gynllun ef yn bwriadu datblygu yng nghyffiniau hen safle Cwmni Bosch i’r De o’r M4 a byddai hyn hefyd yn effeithio nid yn unig ar ansawdd bywyd Creigiau ond ar bentrefi Groesfaen a Phentyrch yn ogystal.

Teimlad cyfran helaeth o’r bobl sy’n gwrthwynebu’r Cynllun yw nad oes angen codi cynifer o dai, ac yn bendant ddim ar y Lleiniau Gwyrdd  i’r Gogledd a’r Gogledd-Orllewin o’r ddinas. Mewn dau gyfarfod cyhoeddus (ar 2 Tachwedd 2012 a 24 Medi 2013) fe gafwyd cefnogaeth gref gan drigolion Creigiau yn gwrthwynebu’r bwriad i ddatblygu ar y ddwy Safle E ac F. Hyd yn oed fel mae pethau ar hyn o bryd mae ciwiau hir o geir yn tagu pob hewl i mewn ac allan o Gaerdydd yn y bore a’r hwyr wrth i  bobl deithio i’r gwaith ac yn ol adre. Faint o amser ychwanegol a gymer hyn pan fydd y ceir o’r tai newydd yn ceisio teithio?  –  mwy o dagfeydd a rhagor o fwg yn llygru’r amgylchedd. Rhaid cofio hefyd am yr effaith ar fyd natur – ar yr ystlumod, y bywyd gwyllt a’r coedlannau yn yr ardal.

Pan fyddai’r gwaith adeiladu yn dechrau, mae’n dra thebyg y byddid yn ail-agor y chwarel rhwng Creigiau a Phentyrch i gyflenwi anghenion yr adeiladwyr – byddai hynny wrth gwrs yn amharu ymhellach ar ansawdd bywyd y trigolion yn sgil y llygru ychwanegol wrth i’r loriau trymion deithio ‘nol ag ymlaen drwy’r pentref, a faint o drigolion hyn y pentref sy’n cofio ergydio’r saethu pan oedd y chwarel yn gweithio hyd at saith-degau’r ganrif ddiwethaf?

Argymhellwyd i Gyngor Caerdydd y dylid gosod y seilwaith ar gyfer trafnidiaeth ayb cyn bod y gwaith adeiladu yn dechrau a hefyd y dylid ymestyn Llain Werdd Gogledd Caerdydd ymhellach i’r Gorllewin i gynnwys pentref Creigiau.

Y cam nesaf yn y broses fydd Cyfnod Ymgynghorol o chwech wythnos rhwng 15 Hydref a 26 Tachwedd, ond bydd hefyd gyfarfod cyhoeddus, deiseb arall, ac arddangosfa agored (yn Neuadd yr Eglwys, Creigiau ddydd Gwener, 15 Tachwedd 2013 o 2.00yh tan 7.00yh), lle bydd Swyddogion o Gyngor Caerdydd a chynghorwyr yn bresennol i ateb cwestiynau.

Dylid nodi hefyd bod Cyngor Cymuned Pentyrch yn cyd-gyflwyno (gyda Chyngor Cymuned Sain Ffagan a Chyngor Cymuned Radur a Phentre-poeth) sylwadau i Gyngor Caerdydd ar y modd y dylid edrych ar ardal ehangach De-Ddwyrain Cymru a chyd-weithio a’u cymdogion, Cynghorau Caerffili, Casnewydd, Bro Morgannwg a Rhondda-Cynon-Taf i gyflwyno Cynllun Datblygu Rhanbarthol yn hytrach na bwrw  ’mlaen a chynlluniau unigol.

Gwefan Save Creigiau

facebook/SaveCreigiau

@SaveCreigiau1

 

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Delme yn dweud:

Cytuno yn llwyr gyda Wynford. Mae Creigiau a Capel Llanilltern o dan fygythiad!