Comedi i ddiddanu’r criw rygbi

27 Mai 2015

gan Hannah Pearce

Nos Fercher oedd noson agoriadol y sioe gomedi ‘Bred in Heaven – The Road to Twickers’. Mae’r ddrama, sydd, fel y gellir dyfalu o’i theitl, yn sôn am rygbi a hanes Maldwyn a’i deulu wrth iddynt deithio i Twickenham i wylio rhai o’r gemau rygbi Cwpan y Byd. Dyma ddrama sy’n wych ar gyfer unrhyw un sy’n hoffi rygbi.

Roedd hi’n drueni gweld y theatr mor wag nos Fercher o ystyried bod drama ddoniol yn cael ei pherfformio ar y llwyfan. Roedd nifer o bobl hŷn yn rhan o’r gynulleidfa ac mae hynny’n adlewyrchiad o’r ddrama ei hun oherwydd er i mi fwynhau’r ddrama, roedd nifer o’r jôcs wedi eu hanelu at aelodau hŷn o’r gynulleidfa.

Mae’r plot yn syml; derbynia Maldwyn neges gan Dduw i sicrhau bod Cymru’n cyrraedd y rownd derfynol yng Nghwpan y Byd. Ar gyfer pob gêm mae Cymru’n chwarae, gorchmynna Dduw Maldwyn i wneud tasgau ofnadwy o ddigrif sy’n gadael y gynulleidfa’n rholio chwerthin. Dim ond trwy gyflawni a chwblhau’r tasgau y mae modd sicrhau bod Cymru’n cyrraedd y rownd derfynol. Mae’n amlwg nad yw’r daith yn un llyfn o bell ffordd!

Cast bach sydd yn y ddrama gyda dim ond chwech o actorion. Daeth pob actor ag elfen o hwyl i’w cymeriad nhw ac roedd hyn yn ychwanegu at gomedi’r ddrama. Un o fy hoff gymeriadau oedd Michael sef brawd yng nghyfraith Maldwyn. Roedd Michael yn portreadu’r cefnogwr rygbi brwd nodweddiadol gyda’i emosiynau cryf a’i regi cyson adeg y gemau.

Fel y soniais yn gynharach, mae’r ddrama wedi ei hanelu at bobl hŷn gan fod nifer o’r jôcs a’r sylwadau’n cyfeirio at gyfnod y 70au a’r 80au. Er roeddwn yn ymwybodol mai jôcs oeddynt, roedd rhai ohonynt yn amherthnasol i mi gan fy mod yn rhy ifanc felly doeddwn i ddim yn eu deall. Wedi dweud hynny, deallais weddill y jôcs ac roedd y comedi cyffredinol yn dda iawn.

Mwynheais yr elfen o hiwmor Cymraeg yn fawr gan fy mod yn gallu uniaethu â hynny. Wedi eu gwau i mewn gyda’r hiwmor Cymraeg oedd y caneuon a’r anthemau sy’n cael eu canu adeg pob gêm rygbi. Roedd rhai o’r goreuon yn eu mysg megis ‘Hymns and Arias’ ac wrth gwrs, yr Anthem Genedlaethol. Dwi’n falch bod y rhain wedi eu cynnwys yn y ddrama oherwydd yn bersonol, ni fyddai’r ddrama wedi bod yn gyflawn hebddynt.

Llifodd y sgript yn dda ac roeddwn yn hoff o bob cymeriad gan fod pob un ohonynt wedi dod ag elfen wahanol o gomedi i’r golygfeydd. Roedd y ddrama’n hawdd iawn i’w gwylio ond byddaf yn dweud bod angen ychydig o wybodaeth gefndirol arnoch gan fod nifer o gyfeiriadau at chwaraewyr rygbi yn ystod y ddrama. Yr unig beth nad oeddwn yn hoff ohono oedd y diweddglo. Yn bersonol, roedd y diweddglo bach yn wan i gymharu â gweddill y ddrama. Roedd y diweddglo gwan wedi llwyddo i sbwylio gweddill y ddrama ac yn anffodus, gadawais y sioe wedi siomi ychydig.

Er y diweddglo siomedig, roedd gweddill y ddrama o safon uchel ac fe fwynheais fy hun yn fawr. Mae’r sioe yn llwyddo i wneud i chi wenu a chwerthin ac felly, os ydych yn hoffi rygbi gyda bach o gomedi, dyma’r ddrama i chi.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma