Clwb Pêldroed Cymric: Tîm Caerdydd yn Uwchgynghrair Cymru?

4 Medi 2013

Mae Siôn Jobbins am weld tîm o Gaerdydd yn Uwchgynghrair Cymru.

Mae Caerdydd yn fôr o goch … neu las … wrth i Glwb Dinas Caerdydd chwarae yn yr English Premier League (EPL). Ond yr eironi yw nad oes tîm o’r brifddinas yn chwarae yn uwchgynghrair ei gwlad ei hun!

Dydy’r diddordeb yn uwchgynghrair Cymru ddim tamed yr hyn yw hi ar gyfer y EPL, ond mae dal yno ac mae’n cynnig cyfle i glybiau pêl-droed o Gymru chwarae yn Ewrop a chael sylw ar y teledu. Dwi am ofyn wedyn a yw’n bosib cael tîm o Gaerdydd yn yr English Premiere League ac un arall yn Uwchgynghrair Cymru? Ac os felly, pwy?

Wel, beth am Clwb Cymric?cymriclogo

Pam Cymric? Wel, mae angen i hyd yn oed tîm mewn cynghrair fel un cenedlaethol Cymru gael cefnogwyr a chymdeithas ehangach allai ei chefnogi a dyna un rheswm dros fethiant tim fel Inter Cardiff yn y gorffennol.

Yn y rhan fwyaf o lefydd mae’r gefnogaeth yma yn ddaearyddol – tref fel Aberystwyth neu Rhyl. Ond mewn dinas, fel Caerdydd, mae modd cael un sydd hefyd yn apelio at sector yn y gymdeithas.

Os oes tîm i fod o’r brifddinas felly, mae angen iddi gael sail gymunedol gref. Pa gymdeithas neu fudiad o fewn ardal Caerdydd gall gynnal tîm o’r fath ac ar ba sail? Mae sawl opsiwn a sawl enghraifft tramor i’w cael.

Mae crefydd yn sail i gefnogaeth sawl clwb yn yr Alban gyda Celtic a Rangers yn fwyaf enwog. Gwleidyddiaeth zionist-aidd yw’r gwahaniaeth yn Israel gyda thimau Hapoel (sosialaidd) Maccabi (anwleidyddol) a Beitar (asgell dde). Yn yr hen wledydd comiwnyddol ceir clybiau wedi ei seilio ar y fyddin neu weithwyr.

Mae ‘na glybiau gyda traddodiad Catholig yng Nghaerdydd fel Hibernian, ond anodd gweld yr awydd na’r nerth yno i efelychu Glasgow Celtic. 

Beth felly, am glwb sydd wedi ei seilio ar y Gymraeg yng Nghaerdydd? Clwb fel Cymric?

Dwi ddim yn credu fydde hyn yn unrhyw fath o her i Glwb Dinas Caerdydd nac yn tynnu oddi ar ymdrechion i Gymreigio CCFC chwaith. Nid mater o ddewis rhwng un a’r llall yw hi ond o roi dewis i ffans a chwaraewyr pêl-droed yng Nghaerdydd a hefyd hyrwyddo’r Gymraeg.

Wn i ddim beth yw barn Cymric ar hyn. Dwi’n darllen o’i gwefan fod nhw’n uchelgeisiol.  Mae nhw am godi o Adran 3 y South Wales Amateur League i’r Adran gyntaf yn y tymor byr i chwarae yn y Welsh League (y gynghrair o dan Uwchgynghrair Cymru) yn y tymor hir. Petai nhw am chwarae yn Uwchgynghrair Cymru byddai angen iddynt godi 4 adran.

Pwrpas Cymric hefyd yw cynnig clwb Gymraeg lle gall bobl chwarae a chymdeithasu yn y Gymraeg. Petai’r clwb i godi adrannau mae’r siŵr gen i y bydd y tîm yn Seisnigo. Ydy’r Cymric eisiau gweld hyn yn digwydd?

Mae Cymric ar hyn o’r bryd yn chwarae yn maes Cwrt-yr-Ala, Trelai (lle bu Inter Cardiff yn chwarae yn dyddiau cynnar Uwchgynghrair Cymru). Eu bwriad yw symud i faes yn agosach at Bontcanna. Byddai angen iddynt gael ffrwd incwm cyson – fel ‘club house’ er mwyn codi i’r safon yma. Mae’r rhain i gyd yn bethau anodd a drud i’w cyrraedd.

Ond, wrth edrych ar y timau, ac ar fethiant Inter Caerdydd yna, mae’n edrych i mi fod potensial gan Cymric, efallai’n fwy na neb, i gyrraedd yr Uwchgynghrair gan ei bod yn gallu apelio at deyrngarwch sector o boblogaeth Caerdydd nad oes yr un clwb arall yn gallu. Ac mae’r sector yma – siaradwyr Cymraeg a phobl sy’n gefnogol i’r Gymraeg – yn tyfu, yn magu hyder ac efallai gyda’r ewyllus i hyrwyddo’r teimlad yma yn fwy na neb arall.

Beth amdani?

 timoeddcymric

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

arthur picton yn dweud:

erthygl ddiddorol! ac ar y cyfan fi’n cytuno gyda’r sentiment. un peth i bigo lan arno ……

“Petai’r clwb i godi adrannau mae’r siŵr gen i y bydd y tîm yn Seisnigo” – fi ddim yn credu fod rhaid i hwn fod yn wir o anghenrhaid. Yn sicr ddim er mwyn i Cymric godi 2 neu 3 adran. Mae digonedd o siaradwyr cymrag yn chwarae yn Welsh League Division 1 & 2 yn barod. Beth sydd angen i Cymric wneud ydi apelio ychydig mwy i siaradwyr cymraeg sydd yn wreiddiol o ardal Caerdydd a’r dalgylch (ar hyn o bryd mae bron bob aelod yn dod o’r gogledd, y canolbarth neu’r gorllewin)