Clwb Ifor Bach – Lleoliad Cerddoriaeth Gorau Prydain?

19 Tachwedd 2015

Mae un o hoff glybiau Caerdydd ar restr fer cystadleuaeth Britain’s Best Small Venue. Dyma Steff Dafydd o Glwb Ifor Bach yn rhoi bach o hanes y Clwb i ni, i annog Pobl Caerdydd i bleidleisio drosto!

Mae Clwb Ifor Bach yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth ‘Canolfan Cerddoriaeth Gorau Prydain’ NME a Jack Rocks.

Clwb Ifor Bach

Gruff Rhys

Ni’n bles i fod ar dop rhestr Cymru gan bod gymaint o ganolfannau cerddoriaeth bach (does dim cyfieithiad da / cryno o music venue yn anffodus!) yng Nghaerdydd, heb ddechre rhestri gweddill Cymru.

Er bod llawer wedi newid ers i ni agor fel canolfan Cymraeg nol yn 1983, ni dal i gadw’r egwyddorion gwreiddiol, sef i gefnogi cerddoriaeth ag i fod yn leoliad i’r Cymry Cymraeg allu cymdeithasu yn y Gymraeg.

Mae bob aelod o’n staff bar yn medru’r Gymraeg a mi rydym ni’n rhoi gigs Cymraeg rheolaidd ymlaen, yn o gystal ag artistiaid o bob cornel o’r byd.

Ni wedi croesawu bandiau chwedlonol Cymraeg fel U-Thant, Jarman, Y Crumblowers, Meic Stevens a bandiau byd eang, fel The Strokes, Super Furry Animals, Coldplay, Peter Hook a Foals.

Mae’n fraint i allu cystadlu yn erbyn canolfannau bach gwych eraill Prydain wrth gefnogi’r gymuned Gymraeg.

Ma’ hyn yn elfen unigryw iawn newn ni byth golli, ag elfennau fel hyn sy’n rhoi swyn i’r canolfannau bach annibynnol.

Gallwch bleidleisio dros Glwb Ifor Bach ar wefan yr NME. Dydd Gwener Tachwedd 20fed yw’r dyddiad cau.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma