Clwb Ifor Bach – atgofion Huw Stephens o guriad calon Caerdydd

14 Mehefin 2013

Mae Clwb Ifor Bach yn enwog ar sawl lefel. A dwi ddim yn son am dair llawr y Clwb. Yn bennaf ac yn wreiddiol, fel Clwb Cymraeg a sefydlwyd i hybu ein iaith yn y Brifddinas.

P1030621Mae gwaith y Clwb dros y blynyddoedd ym amhrisiadwy; nid yn unig y digwyddiadau a’r gigs wythnosol, ond y brwdfrydedd, y syniadau, a’r egni sydd wedi dod o gwrdd a pobl yn y Clwb. Creu partneriaethau, creu perthynas, cael eich ysbrydoli i greu, i fod yn rhan o gymuned, i fyw yn y Gymraeg, i drio pethau newydd.

Ar lefel arall, mae’r Clwb yn enwog fel adeilad a gyda’r holl hyrwyddwyr sydd wedi gweithio yno dros y blynyddoedd. Mae’r bandiau, dj’s ag artistiaid di ri sydd wedi chware yn Clwb yn anhygoel, o gigs Coldplay aThe Strokes, i dalent lleol rhyngwladol fel Manic Street Preachers a Super Furry Animals. Mae gan bawb eu hatgofion am nosweithiau chwyslyd, llawn hwyl ar bob llawr yn Clwb; y dj yne, y band yne, y noson yna pan oedd pawb mas ac roedd Clwb yn teimlo fel canol y byd. 

Canolbwynt y sîn Gymraeg

P1030627Roedd y bandiau o Gaerdydd yn chware yn Clwb yn aml; Y Crumblowers, U Thant, Hanner Pei. Daeth Clwb yn ganolbwynt i’r sîn Gymraeg; roedd Bryn Fon, Bob Delyn, Dafydd Iwan yn chware yn aml, y gemau rygbi mawr yn enfawr ar sgrins ar bob llawr, ac anodd fyddai ffindio un siaradwr Cymraeg sydd wedi bod i Gaerdydd a heb fod i Clwb. Mae chwarae yno dal i fod yn uchafbwynt i fandiau ifanc Cymraeg a di Gymraeg. Mae calon Clwb yn dal i guro yn frwdfrydig yng nghanol Caerdydd. Clwb. The Welsh Club. Clwb Ifor Bach. Hir oes iddo!

Huw Stephens

 

 

 

Rhannu'r erthygl hon