Clebran ‘Da … Phil Bale

12 Ionawr 2015

 

Mae Pobl Caerdydd wedi cael sgwrs gyda’r Cynghorydd Phil Bale, Arweinydd cyngor y ddinas. Dyma beth oedd ganddo fe i ddweud wrthom ni …

Rwyt ti wedi bod yn dy swydd ers Mis Mawrth: siwt mae’n mynd ?
Mae bod yn arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd yn fraint fawr, a dwi’n meddwl ein bod wedi gwneud llawer o gynnydd dros y misoedd diwethaf.

Rydym wedi lansio Sgwrs Caerdydd er mwyn cynnal deialog parhaus gyda chymunedau er mwyn deall beth sydd yn bwysig iddynt. Rydym hefyd wedi cynnal Confensiwn Caerdydd, sydd wedi dod ag arbenigwyr rhyngwladol ym maes datblygu dinasoedd i Gaerdydd i drafod dyfodol ein dinas.

Er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hir dymor gwasanaethau pwysig rydym wedi cyflwyno rhaglen o ddatblygu trafnidiaeth ac mae hyn yn ychwanegol at y gwaith cyffrous sy’n cael ei wneud gan Space Hive ar gyllido torfol, prynu ynni ar y cyd ac arloesi cymdeithasol.

Oes ‘na ryw elfen o’r swydd doeddet ti ddim yn ei ddisgwyl ?
Ges i fy mhlesio i weld faint o ddiddordeb sydd mewn sut mae’r Cyngor yn gweithio a sut rydym yn cefnogi’r ddinas.

Fel aelod lleol yn Llanisien roeddwn yn gwybod yn iawn am y diddordeb lleol mewn materion sy’n effeithio ar y gymuned leol a’r ymdrech enfawr y maen nhw’n ei wneud i wneud i bethau ddigwydd.

Beth dwi’n ei werthfawrogi’n fwy nawr yw pa mor bwysig yw’r gymuned, a’r ddinas gyfan, i bobl Caerdydd.  Mae hyn yn ffantastig, ac rydym yn gweithio’n galed i’w cynnwys yn y penderfyniadau pwysig fydd yn effeithio ar y ddinas.

Beth yw’r her fwyaf sy’n wynebu Cyngor Caerdydd ar hyn o bryd ?
Tŵf a’r argyfwng ariannol.

Does dim angen i mi ddweud wrth unrhyw un am natur yr her ariannol sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus.Mae’r ffordd rydym ni’n darparu gwasanaethau yn gorfod newid, ond mae Caerdydd hefyd yn tyfu. Dyma un o’r dinasoedd sy’n tyfu cyflymaf yn y DU – sy’n cynnig cyfleoedd cyffrous i ni – ond mae’r rhaid i ni hefyd rheoli’r twf hwn mewn ffordd gynaliadwy.

Sut all Cyngor Caerdydd sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg yn y brifddinas ?
Cyn i mi ddod yn arweinydd fe wnes i arwain trafodaeth yn Neuadd y Ddinas ar ddyfodol yr iaith.

Rwyf o’r farn nad oes gan unrhyw unigolyn neu blaid fonopoli ar syniadau da pan yn dod i gefnogi’r iaith Gymraeg, ac adlewyrchir hyn yn y ffordd rydym ni’n gweithio gydag eraill ar ystod o faterion.

Helpodd y sgwrs yma i ffurfio Cynhadledd Caerdydd Ddwyieithog yn ddiweddar a ddaeth â nifer o randdeliaid at ei gilydd i drafod sut gallem ni hyrwyddo’r iaith Gymraeg yng Nghaerdydd. Roedd nifer o syniadau diddorol a byddwn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i’w datblygu. Wedi gweithio gyda chynifer o unigolion a grwpiau ymrwymedig rwy’n meddwl ei fod yn bwysig i ni gydnabod eu hymrwymiad i hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

Rwyf hefyd yn croesawu Mesur y Gymraeg, ond y peth allweddol i mi yw bod y Gymraeg yn iaith fyw a bod pawb yn cael y cyfle i’w siarad yn y ddinas. Mae bod yn ddinas ddwyieithog hunanhyderus wir yn bwynt gwerthu unigryw i’r ddinas, ac rydym yn cydnabod hyn.

Mae galw am addysg drwy’r iaith Gymraeg yn cynyddu yng Nghaerdydd sut mae sicrhau bod y cyngor yn cynnig addysg i bawb sy eisiau dilyn addysg Gymraeg?
Mae addysg o safon uchel yn flaenoriaeth i’r ddinas. Mae cynnydd yn y galw am addysg Gymraeg yn dangos fod yr iaith yn ffynnu yn y ddinas ac mae gan addysg rôl fawr i’w chwarae.

Rydym wedi nodi Addysg fel un o’n pedair blaenoriaeth i’r ddinas, ac rydym yn gwarchod cyllidebau yn y maes hwn yn ystod hinsawdd ariannol heriol iawn. Gwyddom hefyd fod y ddinas yn tyfu ac rydym yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn rhoi’r un cyfle i bawb fynychu ysgolion o safon ar draws y ddinas.

Y peth gorau am Gaerdydd?
Heb os, y bobl.

Dyma un o’r rhesymau pam fy mod yn credu’n gryf mewn cydweithredu, sydd yn ymwneud â chysylltu’n well â phobl ac yn rhoi mwy o lais iddynt ar sut rydym yn cynnig gwasanaethau.

 A’r peth gwaethaf?
Efallai nad ydym ni weithiau’n sylweddoli pa mor dda ydym ni. Mae’n bwysig bod gan y ddinas yr hyder i werthu ei hun i’r byd.

Dy hoff le yng Nghaerdydd?
Dyna’r peth gwych am Gaerdydd – mae’n ddinas gompact gyda chymaint i’w gynnig. Mae’n golygu eich bod yn gallu teithio o gwmpas yn hawdd fel nad os rhaid i chi ddewis un lle!

Beth yw diwrnod arferol i ti ?
Hoffwn i ddweud fy mod i’n rhedeg hanner marathon bob bore cyn 6am. Ond na, fel arfer mae’n ddechrau cynnar.

Mae rhan fawr o’r swydd yn golygu siarad â chymunedau, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn deall eu barn a’u pryderon. Ond mae hefyd am weithio gyda phartneriaid i wireddu ein dyheadau ar gyfer y ddinas.

Gall hyn olygu cefnogi grwpiau cymunedol gyda phrojectau lleol, gweithio i ddatblygu projectau mawr megis datblygu canol y ddinas neu weithio gydag Aelodau eraill y Cabinet a staff y Cyngor i ddarparu gwasanaethau pwysig i’r ddinas.

Beth yw’r peth gorau am y swydd ?
Cael y cyfle i siarad â thrigolion, staff a sefydliadau partner ac i rannu syniadau ar sut y gallwn ni ddatblygu’r ddinas.

Hefyd y teimlad o falchder yn nifer y gwasanaethau mae’r cyngor yn eu darparu’n llwyddiannus i bobl yn ddyddiol a’r gwaith gwych mae ein staff yn ei wneud o ddydd i ddydd.

Disgrifiwch eich swydd i ni mewn un gair
Dyma ddau – gwerth chweil!

Beth ydi’r peth gorau mae rhywun wedi dweud wrthych chi erioed?
Pan groesawodd Caerdydd uwch gynhadledd NATO yn ddiweddar, roedd llawer o gynrychiolwyr gwledydd mawr o bedwar ban byd wedi dweud bod Caerdydd yn ddinas wych.

Roedd hyn yn golygu lot.

Beth rydych chi wedi ei gyflawni rydych chi’n fwyaf balch ohono ?
Sgwrs Caerdydd

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon