Jo ac Adrian Lewis

Clebran ‘da… Joanna ac Adrian o Pencerdd

15 Rhagfyr 2015

Joanna ac Adrian Lewis yw perchnogion Pencerdd, siop gerdd ym Mhenarth sy’n gyfarwydd i’r rheiny sydd yn y farchnad am delyn.  Neu banjo.  Neu ukulele.  Lowri ap Robert fu’n clebran gyda’r Lewises.

Adrian, o ble wyt ti, ble est ti i’r ysgol a’r coleg a beth wnest ti cyn agor Pencerdd?

Ges i ‘ngeni yn Abertawe, a mynd i ysgol breswyl yn Sir Amwythig o oedran 9 ymlaen. Es i brifysgol yn St Andrews gan astudio seryddiaeth, wedyn ôlradd ym Mhrifysgol Califfornia yn San Diego am ddwy flynedd (lle ddechreuais i ddysgu Cymraeg!), a wedyn tair blynedd arall ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn penderfynu bod 9 mlynedd o fod yn fyfyriwr yn hen ddigon!

Wnes i weithio ar longau ymchwil am 6 blynedd wedyn, yn gweld lot fawr o’r byd, cyn “setlo lawr” a throi yn llawrydd fel rhaglenydd cyfrifiadurion yn 1985, rhywbeth dwi dal i wneud hyd heddiw pan dwi ddim yn siop Pencerdd. Dros y blynyddoedd yno i gyd dwi wedi bod â diddordeb mawr mewn cerddoriaeth, yn perfformio fel gitarydd yn unigol a mewn sawl grŵp anhysbys.

Wnes i LP vinyl gyda ffrind ysgol pan o’n i’n 16 oed, ac un trac o hynny wedi ffeindio’i ffordd mewn i gasgliad CD-triphlyg cafodd ei gyhoeddi eleni, sy’n cael ei ddisgrifio fel “siwrnai trwy sîn gwerin tanddaearol prydeinig 1967-72”, rhywbeth sy’n codi balchder a chywilydd arnaf ar yr un pryd (mae’n uffernol)!

Jo, ti’n ferch o’r canolbarth.  Beth yw dy gefndir di?

Lodes o’r canolbarth ydw i, o ardal Llanfyllin. Nid merch ffarm ond merch y wlad, ac roedd ffarm fy Nain drws nesaf i’n tŷ ni, felly dyna lle byddwn yn mynd i chwarae. Pryd hynny byddem ni blant yn diflannu am ddiwrnod cyfan a byddai neb yn poeni amdanom.

Mi es i brifysgol Aberystwyth ac yna dod i Gaerdydd i chwilio am waith, a gŵr!

A ble gwrddoch chi?  Mae gen i ryw feddwl mai gwallt coch Jo wnaeth dy ddenu di yn y lle cyntaf…

Wel, roeddwn yn mynd allan bob wythnos i glybiau gwerin y ddinas, yn enwedig Clwb yr Infirmary, lle oedd bachgen hirwallt hardd iawn iawn yn canu, ac roedd ganddo rhywfaint o Gymraeg! Yn anffodus, daeth y clwb gwerin yno i ben, ond pwy welais i un noson tua dwy flynedd yn ddiweddarach yn Chapter, ond yr hync hirwallt eto …

Mae gyda chi dri o blant talentog.  Gawn ni frawddeg am bob un?  

Mali ‘dy’r hynaf. Aeth i golegau cerdd yn Llundain a Brwsel i astudio piano a thelyn, ac ers hynny bu’n aelod o’r band Racehorses gynt, ac erbyn heddiw y band Villagers, sy wedi treulio’r flwyddyn gyfan ddiwethaf yn teithio Ewrop, Prydain a’r Unol Daleithiau. Mae hi newydd rhyddhau CD clasurol sy ar gael ar Amazon ac wrth gwrs yn siop Pencerdd, a bydd CD byw Villagers ar gael yng nghanol mis Ionawr.

Osian ydy’r nesaf, ac ar ôl gwneud MSc mewn economeg a gwleidyddiaeth yng Nghaerdydd gyda Richard Wyn Jones, bu’n gweithio fel ymchwilydd yn y Senedd, a safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru ym Mhontypridd yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf, cyn symud i San Steffan lle mae ar hyn o bryd yn gweithio fel ymchwilydd i’r tri aelod Plaid.

Annes ydy’r olaf. Aeth i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd, lle graddiodd llynedd. Ers hynny mae wedi gweithio ar y teledu ac mewn theatrau, a bydd ei ffilm cyntaf i’w gweld yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Mae hi ar fin symud i Lundain hefyd, lle bydd yn ymddangos yn theatr y Royal Court ym mis Ionawr.

O ble ddaeth y syniad i agor Pencerdd?  Oedd gyda chi arbenigedd ym maes cerdd a phrofiad o werthu i’r cyhoedd?PencerddTuFas

Tra’n gweithio’n llawrydd o’n i arfer buddsoddi hyn a hyn o bres bob blwyddyn mewn pensiwn personol, cyn i mi sylwi bod gwerth y buddsoddiad yn lleihau bob blwyddyn, er yr holl arian o’n i’n rhoi mewn. Felly penderfynais rhoi’r gorau i hwnna a phrynu adeilad oedd ar werth ym Mhenarth yn lle. Ar ôl gorffen yr adnewyddu a gosod y fflat uwchben, mi oedd siop wag lawr stair ar ôl gynnon ni, felly penderfynon ni agor siop delynau fel arbrawf i weld sut aeth hi.

Roeddem wedi cael lot o drafferth prynu telyn i Mali, ac oedden yn meddwl gwneud pethau’n haws i bawb arall yn yr un sefyllfa! Doedd gynnon ni ddim profiad o gwbl o werthu unrhywbeth, ac yn raddol mae’r siop wedi tyfu i fod yn “siop gerdd leol” gyffredin.

Mae’n anodd dianc oddi wrth y syniad y byddai Glenys a Rhisiarts y byd ‘ma wrth eu boddau yn Pencerdd.  Ydw i’n bod yn or-ystrydebol  fan hyn?  Pwy yw cwsmeriaid Pencerdd?

‘Dy Glenys ‘na Rhisiart erioed wedi bod mewn i’r siop! Erbyn heddiw ein prif gwsmeriaid ydy rhieni plant ysgol yn prynu cerddoriaeth ac offerynau o bob math, gitaryddion yn prynu tannau ar gyfer eu gigs, a dynion yn ail-ddarganfod arferion eu hieuenctid trwy brynu gitâr o safon, neu ukulele, sy’n andros o boblogaidd ers sawl blwyddyn.

Chi’ch dau wedi dewis byw o gwmpas Caerdydd ers rhai blynyddoedd erbyn hyn.   Pa newidiadau y’ch chi wedi gweld yng Nghaerdydd dros y cyfnod?  A beth yw’r peth gorau am fyw wrth y brifddinas?

Roeddem arfer mynychu’r holl glybiau drwgdybus fel y New Moon, y Casablanca a hyd yn oed yr hen North Star, lle roedd wastad bandiau byw (neu juke box yn achos y North Star), hwyl a chyffro. Mae agwedd yno o fywyd y brifddinas wedi hen ddiflannu, a bywyd yn dlotach o’r herwydd.

Mae’r holl ddatblygiad newydd yn y Bae yn atyniad ardderchog i dwristiaid mae’n siwr, a lle hyfryd i fynd am dro, ond anaml iawn ‘dyn ni’n mynd i’r ardal yno fin nos rŵan. Mae’r ddinas wrth gwrs dal yn cynnig amrywiaeth o sinemau, theatrau ac adloniant ym myd y celfyddydau, a siopau gwych, a ‘dyn ni wrth ein boddau gyda Pier Penarth a’r sîn cerddoriaeth acwstic ym Mhenarth, sy’n mynd o nerth i nerth.

Awgrymiadau o’r llefydd gorau i fynd?    

Amgueddfa Sain Ffagan, Chapter, Pier, parciau a restaurants Penarth, Clwb Acwstic Penarth a Penarth Songwriters Circle.

Dim cynlluniau i symud ‘nol i’r canolbarth felly, Jo?

Dwi ddim yn gweld fy hun yn symud yn ôl, ond weithiau dwi’n hiraethu am acen a thafodiaith hyfryd Sir Drefaldwyn

Ac i’r rheiny sydd am ddod i weld yr ystod o stoc cerddorol sy’ gyda chi, pryd mae Pencerdd ar agor – a beth fyddech chi’n awgrymu ar gyfer yr hosan Nadolig?PencerddGitars

Mae Pencerdd ar agor Dydd Mawrth i Ddydd Sadwrn o 10 tan 5, ond wythnos cyn ‘Dolig byddwn ar agor dydd Llun hefyd. Byddwn ar agor yn hwyr nos Iau nesaf pan mae Penarth yn cynnig noson siopa hwyr.

Yn bendant, ukulele ydy’r peth gorau i’r hosan Nadolig, ond i’r rhai efo hosannau mwy, mae gynnon ambell i fargen o delyn ar hyn o bryd, a gitarau ardderchog.

 

 

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma