Mae’r Ceri Lloyd newydd ymuno â chast y ddrama boblogaidd Rownd a Rownd. Mae ei chymeriad , Carys, yn chwaer i ‘r athrawes strêt Llio ac mae’n amlwg fe fydd hi’n gymeriad lliwgar , hyderus sydd am gynhyrfu’r dyfroedd yng Nglanrafon.
Mae Ceri yn wreiddiol o Lanelli – ond bellach wedi ymgartrefu yn Grangetown. Dyma hi’n Clebran Da.. Pobl Caerdydd..
Pa fath o gymeriad wyt ti’n chwarae yn Rownd a Rownd ?
Rwyf yn chwarae cymeriad o’r enw Carys. Cymeriad llawn bywyd sydd yn cyrraedd y pentref i ymweld a’i chwaer Llio, sydd yn athrawes yno. Mae Carys yn wahanol iawn i Llio yn yr ystyr ei bod hi’n byw i’r eiliad a ddim yn poeni ryw lawr am beth sydd yn dod nesaf, falle ddim yn cymryd bywyd mor ddifrifol a Llio. Mae hi’n gymeriad hwyliog iawn, llawn bywyd ac yn dod ymlaen yn dda gyda phawb yn y pentref.
Pa fath o brofiad ydy ymuno â chyfres fel Rownd a Rownd fel cymeriad newydd ?
Mae ymuno gyda cast sydd wedi gweithio gyda’i gilydd ers blynyddoedd yn gallu bod yn brofiad anodd, ond mae’r criw sydd yno wedi bod mor groesawgar a charedig, felly mae wedi bod yn hawdd iawn i mi setlo mewn yn syth. Rwyf yn mwynhau pob eiliad.
O Lanelli wyt ti’n wreiddiol ond byw yng Grangetown erbyn hyn. Llanelli neu Gaerdydd felly ?
Rwyf wastod wrth fy modd yn mynd adref i Lanelli i weld fy nheulu ac i dreulio amser o gwmpas yr ardal, ond mae fy nghalon i yng Nghaerdydd erbyn hyn ac rwyf yn hapus iawn yno. Dwi’n gaeth i brysurdeb dinas dwi’n meddwl.
Beth yw’r peth mwyaf diddorol ar eich CV
Roedd chware rhan ‘Wendla’ yn y sioe ‘Deffro’r Gwanwyn’ yn un o hoff adegau o fy mywyd. O’dd gweithio gyda’r cyfarwyddwraig Elen Bowman yn brofiad arbennig. Reodd e’n wych i mi oherwydd wnes i gael fy ngwthio a roeddem yn treulio oriau yn arbrofi, chwarae gemau a ffeindio gwahanol bethau mas am y cymeriad, a fi fy hun ar adegau!! Chi ddim yn cael yr amser i wneud hynny mewn llawer o swyddi eraill felly roedd e’n bleser mawr.
Pa ran o’r dydd yw’r gorau i chi?
Yn bendant y bore. Dwi’n caru deffro a cymryd amser i baratoi juice a granola. Mae’n ddechrau gwych i’r diwrnod.
Hoff atgof plentyndod?
Ma gen i fideo o fy nhad a fy wncwl wedi gwisgo lan fel scary spice a posh spice tra mod i wedi gwisgo fel baby spice a’n cefnither fel sporty spice. Fi’n meddwl ‘netho ni berfformio’r gân ‘Wannabe’.
Beth ydi’r peth gorau mae rhywun wedi ddweud wrtho chi erioed?
Dyweddodd mam yn ddiweddar bod gennyf gariad a ffrindiau bendigedig.
Pwy hoffech chi wahodd i rannu eich awr ginio gyda chi..
Bydde fe’n eitha cool i gyfarfod Maggie Gylenhaal. Dw i wastod wedi cal bach o obsessiwn gyda hi!
Pa air neu frawddeg ydych chi’n ei or ddefnyddio?
Rwyf wedi dysgu gair newydd yn y Gogledd yn ddiweddar sef ‘mwydro.’ Fi’n mwynhau gweud wrth fy sboner neu’n mam bo nhw’n mwydro!! Allai ddim stopio’i ddefnyddio ar y funud.
Beth yw eich ofn mwyaf?
Dwi ddim yn dda iawn gyda uchder. Dwi’n dueddol i ‘freakio’ mas os oes unrhyw fath o ‘drop’.
Un peth rydych chi wedi ei ddysgu am fywyd?
‘Neith popeth weithio’i hun mas yn y diwedd!
Beth rydych chi wedi ei gyflawni ryda chi’n fwyaf balch ohono ?
Mae cael unrhyw swydd newydd yn dod a balchder i mi. Mae bywyd actor yn medru bod yn anodd, a weithiau yn mynd rhai misoedd heb waith, felly pob tro rwyf yn clywed mod i wedi cael swydd newydd rwyf yn teimlo fy mod wedi cyflawni rhywbeth.
Oes yna rhywbeth yn eich cythruddo ?
Allai weud rhywbeth am y iaith gymraeg? Does dim rhaid iddo fod yn berffaith! Cyn belled a bod pobl yn ei siarad e o ddydd i ddydd i gyda’i gilydd, mae’n iawn gen i. Dwi’n casau pan mae pobl yn barnu eraill ar safon eu hiaith.
Hoff blog/ysgrifenwr/trydar ti’n ei ddilyn
Deliciously Ella (blog ac app)
Hoff lyfr/film/ cyfres deledu?
Girls (cyfres teledu)
Hoff le yng Nghaerdydd i fynd am dro ?
Fy hoff beth i ‘neud yng Nghaerdydd yw mynd i gaffi o’r enw ‘The Plan’ am ginio a choffi yna! Eitha syml ond ma fe wir yn fy ngwneud i’n hapus!
Hoff le i fynd allan gyda’r nos yng Ngaherdydd ?
Porters! Ni wastod yn llwyddo i ga’l noson arbennig yna! Mae gen i atgofion da o nosweithiau mas yn Porters!
Rownd a Rownd
Mawrth ac Iau 7.30, S4C
Isdeitlau Cymraeg a Saesneg
Omnibws dydd Sadwrn, gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin
Gwefan: s4c.cymru
Ar alw: s4c.cymru/clic
sylw ar yr adroddiad yma