Catrin Finch : yr hwiangerddi newydd a’r teulu brenhinol

31 Gorffennaf 2013

Mae’r babi brenhinol bellach wedi’i eni ac mae Catrin Finch wedi creu CD o hwiangerddi yn arbennig ar ei gyfer. Cafodd Wil Davies y cyfle i’w chyfweld i ddarganfod ychydig mwy am y CD a’i rhesymau am ei greu.

 

WD: Felly, Catrin, beth oedd eich bwriad wrth i chi baratoi’r CD?

CF: Wel, mae wastad yn bleser cael gwneud CD arall. Creais albwm newydd y llynedd, ‘Blessing’ ac yna clywais fod y babi brenhinol ar ei ffordd. Roeddwn yn edrych am esgus i greu albwm newydd o hwiangerddi, felly roedd hyn yn gyfle gwych! Roedd rhaid i ni drefnu pethau’n reit gyflym i gael y CD yn barod ar amser, oherwydd yn amlwg roedd gennym ni ‘deadline’ i’w gyrraedd. Hefyd, mae’r syniad o’r delyn a hwiangerddi yn mynd yn dda efo’i gilydd, felly roedd yn ddewis amlwg.

WD: Sut aethoch chi ati i ddewis y traciau?

CF: Roedd y dewis rhwng y cwmni recordio, Deutsche Grammaphon, a minnau. Roedd ganddyn nhw syniadau pendant o beth roedden nhw eisiau – rhai Almaeneg a rhai roedden nhw’n tybio buasai’n boblogaidd. Yna, rhoddais i’n syniadau i mewn i’r ‘mix’ a daethom fyny â rhestr. Mae cymaint ohonyn nhw – roedd tipyn o fynd nôl ac ymlaen am tuag wythnos.

Plant lleol yn canu

WD: Oes unrhyw drac ar y CD sydd â ystyr arbennig i chi?

CF: Oes. Mae gennym ni lot o westeion ar y CD – roedd Bryn Terfel yn canu ‘chydig ohonyn nhw, Julian Lloyd Webber, Aled Jones a phobl eraill felly roedd e’n bleser mawr cael gwneud y rheini. Mae Bryn yn gwneud fersiwn o ‘Brahms’ Lullaby’ sy’n hollol gorjys, ac wrth gwrs mae’n gymaint o fraint cael rhywun fel Bryn ar yr albwm, felly mae hynny’n arbennig. Cawsom ni rhai ysgolion lleol Cymraeg i mewn hefyd – mae Ysgol Gwaelod y Garth, lle dwi’n byw, Ysgol Creigiau ac Ysgol Treganna yng nghanol y dre’n canu, felly mae’r traciau maen nhw’n canu’n arbennig hefyd. Roedd e’n bwysig cael plant ar y CD hefyd. Pan wyt ti’n gwneud CD ar gyfer plant mae’n neis cael plant yn cymryd rhan.

WD: Buasech chi’n dweud bod hwiangerddi’n bwysig i chi? Oeddech chi’n canu neu’n chwarae nhw i’ch plant chi pan oedden nhw’n fach?

CF: Mi oeddwn i. Mae fy mhlant ychydig yn hŷn nawr ond pan oedden nhw’n tyfu i fyny roedd yn rhan fawr o’i bywyd nhw, fi ac yn enwedig mam Hywel. Roedd hi’n canu lot iddyn nhw – y rhai Cymraeg mwy na dim. Dwi’n credu fod e’n neis gallu rhannu cân a cherddoriaeth gyda phlant. Mae’n brofiad reit arbennig pan rydych chi’n canu a gwneud cerddoriaeth gyda phlentyn. Dwi’n credu bod hynny’n rhywbeth pwysig iawn ar gyfer perthynas.

Lle da i fagu plant

WD: Rydych chi’n sôn eithaf tipyn am blant. Pa fath o le yw Caerdydd i fagu plant, yn eich barn chi?

CF: Wel, ‘da ni wrth ein bodd yma. ‘Da ni ‘di bod yma dros 10 mlynedd nawr a dwi ddim yn gweld ni’n symud am sbel. Mae’n fach ond mae ganddo bopeth sydd angen – yn enwedig lle ‘da ni yng Ngwaelod y Garth, sydd ar ffiniau Caerdydd. Mae gennym ni dipyn bach o bopeth – tipyn o wlad, ond hefyd rhyw 10 munud a ‘da chi mewn yng nghanol y ddinas, felly mae Caerdydd yn ‘accessible’. Mae lot o bethau ar gyfer plant yma hefyd – llefydd chwarae, traeth, y dref a’r castell. Mae cymaint o wahanol bethau i wneud, yn arbennig pan fod gwahanol bethau’n dod i’r bae, fel yr wŷl fwyd a phethau fel ‘na. Mae lot o gyfleoedd yma.

WD: Oes gennych chi unrhyw atgofion cerddorol o phan oeddech chi’n blentyn?

CF: Oes. Atgof o glywed y delyn am y tro cyntaf ac roedd yna gerddoriaeth trwy’r tŷ o hyd. Er nad oedd mam yn gerddor, roedd hi’n gwneud lot o gerddoriaeth ac yn ei chwarae hefyd. Dwi’n un o dri o blant, a fi oedd y lleiaf felly roedd fy mrawd a chwaer mawr yn chwarae offerynnau a thyfais i fyny â hynny, ac erbyn hyn, rhynga i a Hywel – mae’n beiriannydd sain ac yn rhedeg stiwdio, mae ‘na lot o gerddoriaeth yn y tŷ yma hefyd.

WD: Pa fath o gerddoriaeth buasech chi’n dweud yw’r gerddoriaeth ddelfrydol i chi os ydych am ymlacio?

CF: Clasurol os dwi’n ymlacio. Dwi’n rhoi ‘chydig bach o Debussy, Ravel, Bach neu be’ bynnag ar y system, ond mae’n dibynnu lle ydw i. Pan mae ‘na bobl draw, dwi wrth fy modd efo bandiau fel Pink Martini, Emeli Sande, Adele…dwi’n gwrando ar bob math o bethau. Ond os mai ymlacio dwi angen gwneud, wedyn cerddoriaeth clasurol sy’n gwneud hynny i mi’n sicr.

WD: Yn amlwg, ‘Pobl Caerdydd’ yw enw’r wefan. A wnaethoch chi recordio’r hwiangerddi yng Nghaerdydd?

CF: Do, yn ein stiwdio ein i fyny ym Mhentyrch. Mae gennym ni gapel a ‘da ni wedi’i drawsnewid i stiwdio a dyna le dwi’n gwneud fy recordio i gyd.

Tywysog Siarl wedi cael copi o’r CD newydd

WD: Beth yw eich cynlluniau am y misoedd sydd i ddod?

CF: Wel, mae gen i gyngerdd ar Awst y 4ydd efo cherddorfa ieuenctid Cymru yn Neuadd Dewi Sant. Dwi ‘di ysgrifennu concerto telyn newydd felly dwi’n edrych ymlaen yn fawr i wneud hynny efo nhw. Ar ôl hynny, dwi ffwrdd am sbel. ‘Da ni’n mynd dramor dros yr haf ac yna dwi’n cymryd rhan yn y Womex, sef gwyl cerddoriaeth lawr yn y Bae ddiwedd mis Hydref ac yna dwi’n mynd ar daith efo rhywun sy’n chwarae’r kora, sef math o delyn Affricanaidd o Senegal – bydd un cyngerdd yng Nghaerdydd.

WD: Wrth gwrs, mae’r babi brenhinol bellach wedi’i eni. Ydych chi ‘di anfon copi o’r CD i William a Kate?

CF: Dwi ddim wedi’i ddanfon i William a Kate ond gwelais i’r Tywysog Siarl pan oedd yng Nghymru rhyw fis yn ôl oherwydd mae ganddyn nhw dŷ yn Llwynywermod ac es i fan ‘na i’w gweld a rhoddais i gopi iddo felly dwi’n gobeithio bod y CD ‘di cael ei anfon ymlaen!

WD: Diolch yn fawr iawn i chi am eich amser.

 

Mae’r CD ‘Lullabies’ gan Catrin Finch ar gael i chi brynu o siopau ac ar-lein.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Siôn yn dweud:

Duw a’n helpo! Mwy o nonsens y Teulu Brenhinol yno i’n cadw yn Brits bach da.

Mae’r peth yn troi’n embaras a diraddiol.