Casgliadau Gwastraff dros y Pasg

10 Ebrill 2017

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi manylion casgliadau gwastraff dros y Pasg.

Bydd casgliadau gwastraff fel arfer ar Ddydd Gwener y Groglith ond byddant un diwrnod yn hwyrach yr wythnos ganlynol oherwydd Dydd Llun y Pasg.

Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau dydd Llun 17 Ebrill, bydd yr holl gasgliadau yn cael eu cynnal ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer. Felly er enghraifft bydd casgliadau sydd ar ddydd Llun fel arfer yn cael eu cynnal ar ddydd Mawrth 18 Ebrill yn lle.

Mae hyn yn golygu y bydd casgliad ychwanegol ddydd Sadwrn 22 Ebrill ar gyfer yr holl gategorïau gwastraff a deunydd ailgylchu.

Hefyd bydd casgliadau gwastraff gardd yn newid yn ôl i gasgliadau pythefnosol yr wythnos honno i gyd-fynd ag unrhyw gynyddiadau sydd o ganlyniad i’r nosweithiau goleuach.

Mae Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref y Cyngor bellach yn gweithredu ar oriau agor yr haf.

Mae CAGCau Bessemer Close a Ffordd Lamby ar agor 7:30am tan 6:30pm saith diwrnod yr wythnos ac mae CAGC Heol Wedal ar agor 9:30am tan 6pm ddydd Llun i ddydd Gwener a 10am tan 6pm ar y penwythnos.

Mae mwy o wybodaeth ar wefan y Cyngor.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma