Carys Eleri: Dyfodol Disglair Mewn Drama Radio

19 Awst 2013

Mae’r actores Carys Eleri yn un o enillwyr Cymrodoriaeth Norman Beaton 2013, sef menter Adran Ddrama Radio y BBC. Mae Bethan Mair Jones yn ei holi am y broses o gystadlu ac ennill a’r antur sydd o’i blaen wrth iddi adael Caerdydd a symud i Lundain.

BJ: Sut y glywais di am y clyweliadau ar gyfer y gystadleuaeth?

CE: Drwy Theatr Sherman Cymru. Roedd y BBC wedi ei henwebu eleni fel un o’r theatrau ym Mhrydain i ddal rownd gynta rhanbarthol y clyweliadau. Roedd angen i’r Sherman eu helpu i ddarganfod actorion proffesiynol oedd yn gweithio yng Nghymru oedd heb cael hyfforddiant traddodiadol mewn ysgol ddrama awdurdodedig.

BJ: Beth oedd y broses o gyfweld?

CE: Roedd yn eitha trwm. Yn y rownd gynta roedd angen paratoi dau fonolog tua munud a hanner o hyd yn Saesneg oedd yn dangos cyferbyniad emosiwn. Yna roedd gofyn i’r actorion i gyd rhannu i fewn i grwpiau, ymgyfarwyddo â sgript radio a’i berfformio i fewn i feicroffon fel petaen yn recordio drama radio go iawn. Roedd cyfarwyddwr yn gweithio gyda ni ac yn dangos y grefft o recordio dramau radio. Roedd y broses yma yn dangos pa mor dda roeddech yn derbyn cyfarwyddyd. Yna roedd gofyn i ni berfformio ein monologau, derbyn cyfarwyddyd a’u perfformio eto. Yna, roeddent yn rhoi monolog hollol newydd i chi i ddarllen a rhoi hanner awr i chi baratoi cyn ei berfformio. Roedd y monologau yma yn gofyn am ddefnyddio acenion. Felly am rownd gynta roedd yn eitha intense.

Yna i’r ail rownd oedd rhaid teithio i bencadlys y BBC yn Portland Place lle bu rhaid i mi berfformio tri monolog oedd yn dangos ystod o acenion ac emosiwn. Dewisais fonologau allan o ffilmiau, sef monolog Daryl Hannah allan o Kill Bill a monolog Virginia Woolf o The Hours. Roedd y fonolog ola yn un gomedi wreiddiol roeddwn i wedi ei pherfformio gyda National Theatre Wales yn eu sioe gerdd The Village Social felly roedd gen i un American eitha bygythiol, un RP (Received Pronunciation) trist iawn ac un gomedi swreal Gymreig – tri hollol wahanol eu naws.

Roedd y rownd derfynol bach mwy fel y cynta, ond yn fwy nerve wracking. Roedd angen dewis tri monolog newydd sbon ac roedd angen teithio i Lundain y noson gynt er mwyn cael sgriptiau i fynd drostynt erbyn y bore wedyn. Rhoddwyd sgriptiau ‘dialogue’ (darn grwp) a ‘dualogue’ (darn i ddau) ini. Gyda’r ‘duologue’ roeddech yn cael eich castio yn bendant mewn rôl felly roedd yn bosib paratoi yn drylwyr, a gyda’r darn grwp roedd gofyn ichi ddod yn gyfarwydd gyda pob rhan ynddo, oherwydd roeddent am eich castio yn y stiwdio jyst cyn recordio. Roedd hyn er mwyn sicrhau eich doniau i wneud pethau byr-rybudd. Eto, roedden nhw’n rhoi monolog hollol newydd. Tro yma, roedd y monologau yn rhai clasurol Saesneg. Ges i lythyr wrth y Frenhines Victoria i’w ewythr felly roedd rhaid  gwneud acen ‘Queen’s English’ sydd ychydig yn wahanol i RP. Dewisais fonologau y tro yma allan o House of Bernanrda Alba, (acen RP) Blue Window (acen Chicago) a Cabaret (Gorllewin Berlin). Y peth anodda’ am y diwrnod oedd rheoli nerfau, a cheisio anghofio mai cystadleuaeth oedd hyn a mwynhau. Os y’ch chi’n relaxed chi’n gweithio’n well.

BJ: Sut deimlad oedd o i glywed dy fod wedi ennill?

CE: Roeddwn i ar y tren adre pan glywais i. Fy ymateb i oedd, ‘Sori?’ Roeddwn i wir methu credu. Roedd na actorion anhygoel yna yn y rownd derfynnol, wyth merch a pedwar dyn, ac roeddwn yn ymwybodol eu bod am ddewis menyw a dyn. Roeddwn i methu credu’r peth ac yn panicio byse signal fy ffôn yn torri allan!

BJ: Beth sy’n digwydd nesaf?

CE: Rwyf eisioes wedi bod i’r BBC i dderbyn fy nghymrodoriaeth ac wedi recordio ‘voice reel’ er mwyn ei rhoi i holl gynhyrchwyr radio y BBC er mwyn fy nghastio yn y dramau sydd i ddod. Fyddai nawr yn recordio dramau BBC Radio 4 a Radio 3 tan ddiwedd y flwyddyn a weithiau yn gorfod defnyddio fy llais ar gyfer pecynnau ffeithiol y newyddion, ayb.

BJ: Beth fyddi di’n methu mwya’ am Gaerdydd?

CE: Pob dim! Fy ffrindiau anhygoel, fy chwaer Nia, Chapter, Dempsey’s, Llwybr Taf, Cowbridge Road, yr Aes… Ysgrifennais ddarn am Gaerdydd ar y ffordd i Lundain i dderbyn fy nghymrodoliaeth. Nes i lefen lot yn ei sgwennu. Ma’r ddinas yma yn agos iawn i fy nghalon, a’r lle cynta fi erioed wedi teimlo mod i ‘adre’ yn fy mywyd.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma