Canolfan Gymraeg i Gaerdydd ?

22 Mai 2015

Datganiad Cyngor Caerdydd

Bydd adroddiad yn cael ei drafod gan Gyngor Dinas Caerdydd ddydd Iau 28 Mai, yn ceisio cymeradwyaeth derfynol i ddatblygu Canolfan Gymraeg yng nghalon canol dinas Caerdydd.

Os cytunir arni, nod y ddarpariaeth fydd hyrwyddo, dathlu a diogelu’r iaith Gymraeg yn y brifddinas drwy greu gofod agored a fydd yn hwyluso’r Gymraeg fel iaith fyw i holl drigolion Caerdydd a’i hymwelwyr.

Mae’r Hen Lyfrgell wedi’i nodi fel lleoliad posibl ar gyfer y ganolfan newydd, sydd hefyd yn gartref i Amgueddfa Stori Caerdydd, a fyddai’n parhau i weithredu ar y safle. Y gobaith yw y bydd y ddau broject, gyda’i gilydd, yn creu atyniad twristiaeth o’r radd flaenaf ar gyfer y sawl sy’n ymweld â’r ddinas, a thrwy eu cydleoli disgwylir gweld buddiannau i’r ddau gyfleuster. Bwriedir i’r amgueddfa ffurfio rhan allweddol o arlwy’r Ganolfan Gymraeg, gan ychwanegu at yr amrywiaeth o gyfleusterau diwylliannol sydd ar gael, gan felly gynyddu apêl y ganolfan i ymwelwyr. Yn yr un modd, drwy gyflwyno Canolfan Gymraeg yn adeilad yr Hen Lyfrgell bydd manteision amlwg yn cael eu creu i Amgueddfa Stori Caerdydd, gan gynnwys mwy o ymwelwyr, cymorth i godi proffil yr amgueddfa a’r cyfle i godi mwy o arian.

O ran y pwysau ariannol byrdymor, bydd yr incwm rhent a godir drwy gytundeb y Ganolfan Gymraeg yn lleihau’r baich ariannol uniongyrchol mewn perthynas â thargedau incwm Amgueddfa Stori Caerdydd.
Ceisiodd y Cyngor gyllid drwy’r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf, cynllun gan Lywodraeth Cymru sydd wedi neilltuo £1 miliwn at y diben o ddatblygu canolfannau Cymraeg a gofodau dysgu arloesol ledled Cymru.

Os cytunir ar y cynlluniau, bydd Menter Caerdydd yn arwain y project aml-bartneriaeth gyda’r ganolfan, a fydd yn cynnwys sawl ‘tenant craidd’ a fydd yn helpu i ddarparu’r project. Mae’r rhain yn cynnwys;

– Prifysgol Caerdydd, a fydd yn rhedeg amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg i bawb o bob oedran, cefndir a lefel, gan gynnwys cyrsiau gloywi ar gyfer siaradwyr Cymraeg sydd o bosibl wedi colli rhywfaint o’u gallu ieithyddol ers gadael yr ysgol. Byddant hefyd yn gyfrifol am broject ymchwil cymunedol ar hanes yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd.
– Clwb Ifor Bach, sydd â dros 30 mlynedd o brofiad yn cyflwyno digwyddiadau Cymraeg yng Nghaerdydd, a fydd yn defnyddio’r ganolfan i arddangos cynnyrch Cymreig, gan gynnwys diodydd a bandiau!
– Mudiad Meithrin, elusen gofrestredig a fydd yn gyfrifol am ofal dydd cyfrwng Cymraeg yng nghanol y ddinas, yn ateb galw sylweddol am wasanaeth o’r fath. Gallant ddarparu ar gyfer 16 o blant y dydd, a byddant yn gweithredu drwy gydol y flwyddyn.
– Mela, asiantaeth gyfathrebu ddwyieithog a fydd yn bennaf gyfrifol am farchnata brand yr Hen Lyfrgell fel atyniad i ymwelwyr
Mae S4C wedi cytuno i gefnogi’r project mewn nwyddau drwy gyflenwi offer rhyngweithiol ar gyfer plant a phobl ifanc ac addurno ardaloedd o’r ganolfan â chymeriadau o raglenni teledu Cymraeg i blant.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale: “Yn 2014, cynhaliodd y Cyngor Gynhadledd Caerdydd Ddwyieithog yn Neuadd y Ddinas a fynychwyd gan sefydliadau o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Prif ddiben y gynhadledd oedd ceisio awgrymiadau a syniadau ynghylch sut y gallem weithio gyda’n gilydd yn well i hyrwyddo, diogelu a meithrin yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd.

“Nododd y Gynhadledd yr angen am gyfleuster pwrpasol a fyddai’n arddangos yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd i bobl gymdeithasu, cyfranogi a mynegi eu hunain mewn amgylchedd dwyieithog. Cafwyd cefnogaeth eang i’r syniad hwn. Byddai’n gartref i nifer o sefydliadau Cymraeg, gan ychwanegu gwerth a chodi eu proffil, a byddai’n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a chyfleoedd i ymwelwyr, pobl ifanc a dysgwyr Cymraeg yn benodol.

“Mae’r Cyngor wedi gweithio gyda phartneriaid allanol i gyflawni nod y Cyngor a Llywodraeth Cymru o greu canolfan diwylliant a threftadaeth unigryw a fyddai’n arwain at amrywiaeth eang o fuddiannau economaidd a chymunedol eraill, gan ychwanegu at yr hyn y gall Caerdydd ei gynnig i ymwelwyr.

“Drwy symud y Ganolfan Gymraeg i’r Hen Lyfrgell, byddwn yn cynyddu ac yn gwella’r hyn sydd ar gael i dwristiaid sy’n ymweld â’r ddinas ac yn creu atyniad ‘un stop’ a fydd yn rhoi cipolwg i ymwelwyr ar yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig gan eu haddysgu am hanes Caerdydd, a arddangosir yn Amgueddfa Stori Caerdydd.

Os caiff ei gymeradwyo, bydd y cyd-gyfleuster newydd hwn yn dwyn yr enw Yr Hen Lyfrgell, a bydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau, gan gynnwys caffi a bar, siop lyfrau, ystafelloedd addysgu, ardal arddangos hyblyg, gofod perfformio a chyfleusterau cynadledda. Byddai’n ffocws ar gyfer diwylliant Cymreig yn y ddinas ac yn ganolfan hygyrch ar gyfer addysg lle gall pobl ddysgu neu ymarfer eu Cymraeg mewn amgylchedd cymdeithasol a chyfeillgar. Gall hefyd wasanaethu fel lab ymchwil i’r iaith a dwyieithrwydd ar y cyd â phartneriaid eraill.

Byddai’r cyfleuster yn arddangos ‘y gorau o Gymru a Chaerdydd’, gan godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth a bwrlwm cyfoes yr iaith Gymraeg yn y brifddinas drwy greu canolfan a nodweddir gan egni, deinameg ac arloesedd a fydd yn cyffroi preswylwyr ac ymwelwyr ac yn ymgysylltu â nhw. Bydd yn ategu gwaith Stori Caerdydd ac yn sefydlu atyniad newydd i ymwelwyr yng nghanol y ddinas.

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma